Tsieina

Mae Tsieina (hefyd Tseina neu China) (Tsieineeg traddodiadol: 中國, Tsieineeg symledig: 中国, pinyin:  Zhōngguó ) yn endid gwleidyddol a daearyddol yn nwyrain Asia.

Tsieina
Zhōnghuá Rénmín Gònghéguó
中华人民共和国
Tsieina
MathGwlad
Enwyd ar ôlQin, Chu, Yelang, Khitan people, Jin, Tuoba, Dahe, Brenhinllin Han, Northern Wei, Rinan, Qi, Chengdu Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+08:00 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Cyfesurynnau35°N 105°E Edit this on Wikidata
Tsieina
    Pwnc yr erthygl hon yw y gwareiddiad Tsieineeg a'r ardal ddaearyddol yn nwyrain Asia. Os am ystyron eraill y gair gweler Tsieina (gwahaniaethu).

Mae'n wlad yn Nwyrain Asia ac yn weriniaeth sosialaidd un blaid unedol dan arweiniad Plaid Gomiwnyddol Tsieina (CPC). Hi yw gwlad fwyaf poblog y byd, gyda phoblogaeth o fwy na 1.4 biliwn. Mae Tsieina'n dilyn un amser safonol sef UTC + 08: 00 er ei fod, mewn gwirionedd, yn rhychwantu pum cylchfa amser daearyddol ac yn ffinio â 14 gwlad, yr ail fwyaf o unrhyw wlad yn y byd, ar ôl Rwsia. Mae ei harwynebedd oddeutu 9.6 miliwn cilometr sgwâr (3.7 miliwn milltir2), hi yw trydedd neu bedwaredd wlad fwyaf y byd. Rhennir y wlad yn swyddogol yn 23 talaith (Saesneg: province, Mandarin: Shěng-jí xíngzhèngq), pum rhanbarth ymreolaethol, a phedair bwrdeirefyn Beijing (y brifddinas), Tianjin, Shanghai (y ddinas fwya), a Chongqing, yn ogystal â dau ranbarth gweinyddol arbennig: Hong Cong a Macu.

Tsieina

Daeth Tsieina i'r amlwg fel un o wareiddiadau cynta'r byd, ym masn ffrwythlon yr Afon Felen (y Huang He) ynng Ngwastadedd Gogledd Tsieina. Roedd Tsieina yn un o bwerau economaidd mwyaf blaenllaw'r byd ar gyfer y rhan fwyaf o'r ddwy fileniwm o 1g tan y 19g. Am filoedd o flynyddoedd, roedd system wleidyddol Tsieina wedi'i seilio ar frenhiniaeth etifeddol absoliwt, neu linach (dynasty), gan ddechrau gyda llinach Xia yn 21g CC. Ers hynny, mae Tsieina wedi ehangu, chwalu ac ail-uno sawl gwaith. Yn y 3g CC, adunodd y Qin y rhan fwyaf o Tsieina a sefydlu'r ymerodraeth Tsieineaidd gyntaf sef Brenhinllin Qin. Gwelodd Brenhinllin Han a'i holynodd (206 ÔC-220 ÔC) beth o'r dechnoleg fwyaf datblygedig ar yr adeg honno, gan gynnwys cynhyrchu papur a'r cwmpawd, ynghyd â gwelliannau amaethyddol a meddygol, powdwr gwn ac argraffu yn ystod Brenhinllin Tang (618-907) a Brenhiniaeth y Song Gogleddol (960–1127).

Ymledodd diwylliant Tang yn eang drwy Asia, wrth i'r Ffordd y Sidan newydd ddod â masnachwyr gyn belled â Mesopotamia a Chorn Affrica.

Dioddefodd Brenhinllin Qing yn drwm dan ormes imperialaeth tramor, negis Lloegr. Dyma linach olaf Tsieina, a sail tiriogaethol ar gyfer y Tsieina fodern. Cwympodd brenhiniaeth Tsieineaidd ym 1912 gyda Chwyldro 1911, pan ddisodlodd Gweriniaeth Tsieina (ROC) Brenhinllin Qing. Ymosododd Ymerodraeth Japan ar Tsieina yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Yn 1948 arweiniodd Rhyfel Cartref Tseina at rannu tiriogaethau pan sefydlodd Plaid Gomiwnyddol Tseiniaidd (CCP), dan arweiniad Mao Zedong, Weriniaeth Pobl Tsieina ar dir mawr Tsieina tra enciliodd Kuomintang dan arweiniad llywodraeth ROC i ynys Taiwan. Yn 2021 roedd y PRC a'r ROC ill dau'n honni mai nhw yw unig lywodraeth gyfreithlon Tsieina, gan arwain at anghydfod parhaus hyd yn oed ar ôl i'r Cenhedloedd Unedig gydnabod y PRC fel y llywodraeth sqyddogol.

Mae'r wlad yn aelod parhaol o Gyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig ac yn aelod o sawl sefydliad fel Banc Buddsoddi Seilwaith Asiaidd, Cronfa'r Ffordd y Sidan, y Banc Datblygu Newydd, Sefydliad Cydweithredol Shanghai, a'r Partneriaeth Economaidd Cynhwysfawr Rhanbarthol, ac mae hefyd yn aelod o BRICS, y G8 + 5, y G20, APEC, ac Uwchgynhadledd Dwyrain Asia.

Mae ymhlith yr isaf o holl wledydd y byd mewn mesuriadau rhyngwladol o ran: rhyddid sifil, tryloywder ei llywodraeth, rhyddid y wasg, rhyddid crefydd a lleiafrifoedd ethnig. Mae awdurdodau Tsieineaidd wedi cael eu beirniadu gan wleidyddol ac actifyddion hawliau dynol am gam-drin hawliau dynol ar raddfa fawr, gan gynnwys gormes gwleidyddol, sensoriaeth dorfol, monitro torfol o'u dinasyddion ac atal protestiadau mewn modd treisgar.

Ar ôl diwygiadau economaidd ym 1978, a'i mynediad i Sefydliad Masnach y Byd yn 2001, daeth economi Tsieina yn wlad ail-fwyaf trwy Gynnyrch Mewnwladol Crynswth enwol yn 2010 a thyfodd i'r mwyaf yn y byd o ran PPP yn 2014. Tsieina yw'r economi sy'n tyfu gyflymaf yn y byd, y genedl ail gyfoethocaf yn y byd, a gwneuthurwr ac allforiwr mwya'r byd. Mae gan y genedl fyddin sefydlog gryfaf yn y byd - Byddin Rhyddid y Bobl - y gyllideb amddiffyn ail-fwyaf, ac mae'n wladwriaeth arfau niwclear gydnabyddedig. Caiff ei chyfri'n uwch-bŵer posib oherwydd ei heconomi fawr a'i grym milwrol.

Geirdarddiad

Benthyciodd y Gymraeg y gair Tsieina o'r Saesneg China ers yr 16g; fodd bynnag, nid y gair hwn a ddefnyddiwyd gan y Tsieineaid eu hunain yn ystod y cyfnod hwn. Mae ei darddiad wedi cael ei olrhain trwy'r Bortiwgaleg, Maleieg a Pherseg čin (چین) yn ôl i'r gair Sansgrit cīna (चीन), a ddefnyddir yn yr India hynafol.

Defnyddiwyd cīna yn gyntaf yn yr ysgrythur Hindŵaidd gynnar, gan gynnwys y Mahābhārata (5g CC) a Deddfau Manu (2g CC). Yn 1655, awgrymodd Martino Martini fod y gair China yn deillio yn y pen draw o enw Brenhinllin Qin (221–206 CC). Er bod defnydd mewn ffynonellau Indiaidd yn rhagflaenu'r frenhiniaeth hon, rhoddir y tarddiad hwn mewn amryw ffynonellau o hyd. Mae tarddiad y gair Sansgrit yn destun dadl, yn ôl Geiriadur Saesneg Rhydychen. Ceir awgrymiadau niferus gan gynnwys yr enwau ar gyfer Yelang a thalaith Jing neu Chu.

Hanes

Cynhanes

Tsieina 
Crochenwaith 10,000 mlwydd oed, diwylliant Ogof Xianren (18000-7000 BCE)

Ceir tystiolaeth archeolegol sy'n awgrymu bod hominidau cynnar yn byw yn Tsieina 2.25 miliwn o flynyddoedd yn ôl (CP). Darganfuwyd ffosiliau hominid Dyn Peking (Homo erectus pekinensis), Homo erectus a ddefnyddiai dân, mewn ogof yn Zhoukoudian ger Beijing; dyddiwyd y gweddillion yma i rhwng 680,000 a 780,000 o flynyddoedd yn ôl. Darganfuwyd dannedd ffosiledig Homo sapiens (dyddiedig i 125,000-80,000 CP) yn Ogof Fuyan yn Sir Dao, Hunan. Gwyddom fod ysgrifennu cynnar yn bodoli yn Jiahu tua 7000 CC, a hefyd yn Damaidi tua 6000 BCE, Dadiwan rhwng 5800 a 5400 BCE, a Banpo a ddyddiwyd i'r 5ed mileniwm CC. Mae rhai ysgolheigion wedi awgrymu mai symbolau Jiahu (7fed mileniwm BCE) oedd y system ysgrifennu Tsieineaidd gynharaf.

Rheol dynastig gynnar

Tsieina 
Yinxu, adfeilion prifddinas Brenhinllin Shang hwyr (o'r 14g CC)

Yn ôl traddodiad Tsieineaidd, y brenhinllyn cyntaf oedd y Xia, a ddaeth i'r amlwg tua 2100 CC. Roedd llinach Xia yn nodi dechrau system wleidyddol o frenhiniaeth etifeddol, neu linach, a barhaodd am mileniwm gyfan. Ystyriwyd y linach yn ffuglen chwedlonol gan haneswyr nes i dystiolaeth gwyddonol drwy archaeoleg ddod o hyd i safleoedd cynnar yn yr Oes Efydd yn Erlitou, Henan ym 1959. Mae'n parhau i fod yn aneglur ai olion llinach Xia neu ddiwylliant arall o'r un cyfnod yw'r safleoedd hyn. Brenhinllin olynol Shang yw'r cynharaf i gael ei gadarnhau gan gofnodion cyfoes. Roedd y Shang yn rheoli gwastadedd yr Afon Felen (Huang He) yn nwyrain Tsieina o'r 17g i'r 11g CC.

Gorchfygwyd y Shang gan y Zhou, a deyrnasodd rhwng yr 11g a'r 5g CC. Yn y pen draw, daeth rhai tywysogaethau i'r amlwg o'r Zhou gwan, nad oeddent bellach yn ufuddhau'n llawn i frenin Zhou, ac a oedd yn rhyfela'n barhaus gyda'i gilydd dros gyfnod o 300 mlynedd. Erbyn cyfnod y Gwladwriaethau Rhyfelgar o'r 5ed - 3g CC, dim ond saith talaith bwerus oedd ar ôl.

Tsieina Ymerodrol

Tsieina 
Mae ymerawdwr cyntaf Tsieina, Qin Shi Huang, yn enwog am iddo uno waliau'r Taleithiau Rhyfelgar i ffurfio Mur Mawr Tsieina. Mae'r rhan fwyaf o'r strwythur presennol, fodd bynnag, yn dyddio i linach Ming.

Daeth Cyfnod y Gwladwriaethau Rhyfelgar i ben yn 221 CC ar ôl i Frenhinllyn Qin orchfygu'r chwe theyrnas arall, aduno Tsieina a sefydlu trefn ddominyddol awtocrataidd. Cyhoeddodd y Brenin Zheng o Qin ei hun yn Ymerawdwr Cyntaf llinach Qin. Deddfodd ddiwygiadau cyfreithiiol Qin ledled Tsieina, gan safoni cymeriadau (ysgrifen) Tsieineaidd, mesuriadau safonol, lled ffyrdd (h.y., hyd echelau cart), ac arian cyfred. Gorchfygodd ei linach lwythau Yue yn Guangxi, Guangdong, a Fietnam. Dim ond pymtheng mlynedd y parhaodd llinach Qin, gan ddymchwel yn fuan ar ôl marwolaeth yr Ymerawdwr Cyntaf, wrth i’w bolisïau awdurdodol, llym arwain at wrthryfel eang.

Teyrnasoedd Ffiwdal

Ymerodraeth Tsieina

  • 221 CC – 206 CC Brenhinllin Qin
  • 206 CC – 220 OC Brenhinllin Han
  • 220 – 280 Cyfnod y Tair Teyrnas
  • 265 – 420 Brenhinllin Jin
  • 316 – 439 Cyfnod yr Un Teyrnas ar Bymtheg
  • 420 – 589 Brenhinllin y De a'r Gogledd
  • 581 – 618 Brenhinllin Sui
  • 618 – 907 Brenhinllin Tang
  • 907 – 960 Cyfnod y Pum Brenhinllin a'r Deg Brenin
  • 916 – 1125 Brenhinllin Liao
  • 960 – 1279 Brenhinllin Song
  • 1032 – 1227 Xia Gorllewinol
  • 1115 – 1234 Brenhinllin Jin
  • 1279 – 1368 Brenhinllin Yuan
  • 1368 – 1644 Brenhinllin Ming
  • 1644 – 1911 Brenhinllin Qing

Yn dilyn Gwrthyfel Xinhai, ymddiswyddodd yr Ymerodres Longyu ar ran yr ymerawdwr olaf, Puyi, ar 12 Chwefror 1912.

Yn 1949 rhannwyd Tsieina yn ddwy wladwriaeth:

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

Tsieina 
Israniadau gweinyddol Gweriniaeth Pobl Tsieina
Taleithiau AnhuiFujianGansuGuangdongGuizhouHainanHebeiHeilongjiangHenanHubeiHunanJiangsuJiangxiJilinLiaoningQinghaiShaanxiShandongShanxiSichuanYunnanZhejiang
Taleithiau dinesig BeijingChongqingShanghaiTianjin
Rhanbarthau ymreolaethol GuangxiMongolia FewnolNingxiaTibetXinjiang
Rhanbarthau Gweinyddol Arbennig Hong CongMacau

Tags:

Tsieina GeirdarddiadTsieina HanesTsieina CyfeiriadauTsieinaAsiaDelwedd:Zh-zhongguo.oggTsieineegWicipedia:TiwtorialZh-zhongguo.ogg

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

Bartholomew RobertsCurvePla DuAbertawe (sir)Megan Hebrwng MoethusY Deyrnas UnedigMaer20gGramadegTwo For The MoneyArlunyddFfraincFfilmCymbrieg365 DyddRobert GwilymPab Innocentius IXBeijingMichael D. Jones69 (safle rhyw)Alhed LarsenContactCascading Style SheetsIndiaLos AngelesCaerSiarl I, brenin Lloegr a'r AlbanThe Big Town Round-UpCaernarfonBaskin-RobbinsTwyn-y-Gaer, LlandyfalleRhydRhestr llynnoedd CymruDulynE. Wyn JamesPerlysieuynYsgol SulAngela 2Englar AlheimsinsDylan EbenezerDmitry MedvedevHermitage, BerkshireBysCaersallogSteffan CennyddMark Stacey25System rheoli cynnwysDiwydiant llechi CymruCristofferCipinElisabeth II, brenhines y Deyrnas UnedigFreshwater WestCaerfyrddinRalphie MayCockwoodActorCombpyneAmaethyddiaethGini NewyddNovialAndrew ScottThomas Edwards (Yr Hwntw Mawr)🡆 More