Twitter: Gwefan rwydweithio cymdeithasol a meicro-flogio

Gwefan rwydweithio cymdeithasol a meicro-flogio yw X, a adnabuwyd yn flaenorol fel Twitter (weithiau Trydar mewn Cymraeg answyddogol).

Mae'n caniatau defnyddwyr anfon a darllen negeseuon defnyddwyr eraill (a elwir yn tweets yn y Saesneg), a phostio lluniau/fideos. Arddangosir y negeseuon ar dudalen broffil yr awdur a chânt eu dosbarthu i danysgrifwyr yr awdur a elwir yn ddilynwyr.

Twitter
Twitter: Hanes, Hashnod, Cyfrifon Cymraeg
Twitter: Hanes, Hashnod, Cyfrifon Cymraeg
Enghraifft o'r canlynolgwasanaeth rhwydweithio cymdeithasol, meicroflogio, user-generated content platform, cymuned arlein Edit this on Wikidata
CrëwrJack Dorsey Edit this on Wikidata
CyhoeddwrX Corp. Edit this on Wikidata
Iaithieithoedd lluosog Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu21 Mawrth 2006 Edit this on Wikidata
PerchennogX Corp. Edit this on Wikidata
Prif weithredwrLinda Yaccarino Edit this on Wikidata
GweithredwrX Corp. Edit this on Wikidata
SylfaenyddJack Dorsey, Noah Glass, Biz Stone, Evan Williams Edit this on Wikidata
PencadlysSan Francisco Edit this on Wikidata
Enw brodorolTwitter Edit this on Wikidata
GwladwriaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
DosbarthyddMicrosoft Store Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://twitter.com Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Hanes

Ers i'r gwasanaeth gael ei greu yn 2006 gan Jack Dorsey, daeth Twitter yn wasanaeth poblogaidd a dylanwadol, er fod nifer y defnyddwyr yn llai na gwasanaethau cyfatebol fel Facebook a Instagram. Weithiau caiff ei ddisgrifio fel "negeseuon testun y rhyngrwyd".

Ar y cychwyn roedd cyfyngiad o 140 nod neu lai i bob neges, er mwyn cymhathu gyda negeseuon SMS - fe ehangwyd hyn i 280 nod yn 2017. Mae'r gwasanaeth sylfaenol am ddim ac yn cynnwys hysbysebion o fewn y ffrwd negeseuon. Ers 2021 gall defnyddwyr dalu tanysgrifiad i cael nodweddion uwch yn cynnwys postio negeseuon hyd at 4000 nod. Gall yr awdur gyfyngu ar bwy sy'n gweld ei negeseuon, neu gall ganiatáu i bawb eu gweld. Ers diwedd 2009, gall defnyddwyr ddilyn rhestrau o awduron yn hytrach na dilyn awduron unigol. Gall defnyddiwr bostio drwy wefan Twitter, yr ap swyddogol ar ddyfeisiau symudol a Tweetdeck. Diddymwyd y dull negeseuon testun yn 2020.

Prynwyd y cwmni gan Elon Musk yn Hydref 2022 am $44 biliwn. Ers hynny gwnaed nifer o benderfyniadau dadleuol gan Musk yn cynnwys diswyddo canran sylweddol o'r staff er mwyn arbed arian. Yn ogystal, tynnwyd mynediad am ddim i API Twitter, gan orfodi pob ap allanol i gau lawr. Yng Ngorffennaf 2023 cychwynodd y gwaith o ail-frandio y gwasanaeth fel X.

Hashnod

Fe wnaeth Twitter boblogeiddio'r arfer o roi hashnod cyn gair neu dalfyriad er mwyn creu cymuned o ddiddordeb o gylch pwnc neu ddigwyddiad benodol. Mae'r defnydd o'r hashnod hefyd wedi ei ddefnyddio i boblogeiddio ymgyrchoedd gwleidyddol yn ogysal â hybu busnes. Nid oes modd defnyddio marciau atalnodi fel symbolau yr ebychnod fel rhan o'r gair yn yr hashnod.

Cyfrifon Cymraeg

Mae gan Wici Cymru gyfri trydar (@WiciCymru) sy'n ymgyrchu dros ryddhau gwybodaeth ar drwydded agored ac yn cefnogi prosiect Wicimedia, gan gynnwys y Wicipedia. Ceir hefyd @Wicipedia - sy'n drydariad awtomatig, sy'n hysbysu ei ddilynwyr o erthyglau newydd.

Yn y Gymraeg, yr hashnod gyson mwyaf poblogaidd ei ddefnydd yw hashnod #yagym ('Yr Awr Gymraeg') a weinyddir gan gyfrif @YrAwrGymraeg gan Huw Marshall.

Gweler hefyd

Ffynonellau

Dolenni allanol

Twitter: Hanes, Hashnod, Cyfrifon Cymraeg  Eginyn erthygl sydd uchod am y rhyngrwyd neu'r we fyd-eang. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.

Tags:

Twitter HanesTwitter HashnodTwitter Cyfrifon CymraegTwitter Gweler hefydTwitter FfynonellauTwitter Dolenni allanolTwitterGwefanRhwydweithio cymdeithasol

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

FfrangegTongaIs-etholiad Caerfyrddin, 1966Gronyn isatomigRosetta2002Afon CleddauY gosb eithafSefydliad ConfuciusY DdaearGweriniaeth DominicaMecsicoDeadsyGareth BaleParamount PicturesDiwydiantTeulu ieithyddolNiwmoniaRwsegMean MachinePriodasTsiecoslofacia22 AwstMicrosoft WindowsLife Is SweetJac y doDirty DeedsSoleil OFfilmSands of Iwo JimaBlog2004Mosg Umm al-NasrFfilm bornograffigTrydanYnysoedd Marshall2021BarrugWalking TallIseldiregTwngstenCynnyrch mewnwladol crynswthYishuvYr Ail Ryfel BydCyfathrach rywiol2005NeopetsEtholiadau lleol Cymru 2022Rhestr o arfbeisiau hanesyddol CymruDydd GwenerOrganau rhywCemegDillwyn, VirginiaThe Black CatCristnogaethCyfunrywioldeb1950auOdl24 Awst5 AwstUndeb llafurHenoUnicodeSenedd Libanus1960Ffibr optigBig Boobs1997Adolf HitlerHunan leddfuBlaengroenPapy Fait De La RésistancePidyn🡆 More