Sylwedd cemegol yw gwenwyn sy'n achosi aflonyddwch i organebau, trwy niweidio iechyd neu ladd pan caiff ei lyncu, ei anadlu, neu ei amsugno.
Tocsin yw gwenwyn naturiol, a tocsicant yw gwenwyn a greir gan fodau dynol.
Defnyddir y term "gwenwyn" i ddisgrifio sylwedd sy'n achosi niwed mewn maint cymharol bychan, ond yn dechnegol mae'n amhosib i ddweud bod sylwedd yn gwbl wenwynig neu'n anwenwynig. Mae gan bob sylwedd lefelau gwahanol o wenwyndra, ac yn ôl rhai tocsicolegwyr mae pob sylwedd yn "wenwynig", yn dibynnu ar y dos. Oherwydd hyn, y diffiniad ymarferol o wenwyn yw sylwedd sydd yn peri perygl realistig.
Yn glinigol rhennir gwenwynau yn ddau gategori: gwenwynau sy'n ymateb i driniaethau neu wrthwenwynau, a gwenwynau sydd heb driniaeth benodol. Mae datblygu triniaethau yn erbyn gwenwynau yn tynnu sylw llawer o ymchwil meddygol, ond ychydig yw'r gwrthwenwynau effeithiol sydd ar gael, er bod camau mawr wedi eu cyrraedd mewn maes gwrth-docsinau.
Mae bodau dynol wedi defnyddio gwenwyn ers talwm yn fwriadol i ladd ei gilydd ac i ladd eu hunain. Mae gwenwyno'n anfwriadol yn peri risg iechyd cyhoeddus ar draws y byd. Gall wenwyno'n anfwriadol gynnwys ymosodiad gan anifail gwenwynig megis brathiad neidr neu bigiad sgorpion, gorddos o gyffuriau, neu drychineb ddiwydiannol megis trychineb Bhopal.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Gwenwyn, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.