Roedd Aberhonddu yn etholaeth seneddol i Dŷ'r Cyffredin yn Senedd y Deyrnas Unedig o 1542 hyd at 1885.
Aberhonddu Etholaeth Bwrdeistref | |
---|---|
Creu: | 1542 |
Diddymwyd: | 1885 |
Math: | Tŷ'r Cyffredin |
Aelodau: | Un |
Roedd Aberhonddu yn etholaeth seneddol yng Nghymru a oedd yn dychwelyd un Aelod Seneddol i Dŷ'r Cyffredin o 1542 hyd iddo gael ei ddiddymu ar gyfer etholiad cyffredinol 1885.
Yn wreiddiol roedd yr Aelod yn cynrychioli rhydd-ddeiliaid holl fwrdeistrefi Sir Frycheiniog, sef tref Aberhonddu, Llywel, Talgarth, Y Gelli Gandryll a Chrucywel, ond erbyn i etholiadau cael eu cystadlu yn y 19eg ganrif dim ond bwrdeiswyr tref Aberhonddu ei hun oedd yn cael pleidleisio, does dim sicrwydd pendant pa bryd y collodd y bwrdeiswyr eraill eu hetholfraint ond tybir ei fod rhywbryd rhwng 1603 a 1715.
Hyd 1727 yr oedd holl ryddfreinwyr Aberhonddu yn cael pleidleisio, lle bynnag yr oeddynt yn byw, ond ym 1727 dyfarnodd Tŷ Cyffredin mai dim ond y rhyddfreinwyr oedd yn byw yn Nhref Aberhonddu oedd yn cael pleidleisio.
Ystyrid nifer o etholaethau bach yn eiddo teuluoedd bonheddig arbennig, perchnogion etholaeth Aberhonddu oedd Teulu Morgan Parc Tredegar.
Diddymwyd yr etholaeth ar gyfer Etholiad cyffredinol 1885 a chynhwyswyd Aberhonddu yn rhan o etholaeth sirol Brycheiniog
1885 Diddymwyd yr etholaeth
Etholiad cyffredinol 1832: Etholaeth Aberhonddu Nifer etholwyr 242 | |||||
---|---|---|---|---|---|
Plaid | Ymgeisydd | Pleidleisiau | % | ±% | |
Rhyddfrydol | John Lloyd Vaughan Watkins | 110 | 51.4 | ||
Ceidwadwyr | Charles Morgan Robinson Morgan | 104 | 48.6 | ||
Mwyafrif | 6 | ||||
Rhyddfrydol yn disodli Ceidwadwyr | Gogwydd |
Etholiad cyffredinol 1835: Etholaeth Aberhonddu Nifer etholwyr 309 | |||||
---|---|---|---|---|---|
Plaid | Ymgeisydd | Pleidleisiau | % | ±% | |
Ceidwadwyr | Charles Morgan Robinson Morgan | diwrthwynebiad | |||
Ceidwadwyr yn disodli Rhyddfrydol | Gogwydd |
Etholiad cyffredinol 1837: Etholaeth Aberhonddu Nifer etholwyr 339 | |||||
---|---|---|---|---|---|
Plaid | Ymgeisydd | Pleidleisiau | % | ±% | |
Ceidwadwyr | Charles Morgan Robinson Morgan | 156 | 60.5 | ||
Rhyddfrydol | J L Lloyd | 102 | 39.5 | ||
Mwyafrif | 6 | ||||
Ceidwadwyr yn cadw | Gogwydd |
Etholiad cyffredinol 1841: Etholaeth Aberhonddu Nifer etholwyr 331 | |||||
---|---|---|---|---|---|
Plaid | Ymgeisydd | Pleidleisiau | % | ±% | |
Ceidwadwyr | Charles Morgan Robinson Morgan | diwrthwynebiad | |||
Ceidwadwyr yn cadw | Gogwydd |
Etholiad cyffredinol 1847: Etholaeth Aberhonddu Nifer etholwyr 304 | |||||
---|---|---|---|---|---|
Plaid | Ymgeisydd | Pleidleisiau | % | ±% | |
Rhyddfrydol | John Lloyd Vaughan Watkins | diwrthwynebiad | |||
Rhyddfrydol yn disodli Ceidwadwyr | Gogwydd |
Etholiad cyffredinol 1852: Etholaeth Aberhonddu Nifer etholwyr 336 | |||||
---|---|---|---|---|---|
Plaid | Ymgeisydd | Pleidleisiau | % | ±% | |
Ceidwadwyr | Charles Rodney Morgan | 159 | 56.6 | ||
Rhyddfrydol | John Lloyd Vaughan Watkins | 122 | 43.4 | ||
Mwyafrif | 37 | ||||
Ceidwadwyr yn disodli Rhyddfrydol | Gogwydd |
Bu farw Charles Rodney Morgan ym 1854 a chynhaliwyd isetholiad ar 6 Chwefror 1854 pan ail-etholwyd John Lloyd Vaughan Watkins yn ddiwrthwynebiad gan gipio'r sedd yn ôl i'r Blaid Ryddfrydol. Ail-etholwyd Watkins yn ddiwrthwynebiad eto yn etholiadau cyffredinol 1857 a 1859.
Etholwyd J Ll V Watkins yn ddiwrthwynebiad yn Etholiad cyffredinol 1865 ond bu farw yn gynnar ym 1866. Fe'i olynwyd ar ran y Blaid Ryddfrydol gan Iarll Brycheiniog, eto'n ddiwrthwynebiad, mewn isetholiad a gynhaliwyd ar 27 Chwefror 1866. Dyrchafwyd Iarll Brycheiniog i Dŷ'r Arglwyddi ar farwolaeth ei dad Ardalydd Camden gan achosi isetholiad arall a gynhaliwyd ar 3 Hydref 1866.
Isetholiad Aberhonddu 1866 Nifer etholwyr 281 | |||||
---|---|---|---|---|---|
Plaid | Ymgeisydd | Pleidleisiau | % | ±% | |
Ceidwadwyr | Howel Gwyn | 128 | 55.7 | ||
Rhyddfrydol | Yr Arglwydd A S Churchill | 102 | 44.3 | ||
Mwyafrif | 26 | ||||
Ceidwadwyr yn disodli Rhyddfrydol | Gogwydd |
Etholiad cyffredinol 1868: Etholaeth Aberhonddu Nifer etholwyr 814 | |||||
---|---|---|---|---|---|
Plaid | Ymgeisydd | Pleidleisiau | % | ±% | |
Ceidwadwyr | Howel Gwyn | 372 | 51.0 | ||
Rhyddfrydol | H Powell Price | 357 | 49.0 | ||
Mwyafrif | 15 |
Yn dilyn etholiad 1868 danfonwyd deisebau yn erbyn dychwelyd 54 o Aelodau Seneddol oherwydd cyhuddiad o lwgrwobrwyaeth ym mysg y rhain yr oedd deiseb yn erbyn Howel Gwyn. Dyfarnwyd yn erbyn Gwyn a chafodd canlyniad yr etholiad ei ddileu gan achosi isetholiad a gynhaliwyd ar 24 Ebrill 1869
Isetholiad Aberhonddu 1869 Nifer etholwyr 814 | |||||
---|---|---|---|---|---|
Plaid | Ymgeisydd | Pleidleisiau | % | ±% | |
Rhyddfrydol | Edward, yr Arglwydd Hyde | 391 | 54.4 | ||
Ceidwadwyr | Yr Arglwydd Hamilton | 328 | 45.6 | ||
Mwyafrif | 63 | ||||
Rhyddfrydol yn disodli Ceidwadwyr | Gogwydd |
Ym 1870 dyrchafwyd Edward, Yr Arglwydd Hyde i Dy'r Arglwyddi ar farwolaeth ei dad Iarll Clarendon a chynhaliwyd isetholiad ar 19 Gorffennaf 1870.
Isetholiad Aberhonddu 1870 Nifer etholwyr 814 | |||||
---|---|---|---|---|---|
Plaid | Ymgeisydd | Pleidleisiau | % | ±% | |
Ceidwadwyr | James Price William Gwynne-Holford | 372 | 52.4 | ||
Rhyddfrydol | H Powell Price | 338 | 47.6 | ||
Mwyafrif | 34 | ||||
Ceidwadwyr yn disodli Rhyddfrydol | Gogwydd |
Etholiad cyffredinol 1874: Etholaeth Aberhonddu Nifer etholwyr 843 | |||||
---|---|---|---|---|---|
Plaid | Ymgeisydd | Pleidleisiau | % | ±% | |
Ceidwadwyr | James Price William Gwynne-Holford | 374 | 51.4 | ||
Rhyddfrydol | W V Morgan | 353 | 48.6 | ||
Mwyafrif | 21 | ||||
Ceidwadwyr yn cadw | Gogwydd |
Etholiad cyffredinol 1880: Etholaeth Aberhonddu Nifer etholwyr 880 | |||||
---|---|---|---|---|---|
Plaid | Ymgeisydd | Pleidleisiau | % | ±% | |
Rhyddfrydol | Cyril Flower | 438 | 53.6 | ||
Ceidwadwyr | James Price William Gwynne-Holford | 379 | 46.4 | ||
Mwyafrif | 59 | ||||
Rhyddfrydol yn disodli Ceidwadwyr | Gogwydd |
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Aberhonddu (etholaeth seneddol), which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.