Cymuned a thref yn ne Ffrainc yw Cannes.
Saif ar arfordir y Côte d'Azur, yn département Alpes-Maritimes. Roedd y boblogaeth yn 1999 yn 72,400. Mae y traethau tywodlyd yma yn atyniad mawr i dwristiaid. Daw'r enw "Cannes" o enw Ffrangeg y Gawrgorsen (Arundo donax).
Math | cymuned, dinas |
---|---|
Poblogaeth | 73,255 |
Pennaeth llywodraeth | David Lisnard |
Cylchfa amser | UTC+01:00, UTC+2 |
Gefeilldref/i | |
Daearyddiaeth | |
Sir | arrondissement of Grasse, Alpes-Maritimes, canton of Cannes-Centre, canton of Cannes-Est, canton of Mandelieu-Cannes-Ouest |
Gwlad | Ffrainc |
Arwynebedd | 19.62 km² |
Uwch y môr | 0 metr |
Yn ffinio gyda | Le Cannet, Mandelieu-la-Napoule, Mougins, La Roquette-sur-Siagne, Vallauris |
Cyfesurynnau | 43.5525°N 7.0214°E |
Cod post | 06400, 06150 |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Maer Cannes |
Pennaeth y Llywodraeth | David Lisnard |
Pentref bychan yn dibynnu ar bysgota oedd Cannes hyd y 19g, ond o tua 1830 ymlaen dechreuodd dyfu'n gyflym wrth i ddosbarth uchaf ac yna ddosbarth canol Ffrainc ac ymwelwyr tramor, yn enwedig Saeson, ddechrau adeiladu tai haf yn y cylch. Crëwyd y traethau tywodlyd yn fwriadol er mwyn denu ymwelwyr. Cynhelir Gŵyl Ffilmiau Cannes yma yn flynyddol ers 1946. Cynhelir yr ŵyl, ym mis Mai fel fel rheol, yn y Palais des Festivals et des Congrès.
Ceir diwydiannau yma heblaw twristiaeth; mae canolfan dechnoleg Sophia-Antipolis yn commune Valbonne yn y bryniau uwchben Cannes.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Cannes, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.