Pandemig Covid-19: Pandemig a gychwynodd yn Wuhan, Tsieina yn Rhagfyr 2019.

Sylw! Nid yw Wicipedia yn darparu cyngor meddygol nac iechyd.

Gall yr erthygl hon gynnwys gwybodaeth hen ffasiwn neu anghywir. Dim ond gweithiwr iechyd proffesiynol sy'n gallu rhoi cyngor meddygol i chi, a dim ond awdurdodau iechyd eich gwlad sy'n gymwys i roi cyfarwyddiadau iechyd cyhoeddus yn ymwneud â phandemig y Gofid Mawr.

Pandemig a achoswyd gan y coronafirws SARS-CoV-2 ac a ymddangosodd yn gyntaf yn Wuhan, yn nhalaith Hubei, yng nghanolbarth Tsieina yw'r pandemig yma a ddaeth i sylw ledled y byd yn Ionawr 2020. Gelwir y clefyd a achosir gan y firws yma yn COVID-19 (byrfodd rhyngwladol sy'n tarddu o'r geiriau coronavirus disease 2019. Ar 28 Chwefror cafwyd yr achos cyntaf yng Nghymru, yn Abertawe (gweler: Y Gofid Mawr (COVID-19) yng Nghymru).

Prifddinas talaith Hubei yw Wuhan, ac yno y bu farw'r claf cyntaf gan y math newydd hwn o firws; erbyn diwedd y mis roedd 10,000 o achosion wedi eu cadarnhau a 300 o bobl wedi marw. Ar 11 Mawrth, 2020, cyhoeddodd Cyfundrefn Iechyd y Byd (WHO) fod yr 'epidemig' bellach yn 'bandemig'. Dyma'r pandemig cyntaf i gael ei achosi gan un o'r 7 math o goronafirws.

Nifer y marwolaethau / y pen
Nifer y marwolaethau / y pen

Mae cyfnod deori (y cyfnod rhwng dod i gysylltiad a'r firws â datblygiad symptomau) y firws oddeutu 5 diwrnod (rhwng 2 a 14 diwrnod) ac mae'n fwyaf heintus yn ystod y 3 diwrnod cyntaf wedi symptomau gychwyn ond gall drosglwyddo cyn symptomau neu lle nad oes unrhyw symptomau. Mae'r symptomau'n cynnwys twymyn (gwres), peswch, ac anawsterau anadlu, colli synnwyr arogli a gall fod yn angheuol. Mae'r claf yn dioddef o niwmonia. Digwyddodd y trosglwyddiad cyntaf o'r firws y tu allan i Tsieina yn Fietnam, o dad i'w fab. Credir y gall y firws fyw ar arwyneb solad, megis metal neu garreg am gyfnod o 5 diwrnod a tua deuddydd ar ddefnydd meddal megis dilledyn.

Pandemig Covid-19: Tarddiad, Achosion, Gweler hefyd
Cyfarwyddiadau dwyieithog gan Lywodraeth Cymru a GIG
Pandemig Covid-19: Tarddiad, Achosion, Gweler hefyd
Silffoedd gwag ym Mangor, gyda phobl yn prynu mwy nag arfer o nwyddau fel sebon gwrthfeiotig, papur lle chwech, a bwyd hir oes megis tuniau o diwna. Mawrth 2020.

Mewn ymateb i'r haint, ataliwyd dinasoedd â phoblogaeth o dros 57 miliwn o bobl (gan gynnwys Wuhan) a 15 o ddinasoedd yn nhalaith Hubei o gwmpas tarddiad yr epidemig rhag teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus gan gynnwys cludiant o'r ddinas ar fysiau trên ac awyr. Erbyn 12 Mawrth 2020, cadarnhawyd dros 134,000 o achosion mewn mwy na 120 o wledydd a thiriogaethau, gyda Tsieina, yr Eidal, De Korea, ac Iran wedi ei chael yn ddrwg iawn. Cyrhaeddodd yr achos cyntaf Cymru ar 28 Chwefror, pan gyrhaeddodd claf ei gartref yn Abertawe wedi ymweliad a gogledd yr Eidal.

Tarddiad

O'r 41 person cyntaf y cadarnhawyd gan PCR eu bod wedi'u heintio, canfuwyd bod gan ddwy ran o dair gysylltiad â Marchnad Gyfanwerthol Bwyd Môr Huanan, a oedd hefyd yn gwerthu anifeiliaid byw.

Y firws hwn, felly, yw'r 7fed math o goronafirws i heintio bodau dynol. Mae dilyniant y genom 2019-nCoV yn 75 i 80% yn union yr un fath â SARS-CoV, ac yn fwy na 85% yn debyg i sawl coronafirws a geir mewn ystlumod.

Achosion

Mae 'achosion' yn cyfeirio at nifer y bobl sydd wedi cael eu profi'n bositif o COVID-19, yn ôl protocolau swyddogol. Ar 29 Ebrill, roedd 1.4% o boblogaeth y gwledydd hynny sy'n cyhoeddi eu data, ac nid oedd yr un wlad wedi profi samplau sy'n hafal i fwy na 14% o'i phoblogaeth. Ceir sawl astudiaeth sy'n dangos fod y nifer o achosion, bron ym mhob gwlad, yn uwch na'r niferoedd swyddogol.

Mae dadansoddiad yn ôl oedran yn Tsieina yn dangos bod cyfran gymharol isel o achosion yn digwydd mewn unigolion o dan 20 oed. Nid yw'n glir a yw hyn oherwydd bod pobl ifanc mewn gwirionedd yn llai tebygol o gael eu heintio, neu'n llai tebygol o ddatblygu symptomau difrifol a cheisio sylw meddygol a chael eu profi.

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

Dolenni allanol

Tags:

Pandemig Covid-19 TarddiadPandemig Covid-19 AchosionPandemig Covid-19 Gweler hefydPandemig Covid-19 CyfeiriadauPandemig Covid-19 Dolenni allanolPandemig Covid-19

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

ChicagoRhyfel Gaza (2023‒24)AnadluHentai KamenPrif Weinidog CymruCeredigionLead BellySafleoedd rhywRhestr blodauSalwch bore drannoethRhys MwynAwstraliaWiciDydd Iau1971John Frankland RigbyAtorfastatinAmerican Dad XxxGwybodaethGogledd IwerddonWaxhaw, Gogledd CarolinaAntony Armstrong-Jones10fed ganrifRSSImmanuel KantAfon HafrenAlldafliad benywTwrciBrân (band)Mette FrederiksenChildren of DestinyHywel Hughes (Bogotá)Cyfarwyddwr ffilmYr wyddor GymraegPortiwgalegTsunamiBorn to DancePlanhigynAfon Conwy1902iogaMynydd IslwynAnton YelchinCalifforniaRhywGwyddoniasEmmanuel MacronRyan DaviesAdnabyddwr gwrthrychau digidolAngela 2Hen Wlad fy NhadauWikipediaYr Undeb EwropeaiddAdar Mân y MynyddPeillian ach CoelContactNewyddiaduraethBad Day at Black RockBerliner FernsehturmPlas Ty'n DŵrMahanaAlmaenWicidataFfilm llawn cyffroFfiseg2020au🡆 More