Newyddiadurwr a darlledwr o Gymro yw Dewi Llwyd (ganwyd 26 Mawrth 1954).
Mae'n un o gyflwynwyr amlycaf Cymru, wedi cyflwyno rhaglenni nosweithiol Newyddion S4C, rhaglenni etholiadol a chyfresi trafodaeth wleidyddol.
Dewi Llwyd | |
---|---|
Ganwyd | Dewi Llwyd Williams 26 Mawrth 1954 Bangor |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | newyddiadurwr, cyflwynydd teledu, cyflwynydd radio |
Cyflogwr |
Ganwyd Dewi Llwyd Williams ym Mangor yn 1954. Roedd ei dad, y Parchedig Ifor Ll. Williams o Gwm Rhymni yn wreiddiol, yn weinidog gyda'r bedyddwyr ac yn gyn-löwr. Roedd ei fam Mary yn athrawes o Ddyffryn Conwy a briododd Ifor yn 1952. Magwyd Dewi yn Neiniolen a Threforys a setlodd y teulu yn y mans ar Ffordd Deiniol, Bangor cyn ei fod yn chwe mlwydd oed. Mynychodd Ysgol Gynradd St. Paul ac Ysgol Friars yn y dref. Aeth ymlaen i astudio mewn prifysgol yng Nghaerdydd, Llundain ac yn ddiweddarach yn Washington D.C. gyda cyfnodau mewn colegau yn Ffrainc a Sbaen hefyd.
Fe ymunodd a'r BBC o ddiwedd 1979 fel gohebydd seneddol ac fe roedd yn wyneb cyfarwydd iawn ar raglen Newyddion S4C ers y cychwyn.
Cyflwynodd y rhaglen drafodaeth wleidyddol Pawb a'i Farn ar S4C rhwng 1998 a 2019. Cyflwynodd ei sioe olaf ar 2 Tachwedd 2019 gan ddweud ei fod yn "teimlo bod fy nghyfnod i ar y rhaglen wedi dod i ben ac mae'n bryd trosglwyddo i'r genhedlaeth nesaf".
Ar ddiwedd 2012 gadawodd prif raglen newyddion S4C ac fe olynodd Gareth Glyn fel prif gyflwynydd y Post Prynhawn ar Radio Cymru. Cyflwynodd ei rifyn olaf o'r Post Prynhawn ar 9 Hydref 2019. Hefyd ar y radio roedd yn cyflwyno'r rhaglen Dewi Llwyd ar fore Sul a oedd yn cynnwys "adolygiadau o'r papurau Sul, gwestai pen-blwydd a cherddoriaeth hamddenol". Cychwynodd y rhaglen ar ddechrau 2008 a chyhoeddodd Dewi y byddai'n rhoi'r gorau i gyflwyno'r rhaglen ar ddiwedd 2021.
Roedd hefyd yn llywio y rhaglen radio yn holi gwleidyddion, Hawl i Holi, ers 2008. Cyflwynodd ei rifyn cyntaf erioed o'r rhaglen o Ganolfan Bro Aled, Llansannan, a dyna hefyd leoliad ei rifyn olaf a ddarlledwyd yn fyw ar nos Iau 6 Gorffennaf 2023.
Ers 2019 mae'n cyflwyno y rhaglen radio Dros Ginio bob dydd Llun a Gwener.
Mae'n briod a Nia. Wedi priodi roedd y ddau yn byw yng Nghaerdydd ac am gyfnod roedd Dewi yn gweithio yn Llundain fel gohebydd seneddol. Yn Chwefror 1983, symudodd y teulu i fyw yn ardal y Garth ym Mangor.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Dewi Llwyd, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.