Sefydliad nid-er-elw yw Comin Creu (Saesneg: Creative Commons neu cc) a sefydlwyd gyda'r nod o ehangu'r ystod o weithiau creadigol sydd ar gael i'w rhannu'n gyfreithlon.
Enghraifft o'r canlynol | sefydliad di-elw, cyhoeddwr, awdur |
---|---|
Rhan o | free-culture movement |
Dechrau/Sefydlu | 15 Ionawr 2001 |
Yn cynnwys | Creative Commons Global Network |
Prif weithredwr | Ryan Merkley, Catherine Stihler, Anna Tumadóttir |
Sylfaenydd | Lawrence Lessig, Hal Abelson, Eric Eldred |
Aelod o'r canlynol | Communia, UNESCO Global Open Science Partnership, Open Source Initiative, Open Education Global |
Gweithwyr | 147 |
Ffurf gyfreithiol | sefydliad di-elw |
Cynnyrch | trwyddedau Comin Creu |
Pencadlys | Mountain View |
Gwladwriaeth | Unol Daleithiau America |
Gwefan | https://creativecommons.org/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae'r sefydliad wedi rhyddhau sawl trwydded hawlfraint i'r cyhoedd am ddim.
Gall y crewr, boed arlunydd, awdur neu arall, ddefnyddio un o nifer o'r trwyddedau hyn, yn ddibynol ar faint o hawliau mae'n dewis eu rhyddhau i bobl eraill. Nid yw'r trwyddedau'n cymryd lle hawlfraint, ond wedi'u sefydlu'n soled ar hawlfraint. Mae nhw'n cymryd lle yr angen i unigolion drafod a negydu hawliau arbennig - rhwng perchennog yr hawlraint (y trwyddedwr) a defnyddiwr y gwaith (y trwyddedig). Gall faint o hawliau a ryddheir amrywio o "Cedwir pob hawl" i drwydded hollol rydd lle nad yw perchennog y gwaith ddim yn dymuno arian am y defnydd o'r gwaith, na chydnabyddiaeth arall mewn unrhyw fodd. Mae bron y cyfan sydd ar Wicipedia a nifer o gyrff eraill yn dod o dan drwydded rhydd CC-BY-SA.
Sefydlwyd y mudiad yn 2001 gan Lawrence Lessig, Hal Abelson, ac Eric Eldred gyda chefnogaeth the Center for the Public Domain. Sgwennwyd yr erthygl gyntaf am Comin Creu gan Hal Plotkin yn Chwefror 2002. Rhyddhawyd y set cyntaf o drwyddedau yn Rhagfyr 2002.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Comin Creu, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.