Mae départements Ffrainc (Ffrangeg: Départements de France Llydaweg: Departamantoù gall, Basgeg: Frantziako departmenduak) yn ardaloedd gweinyddol yn Ffrainc a grëwyd yn 1790 ar ôl y Chwyldro Ffrengig.
Defnyddir y term i gyfeirio at israniadau nifer o gyn-wladfeydd Ffrainc yn ogystal. Mae'r ardaloedd yn wleidyddol yn cyfateb yn fras i'r siroedd ym Mhrydain. Mae 101 département Ffrainc wedi eu grwpio yn 13 région (rhanbarth) y Ffrainc Fetropolitan a 5 rhanbarth tramor. Mae gan bob département statws cyfreithiol fel rhannau annatod o Ffrainc. Is-rennir y rhanbarthau yn ogystal yn 342 arrondissement (bwrdeistref).
Enghraifft o'r canlynol | math o adran weinyddol Ffrainc, math o endid cyfreithiol yn Ffrainc |
---|---|
Math | awdurdod lleol yn Ffrainc, is-adran weinyddol gwlad ail lefel, is-adran weinyddol gwlad ail lefel, is raniad (lefel 3) o sir, o ran gweinyddiaeth, etholaeth, department, NUTS 3 statistical territorial entity |
Rhan o | rhanbarthau Ffrainc, lefel 3 o gategorïau cyfreithiol yn Ffrainc |
Dechrau/Sefydlu | 4 Mawrth 1790 |
Yn cynnwys | canton of France |
Gwladwriaeth | Ffrainc |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Nodiadau:
Département | Préfecture | Dyddiad creu | Nodiadau |
---|---|---|---|
Rhône-et-Loire | Lyon | 1790–1793 | Rhannwyd yn Rhône a Loire ar 12 Awst 1793. |
Corse | Bastia | 1790–1793 | Rhannwyd yn Golo a Liamone. |
Golo | Bastia | 1793–1811 | Ail-gyfunwyd gyda Liamone i greu Corse. |
Liamone | Ajaccio | 1793–1811 | Ail-gyfunwyd gyda Golo i greu Corse. |
Mont-Blanc | Chambéry | 1792–1815 | Crëwyd o ran o Ddugiaeth Savoy, tiriogaeth o Deyrnas Piedmont-Sardinia a ddychwelwyd i Piedmont-Sardinia ar ôl goresgyniad Napoleon. Mae'r département yn cyfateb yn fras i'r départements Ffrengig Savoie a Haute-Savoie. |
Léman | Geneva | 1798–1814 | Crëwyd pan ychwanegwyd Gweriniaeth Geneva at Ymerodraeth Gyntaf Ffrainc. Daeth Léman yn rhan o ganton Gweriniaeth a Chanton Geneva yn y Swistir. Mae'r département yn cyfateb i'r canton presennol yn y Swistir a rhannau o départements presennol Ffrainc Ain a Haute-Savoie. |
Meurthe | Nancy | 1790–1871 | Daeth Meurthe i ben yn dilyn ychwanegiad Alsace-Lorraine i Ymerodraeth yr Almaen yn 1871; ni ail-grewyd pan ddychwelodd y département at Ffrainc gan Gytundeb Versailles. |
Seine | Paris | 1790–1967 | Ar 1 Ionawr 1968, rhanwyd Seine yn bedwar départment newydd: Paris, Hauts-de-Seine, Seine-Saint-Denis a Val-de-Marne, gan ennill dir o Seine-et-Oise yn y broses. |
Seine-et-Oise | Versailles | 1790–1967 | Ar 1 Ionawr 1968, rhanwyd Seine-et-Oise yn dri département newydd: Yvelines, Val-d'Oise ac Essonne, a chollwyd rhan i Seine yn y broses. |
Corse | Ajaccio | 1811–1975 | Ar 15 Medi 1975, ail-ranwyd Corse yn ddau i ffurfio Corse-du-Sud a Haute-Corse. |
Saint-Pierre-et-Miquelon | Saint-Pierre | 1976–1985 | Roedd Saint-Pierre-et-Miquelon yn département tramor o 1976 hyd iddi gael ei throi'n gyfuniad tramor ar 11 Mehefin 1985. |
Ail-enwyd rhai o départements Ffrainc, y rhan fwyaf er mwyn cael gwared a'r termau Inférieure ('is') a Basses ('isel'):
Hen Enw | Enw Cyfoes | Dyddiad Newid |
---|---|---|
Mayenne-et-Loire | Maine-et-Loire | 1791 |
Bec-d'Ambès | Gironde | 1795 |
Charente-Inférieure | Charente-Maritime | 1941 |
Seine-Inférieure | Seine-Maritime | 1955 |
Loire-Inférieure | Loire-Atlantique (Llydaweg: Liger-Atlantel) | 1957 |
Basses-Pyrénées | Pyrénées-Atlantiques | 1969 |
Basses-Alpes | Alpes-de-Haute-Provence | 1970 |
Côtes-du-Nord | Côtes-d'Armor (Llydaweg: Aodoù-an-Arvor) | 1990 |
№ | Département | Prefecture | Dyddiad creu |
---|---|---|---|
91 | Alger | Algiers | (1848–1957) |
92 | Oran | Oran | (1848–1957) |
93 | Constantine | Constantine | (1848–1957) |
– | Bône | Annaba | (1955–1957) |
№ | Département | Prefecture | Dyddiad Bodolaeth |
---|---|---|---|
8A | Oasis | Ouargla | (1957–1962) |
8B | Saoura | Bechar | (1957–1962) |
9A | Alger | Algiers | (1957–1962) |
9B | Batna | Batna | (1957–1962) |
9C | Bône | Annaba | (1955–1962) |
9D | Constantine | Constantine | (1957–1962) |
9E | Médéa | Medea | (1957–1962) |
9F | Mostaganem | Mostaganem | (1957–1962) |
9G | Oran | Oran | (1957–1962) |
9H | Orléansville | Chlef | (1957–1962) |
9J | Sétif | Setif | (1957–1962) |
9K | Tiaret | Tiaret | (1957–1962) |
9L | Tizi-Ouzou | Tizi Ouzou | (1957–1962) |
9M | Tlemcen | Tlemcen | (1957–1962) |
9N | Aumale | Sour el Ghozlane | (1958–1959) |
9P | Bougie | Bejaia | (1958–1962) |
9R | Saïda | Saida | (1958–1962) |
Département | Lleoliad yng ngwledydd cyfoes | Dyddiad creu |
---|---|---|
Département du Sud | Hispaniola ( Gweriniaeth Dominica , Haiti ) | 1795–1800 |
Département de l'Inganne | 1795–1800 | |
Département du Nord | 1795–1800 | |
Département de l'Ouest | 1795–1800 | |
Département de Samana | 1795–1800 | |
Isle de France | Mawrisiws , Seychelles, Ynys Rodrigues | 1795–1800 |
Indes-Orientales | Chandernagore, Karikal, Mahe, Pondichery, Yanaon | 1795–1800 |
Sainte-Lucie | Sant Lwsia , Tobago | 1795–1800 |
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Départements Ffrainc, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.