Actor, cynhyrchydd a cyflwynydd teledu o Gymro ydy Iestyn Garlick (ganwyd Gorffennaf 1952).
Mae'n adnabyddus am ei gymeriad 'Jeifin Jenkins' a oedd yn cyflwyno nifer o raglenni plant ar S4C yn cynnwys HAFoc, Jeifin a Jeifin yn bobman.
Iestyn Garlick | |
---|---|
Ganwyd | Kevin Donnelly Gorffennaf 1952 Abertawe |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | actor, cyflwynydd teledu, cynhyrchydd teledu |
Tad | Raymond Garlick |
Fe anwyd Iestyn Garlick yn Nazareth House, Abertawe yn y 1950au, yn blentyn i Mary Rose Donnelly, gyda'r enw Kevin Donnelly. Rhai misoedd yn ddiweddarach cafodd ei fabwysiadu gan y bardd Raymond Garlick a'i wraig Elin a rhoddwyd yr enw Iestyn Kevin Garlick iddo.
Roedd yn aelod o'r grŵp Ac Eraill a perfformiodd yn yr opera roc Nia Ben Aur.
Yn y 1970au cyflwynodd y sioe gerddoriaeth Twndish. Bu'n cyflwyno ar y rhaglen i blant HAFoc fel ei gymeriad Jeifin Jenkins. Roedd yn un o'r cyflwynwyr gwreiddiol ar y rhaglen gylchgrawn Heno yn 1990. Cyflwynodd nifer o raglenni ar S4C yn cynnwys y sioeau cwis Hollol Bananas, Cwist a Sgrin Ti Syniad a'r rhaglenni adloniant Traed Oer, Gemau Heb Ffiniau a Penwythnos Mawr.
Mae'n un o sefydlwyr cwmni cynhyrchu teledu Antena.
Actiodd yn y ffilm Madam Wen (1982) a'r cyfresi teledu Eye of the Dragon (1987) a The Life and Times of David Lloyd George (1981).. Mae'n chwarae rhan y prifathro 'Jim Gym' yn y gyfres deledu Rownd a Rownd.
Mae hefyd wedi bod yn gyhoeddwr cyn gemau rhyngwladol yn Stadiwm y Mileniwm.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Iestyn Garlick, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.