Gwenwyn a gynhyrchir yn fiolegol gan organeb byw yw tocsin.
Defnyddir y term yn enwedig i ddisgrifio sylweddau gwenwynig a gynhyrchir gan micro-organebau megis bacteriwm, dinofflangellogion, ac algâu. Cynhyrchir mycotocsinau gan ffyngau, phytotocsinau neu lyswenwynau gan blanhigion fasgwlaidd, a söotocsinau gan anifeiliaid.
Rhennir tocsinau yn endotocsinau ac ecsotocsinau. Sylwedd polysacarid a ffosffolipid yw'r endotocsin a geir mewn cellfuriau. Rhyddheir endotocsin pan mae'r gell yn marw neu'n chwalu. Tocsin a secretir gan gell fyw i mewn i'w hamgylchedd yw ecsotocsin. Grŵp amrywiol o broteinau hydawdd yw'r rhain.
Tocsoid yw'r enw ar docsin protein sydd wedi ei wresogi neu ei drin yn gemegol er mwyn atal ei wenwyn, ond ni effeithir ar ei allu i achosi'r corff i greu gwrthgyrff.
Mae'n bosib bod rhai tocsinau yn chwarae rhan anhysbys mewn metabolaeth yr organeb sy'n eu cynhyrchu, ac eraill yn gynnyrch gwastraff sydd heb bwrpas o gwbl. Ond mae'n amlwg bod gan nifer o docsinau eraill swyddogaethau pwysig a esblygodd er mwyn iddynt oroesi'r gystadleuaeth ecolegol. Gwyddys am filoedd o phytotocsinau sy'n amddiffyn y planhigyn yn erbyn anifeiliaid, yn enwedig pryfed. Cyhyrchir secretiadau tocsig gan nifer o anifeiliaid, naill ai ar draws holl feinwe'r corff (e.e. croen neu allsgerbwd) neu ar ran arbennig o'r corff, megis drwy bigau, drain neu'r dannedd. Modd o lonyddu neu ladd ysglyfaeth ac i amddiffyn yn erbyn ysglyfaethwyr yw gwenwyn anifeiliaid megis corynnod a nadroedd.
Yn y corff dynol, mae tocsin yn ymddwyn fel antigen ac yn peri ymateb y system imiwnedd. Achosir symptomau nifer o afiechydon gan docsinau a ryddheir i mewn i'r corff gan facteria. Daw'r geri marwol o'r tocsin Vibrio cholera, a thetanws o Clostridium tetani. Cynhyrchir tetrodotocsin gan afu ac wyfeydd y chwyddbysgodyn. Daw'r afflatocsin o ffwng sy'n tyfu ar gnau daear, a gall hwn achosi gwenwyn yr afu. Mae'n bosib i bysgod a physgod cregyn bwytadwy droi'n wenwynig os ydynt yn bwyta planhigion neu algâu tocsig. Trosglwyddir y tocsinau i'r bod dynol sy'n ei fwyta, gan effeitho ar y system nerfol ac o bosib achosi ciguatera.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Tocsin, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.