Aberhonddu: Tref farchnad ym Mhowys

Tref a chymuned ym Mhowys, Cymru, yw Aberhonddu (Saesneg: Brecon).

Mae'n cymryd ei henw oddi ar aber Afon Honddu ag Afon Wysg. Yng nghanol y dre mae'r ddwy afon yn uno, ac mae Afon Tarrell hefyd yn llifo i mewn i Wysg gerllaw.

Aberhonddu
Aberhonddu: Tarddiad yr enw, Hanes, Cyfrifiad 2011
Mathtref farchnad Edit this on Wikidata
Poblogaeth8,250 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/iSaline, Michigan, Gouenoù Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Ardal warchodolParc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog Edit this on Wikidata
SirAberhonddu Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
GerllawAfon Wysg, Afon Honddu Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.9468°N 3.3909°W Edit this on Wikidata
Cod OSSO045285 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auJames Evans (Ceidwadwyr)
AS/auFay Jones (Ceidwadwyr)

Ceir eglwys gadeiriol fechan ond diddorol yn Aberhonddu. Priordy a sefydlwyd gan y Normaniaid yn yr 11g oedd hi i ddechrau. Fe'i gwnaed yn eglwys gadeiriol yn 1923 wrth greu Esgobaeth Abertawe ac Aberhonddu. Prif eglwys y dref yw'r Santes Fair.

Tua 7 cilometr i'r gogledd ceir dwy domen o'r Oesoedd Canol gan gynnwys Castell Madog (De).

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan James Evans (Ceidwadwyr) ac yn Senedd y DU gan Fay Jones (Ceidwadwyr).

Tarddiad yr enw

Enw hen iawn yw Aberhonddu, a arferir gan Gerallt Gymro ym 1191. Ym 1684 cyfeiriodd y hynafiaethydd o Sais Thomas Dingley at "Brecknock, called by the vulgar Aberhonddy". Hyd at yr 17g "Aberhoddni" oedd y ffurf arferol. Newidiodd yr -dd- a'r -n- eu lle ac aeth yr -i- yn -u-, dan ddylanwad y gair "du" yn ôl Tomos Roberts, ac o hynny ymlaen Aberhonddu yw'r ffurf arferol. Ystyr yr elfen aber yma yw'r fan lle rhed afon fechan i afon fwy. Deillia enw Afon Honddu o'r gair "hawdd", hynny yw afon hawddgar, ddymunol.

Daw enw Saesneg y dref, Brecon, a'r hen ffurf Brecknock, o'r enw Brecknock a roddir gan y Normaniaid ar Arglwyddiaeth Brycheiniog (ynganiad Hen Gymraeg: Brechenog), a luniwyd ganddynt o hen deyrnas Brycheiniog ar ddiwedd yr 11g. Lluniodd y Saeson sir o'r arglwyddiaeth ym 1536 a'i galw yn Brecknockshire, yn Gymraeg Sir Frycheiniog.

Hanes

Eglwys y Santes Fair

Mae tŵr perpendiciwlar yr eglwys Benedictaidd hon yn hynod iawn ac i'w gweld o bob rhan o'r dref bron. Fe'i codwyd yn y 12g fel capel ar gyfer y Priordy, er mwyn gweinyddu'r Cymun. Atgyweiriwyd yr eglwys yn y 14eg a'r 15g ac eto yn y 19g a chollwyd llawer o'r ysbryd hynafol a berthynai i'r eglwys. Ceir yma golofn Normanaidd a chroes i goffau marchog, ger y prif fynedfa. Mae'r tŵr (a elwir yn dŵr Buckingham wedi'i hadeiladu at ddibenion militaraidd, sef i amddiffyn yr eglwys, ac fe'i codwyd yn 1521 gan Edward Stafford, Dug Buckingham ac Arglwydd Brycheiniog.


Cyfrifiad 2011

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Aberhonddu (pob oed) (8,250)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Aberhonddu) (1,013)
  
12.7%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Aberhonddu) (4999)
  
60.6%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer rhwng 16 – 64 oed sydd mewn gwaith (Aberhonddu) (1,387)
  
38.2%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Enwogion

Eisteddfod Genedlaethol

Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol yn Aberhonddu ym 1889. Am wybodaeth bellach gweler:

Oriel

Gefeilldrefi

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

Tags:

Aberhonddu Tarddiad yr enwAberhonddu HanesAberhonddu Cyfrifiad 2011Aberhonddu EnwogionAberhonddu Eisteddfod GenedlaetholAberhonddu OrielAberhonddu GefeilldrefiAberhonddu Gweler hefydAberhonddu CyfeiriadauAberhondduAberAfon HondduAfon WysgCymruCymuned (Cymru)Powys

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

The NailbomberDatganoli CymruDewi 'Pws' MorrisRwmanegLlyfrgellFideo ar alwHaydn DaviesRhyw llawHenry RichardI am Number FourJimmy WalesTsunamiOrganau rhywPengwinMycenaeHollywoodRhyfel yr ieithoeddCalifforniaRhestr o bobl gyda chofnod ar y Bywgraffiadur Cymreig ArleinRhestr baneri CymruEfrog Newydd (talaith)Bugail Geifr LorraineCyfeiriad IPMary Swanzy1855Polisi un plentynEtholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru, 2016ParaselsiaethMarchnataAmerican Dad XxxJapan23 EbrillWicidataHen Wlad fy Nhadau1 EbrillRyan DaviesBertsolaritzaIestyn GarlickJohn William ThomasArlunyddDonatella VersaceSiôr (sant)Cil-y-coedLlyfr Mawr y PlantMynydd IslwynAlmaenegFfraincJava (iaith rhaglennu)Miguel de CervantesPatrick FairbairnRhufainSafleoedd rhywBig BoobsIn My Skin (cyfres deledu)IndonesegDaearegGweriniaeth Pobl Tsieina7fed ganrifPubMedLos AngelesConnecticutRhestr o bobl a anwyd yng Ngogledd Iwerddon1927Niels BohrWalking TallCerrynt trydanolSex TapeYr Aifft🡆 More