Y Pandemig Covid-19 Ym Mhalesteina

Mae'r pandemig COVID-19 ym Mhalestina yn rhan o bandemig byd-eang clefyd coronafirws 2019 (COVID-19) a achosir gan syndrom anadlol acíwt difrifol coronafirws 2 (SARS-CoV-2).

Cofnodwyd yr achosion gyntaf yn Ninas Gaza, ar 21 Mawrth 2020. Ar 24 Awst 2020, cofnodwyd achosion a gadarnhawyd y tu allan i ganolfannau cwarantîn. Mae'r nifer a fu farw dros 3,604 (Gorffennaf 2021).

Y pandemig COVID-19 ym Mhalesteina
Y Pandemig Covid-19 Ym Mhalesteina
Enghraifft o'r canlynolpla o afiechyd Edit this on Wikidata
Lladdwyd3,604 Edit this on Wikidata
GwladBaner Palesteina Palesteina
Rhan opandemig COVID-19 yn Asia, pandemig COVID-19 yn ôl gwlad Edit this on Wikidata
Dechreuwyd5 Mawrth 2020 Edit this on Wikidata
LleoliadGwladwriaeth Palesteina Edit this on Wikidata
Yn cynnwys2020 COVID-19 pandemic in Bethlehem Edit this on Wikidata
GwladwriaethGwladwriaeth Palesteina Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Dywedodd uwch swyddog y Cenhedloedd Unedig yn y wlad wrth y Cyngor Diogelwch mewn cyfarfod cynhadledd fideo 23 Ebrill 2020 fod Israeliaid a Palestiniaid yn cydweithredu mewn ffyrdd newydd sbon i ddelio â’r pandemig ond bod yn rhaid i Israel wneud mwy i ddiogelu iechyd pawb sydd o dan ei rheolaeth.

Yn ôl dadansoddiad gan Haaretz (newyddion asgell chwith Israel) ar 22 Gorffennaf 2020, roedd pryder y gallai'r sefyllfa fynd y tu hwnt i bob rheolaeth. Yn dilyn torri cydgysylltiad diogelwch a chysylltiadau sifil gydag Israel, rhoddodd Awdurdod Cenedlaethol Palesteina y gorau i gydlynu ar drin cleifion ag Israel. Rhoesant y gorau hefyd i dderbyn post a phecynnau trwy borthladdoedd Israel a thorrwyd pob cydgysylltiad â byddin Israel (yr IDF) yn ogystal â'r Shin Bet (Asiantaeth Cudd Israel). Daeth croesi'r ffin ag Israel i ben hefyd. Ar ben hyn, cafodd yr anghydfod ag Israel ynghylch refeniw treth effaith economaidd ddifrifol.

Ar 31 Awst 2020, yn ôl Cydlynydd Dyngarol y Cenhedloedd Unedig, Jamie McGoldrick, "Mae'r dirywiad a welwyd yn Llain Gaza yn ystod yr wythnosau diwethaf yn destun pryder mawr." Dywedodd "Mae toriadau pŵer (trydan, dwr ayb) yn effeithio'n ddifrifol ar ysbytai yn ogystal ag unedau gofal dwys." a galwodd ar Israel "i ganiatáu ailddechrau mewnforio tanwydd i'r Llain Gaza ar unwaith, yn unol â'i rwymedigaethau fel gwlad sydd wedi goresgyn gwlad arall." Dechreuodd y broses o frechu ar 21 Mawrth 2021.

Cefndir

Ar 12 Ionawr 2020, cadarnhaodd Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) mai coronafirws newydd oedd achos salwch y clwstwr o bobl yn Ninas Wuhan, Talaith Hubei, Tsieina, a adroddwyd i'r WHO ar 31 Rhagfyr 2019. Mae'r gymhareb marwolaeth achos ar gyfer COVID-19 wedi bod yn llawer is na SARS yn 2003, ond mae'r trosglwyddiad wedi bod yn sylweddol uwch, gyda chyfanswm marwolaeth sylweddol fwy.

Brechlynnau

Anghydfod ynghylch cyfrifoldeb

Sefyllfa ryngwladol

Yn ôl yr Athro Cyfraith Ryngwladol Eyal Benvenisti, "O dan gyfraith ryngwladol ac o dan gyfraith gyhoeddus Israel, fel y'i dehonglwyd gan Oruchaf Lys Israel, mae'n ddyletswydd ar lywodraeth Israel i sicrhau bod y boblogaeth yn y tiriogaethau'n cael eu brechu." Dyma'r safbwynt a gymerwyd gan Amnest Rhyngwladol, Human Rights Watch, a sefydliadau hawliau dynol eraill. Dywed corff hawliau dynol y Cenhedloedd Unedig fod "gwahaniaethu" yn annerbyniol yn foesol ac yn gyfreithiol "o dan gyfraith ryngwladol a nodwyd yng Nghonfensiynau Genefa ar reoleiddio tiriogaethau dan feddiant." Dywed arbenigwyr y Cenhedloedd Unedig fod cyfraith ryngwladol yn cael blaenoriaeth dros gytundebau Oslo a bod “pedwerydd Confensiwn Genefa yn benodol ynglŷn â dyletswydd y pŵer meddiannu i ddarparu gofal iechyd” ond bod Israel yn aml yn dadlau nad yw’n bŵer meddiannu. Galwodd sawl seneddwr o’r Unol Daleithiau ar lywodraeth yr UD i gymryd rhywfaint o gamau i orfodi Israel i ddarparu brechlynnau o’r fath.

Cyflwyno brechu

Y Pandemig Covid-19 Ym Mhalesteina 
Cyfarfod argyfwng yn Qusin
Y Pandemig Covid-19 Ym Mhalesteina 
Stryd yn Amman, Nablus yn wag oherwydd y clo mawr
Y Pandemig Covid-19 Ym Mhalesteina 
Stryd yn Madinah Al Munawwarah Street, Salfit
Y Pandemig Covid-19 Ym Mhalesteina 
Y Farchnad, Tulkarm

Mae Hamas ac Awdurdod Cenedlaethol Palesteina wedi ymuno â rhaglen y Gynghrair Fyd-eang ar gyfer Brechlynnau ac Imiwneiddio (GAVI) a gefnogir gan WHO a'r Cenhedloedd Unedig, sy'n targedur yr 20% mwyaf bregus o'r boblogaeth. Dywedodd arweinwyr Palestina na allant fforddio un o'r brechlynnau Pfizer-BioNTech na Moderna. Adroddwyd bod Rwsia wedi cynnig 4 miliwn dos o'i brechlyn Sputnik V. Ar 9 Ionawr 2021, dywedodd Mai Alkaila nad oedd dyddiad penodol ar gyfer cyrraedd brechlynnau, y cysylltwyd â phedwar cwmni cynhyrchu brechlyn ac y byddai 70% o'r boblogaeth yn cael eu brechu tra byddai Sefydliad Iechyd y Byd yn cyflenwi 20 y cant. Mae Amnest wedi mynnu y dylai Israel ddarparu brechlynnau i Balesteiniaid sy'n byw yn y Lan Orllewinol ond nid yw'r Awdurdod Palestina wedi gofyn am gymorth i Israel.

Mae Gweinidog Iechyd Israel, Yuli Edelstein, wedi dweud bod yn rhaid i ddinasyddion Israel ddod yn gyntaf ac mewn ymateb i apêl gan Feddygon dros Hawliau Dynol bod “Israel yn ysgwyddo cyfrifoldeb moesol a dyngarol am frechu poblogaeth Palesteina, sydd o dan ei rheolaeth”. Ar 10 Ionawr 2021, dywedodd Mai Alkaila fod Awdurdod Palesteina wedi awdurdodi brechlyn Sputnik V. Dywedodd Cronfa Buddsoddi Uniongyrchol Rwsia y byddai danfoniadau i Balesteiniaid yn dechrau yn Chwefror. Dywed swyddogion iechyd eu bod yn disgwyl derbyn dwy filiwn dos o'r brechlyn Rhydychen-AstraZeneca ym Mawrth. Yn ôl Hussein al-Sheikh, y prif swyddog Palestina sydd â gofal am gydlynu ag Israel, gofynnodd Awdurdod Palesteina i Israel am hyd at 10,000 dos o frechlyn ar gyfer gweithwyr meddygol rheng flaen. Dywedodd Mai Alkaila mai gweithwyr iechyd fyddai gyntaf i dderbyn unrhyw frechlyn. Ar 1 Chwefror 2021, cadarnhawyd bod Israel wedi awdurdodi trosglwyddo 5,000 dos o'r brechlyn Moderna. Yn ôl Haaretz, dosbarthwyd y 2,000 cyntaf ar 1 Chwefror 2021.

Wrth siarad mewn cynhadledd i’r wasg ar y cyd â llysgennad Rwseg i Palestina Gocha Buachidze, dywedodd y Gweinidog Iechyd Mai Alkaila y byddai'r swp cyntaf o 10,000 dos o’r brechlyn Sputnik V a dderbyniwyd ar 4 Chwefror 2021 yn cael ei ddyrannu i bum mil o staff meddygol, yn bennaf ym Mhalestina a sypiau eraill o frechlyn Rwseg yn dilyn hynny.

Pan gyrhaeddodd y llwyth cyntaf o 2,000 o frechlynnau SputnikV coronavirus a fwriadwyd ar gyfer gweithwyr iechyd rheng flaen yn y Llain ar y ffin ddydd Llun 15 Chwefror, cafodd ei gludiant ei rwystro gan swyddogion ffiniau Israel. Yn y pen draw, yr awdurdod sy'n gyfrifol am gludo nwyddau o'r fath yw uned swyddfa Prif Weinidog Israel sy'n delio â diogelwch cenedlaethol. Dywedodd swyddogion fod yr oedi wrth basio'r meddyginiaethau oherwydd y ffaith bod y mater yn dal i gael ei adolygu. Ar 17 Chwefror 2021, derbyniodd Gaza fil dos o'r brechlyn Sputnik. Roedd yr ymgais gychwynnol i drosglwyddo'r brechlynnau, felly, wedi ei rhwystro'n llwyddiannus gan Israel.

Erbyn 9 Mawrth 2021, ar gyfer 5.2 miliwn o drigolion y Lan Orllewinol a Gaza, roedd tua 34,700 brechlyn wedi’u dosbarthu, rhai o Rwsia ac Israel, ond dros hanner (20,000) o’r Emiraethau Arabaidd Unedig gyda’r rhain i fod i bobl Gaza.

Ar 18 Mehefin 2021, cyhoeddodd Llywodraeth Israel ei bod wedi gwneud cytundeb gydag Awdurdod Palesteina i drosglwyddo o leiaf miliwn dos o’r brechlyn Pfizer-BioNTech COVID-19. Yn anffodus, roedd dyddiad 'diwedd-oes' y brechlynnau hyn i ddod i ben o fewn dyddiau. Yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw, canslodd yr Awdurdod Palestina y fargen ar y sail bod dyddiadau dod i ben y brechlynnau yn agosach na'r hyn a ddywedwyd yn wreiddiol gan yr Israeliaid. Er bod Israel yn defnyddio'r un brechlynnau ar gyfer pobl ifanc Israel, roedd eu cyflenwad nhw'n rhai diweddar.

Achosion

Gwersylloedd ffoaduriaid Palesteinaidd

Ar 22 Ebrill, y cafwyd yr achos cyntaf mewn gwersyll ffoaduriaid: person o Syria a hynny yng ngwersyll ffoaduriaid Wavel yn Bekaa, Libanus. Ar 24 Ebrill, cadarnhaodd Gweinyddiaeth Materion Tramor Palestina o 4 achos arall yng ngwersyll ffoaduriaid Al-Jalil, gan godi'r cyfanswm i bump.

Y Pandemig Covid-19 Ym Mhalesteina 
Ysbyty Hugo Chávez ar 3 Awst 2020, a ddefnyddir fel canolfan ar gyfer trin achosion o COVID-19 ym Mhalestina


Cyfeiriadau

Tags:

Y Pandemig Covid-19 Ym Mhalesteina CefndirY Pandemig Covid-19 Ym Mhalesteina BrechlynnauY Pandemig Covid-19 Ym Mhalesteina AchosionY Pandemig Covid-19 Ym Mhalesteina CyfeiriadauY Pandemig Covid-19 Ym MhalesteinaCoronafirwsGazaLlain GazaPandemig COVID-19SARS-CoV-2

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

Christel PollAylesburySarpy County, NebraskaTocsinMonsantoYr AntarctigAbigailWsbecistanLouis Rees-ZammitGoogle Chrome69 (safle rhyw)Sutter County, CalifforniaHamesima XHentai KamenCelia ImrieMartin AmisAnifailDes Arc, ArkansasJoe BidenInternational Standard Name IdentifierPalo Alto, CalifforniaPaliBettie Page Reveals AllIeithoedd CeltaiddBanner County, NebraskaLloegrHanes yr Ariannin1195Natalie WoodEfrog Newydd (talaith)ArizonaArolygon barn ar annibyniaeth i GymruLiberty HeightsNuckolls County, NebraskaHighland County, OhioBaxter County, ArkansasGary Robert Jenkins1642Mineral County, MontanaMackinaw City, MichiganJohn BetjemanRichard Bulkeley (bu farw 1573)Eglwys Santes Marged, WestminsterY Rhyfel Byd CyntafWood County, OhioYr Ymerodraeth OtomanaiddGertrude BaconTomos a'i FfrindiauBrasilWilliam S. BurroughsCoeur d'Alene, IdahoPreble County, OhioPlanhigyn blodeuolAmericanwyr SeisnigBaltimore County, MarylandJones County, De DakotaThe BeatlesYr Oesoedd CanolRhyw llawMeridian, MississippiStanley County, De DakotaPDGFRBFfilm bornograffigSex and The Single GirlWolcott, Vermont681CymraegEnaidBlack Hawk County, IowaGallia County, OhioGeorgia (talaith UDA)Hempstead County, ArkansasPriddPerkins County, NebraskaDemolition Man🡆 More