Roedd Thomas Jones (26 Medi 1742 – 29 Ebrill 1803) yn arlunydd Cymreig ac yn ddisgybl i Richard Wilson.
Fe'i ganed ym mhlwyf Cefn-llys, ym Maesyfed, Powys, ond cafodd ei fagu ym mhlas Pencerrig ger Llanelwedd. Ei lun enwocaf efallai yw Y Bardd (1774), llun sy'n crynhoi agweddau Rhamantaidd y cyfnod am orffennol "Gwyllt Walia".
Thomas Jones | |
---|---|
Ganwyd | 26 Medi 1742 Powys |
Bu farw | 29 Ebrill 1803 o methiant y galon Cymru |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | arlunydd |
Adnabyddus am | Wal yn Napoli |
Roedd ei rieni yn gobeithio y buasai'n cymryd Urddau Eglwysig ond roedd ei awydd i beintio'n rhy gryf. Cafodd ei anfon i Goleg Iesu, Rhydychen i astudio ar gyfer yr eglwys ond gadawodd yn 1761 i ddilyn gyrfa fel arlunydd. Daeth yn ddisgybl i Richard Wilson tra yn Llundain.
Fel y mwyafrif o artistiaid y cyfnod o wledydd Prydain, aeth ar daith i'r Eidal yn ei lencyndod er mwyn cael ei addysgu yn nhechnegau'r Hen Feistri. Tra yn Napoli a Rhufain gwnaeth gyfres o beintiadau olew o strydoedd anhysbys a waliau tu cefn, yn dra wahanol i'r tirweddau crand, confensiynol yr oedd peintwyr fel ei athro yn arbenigo ynddynt. Daeth i adnabod yr alunydd Seisnig o dras Eidalaidd Francesco Renaldi, a baentiodd lun o Thomas Jones gyda'i deulu. Cyfaill arall oedd yr arlunydd Giuseppe Marchi, a baentiodd bortread o Thomas Jones; dyma'r unig bortread o'r arlunydd sydd ar gael.
Ceir nifer o enghreifftiau o'i baentiadau yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ac yn Oriel Genedlaethol Llundain. Maent yn weithiau o flaen eu hamser ac ni welwyd ffresni o'r fath mewn tirluniau hyd nes ddyfodiad Camille Corot a pheintwyr yr ysgol Barbizon yn y 19g.
Ar ôl treulio dwy flynedd ar bymtheg ar y cyfandir, dychwelodd Thomas Jones i fyw yn ei fro enedigol yn 1789. Mae ei luniau o ardal Pencerrig, sy'n dyddio o'r cyfnod olaf hwnnw yn ei oes, ymhlith ei orau.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Thomas Jones (arlunydd), which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.