Gareth Glyn: Cyfansoddwr a aned yn 1951

Cyfansoddwr a darlledwr Cymreig yw Gareth Glyn (ganwyd Gareth Glynne Davies; 2 Gorffennaf 1951).

Ef yw mab hynaf y diweddar ddarlledwr a'r llenor T. Glynne Davies.

Gareth Glyn
Gareth Glyn: Bywyd cynnar ac addysg, Gyrfa, Bywyd personol
GanwydGareth Glynne Davies Edit this on Wikidata
2 Gorffennaf 1951 Edit this on Wikidata
Machynlleth Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethcyfansoddwr, darlledwr Edit this on Wikidata
Arddullcontemporary classical music Edit this on Wikidata
TadT. Glynne Davies Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://garethglyn.info Edit this on Wikidata

Bywyd cynnar ac addysg

Ganwyd Glyn yn Machynlleth a mynychodd Ysgol Maes Garmon yn yr Wyddgrug. Graddiodd mewn Cerddoriaeth o Goleg Merton, Rhydychen, 1969 - 72, gan arbenigo mewn cyfansoddi, ac mae'n dal LRAM fel Cyfansoddwr o'r Academi Gerdd Frenhinol.

Gyrfa

Dros ddeng mlynedd ar hugain, mae wedi cyfansoddi'n helaeth ar gyfer sawl gyfrwng, o'r symffoni fwyaf i ganeuon pop, o'r neuadd gyngerdd i'r sgrîn deledu.

Ymhlith yr enwogion roddodd berfformiadau cyntaf ei weithiau mae'r bariton byd-enwog Bryn Terfel, y gantores ifanc Charlotte Church, Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, Cerddorfa Ulster, Cerddorfa Gyngerdd y BBC, yr organydd Jane Watts a nifer o rai eraill - gan gynnwys Jonathan Pryce mewn darn i lefarydd a cherddorfa gerbron cynulleidfa fyw o filoedd o bobol a gwylwyr teledu drwy'r byd. Mae Rhys Ifans wedi actio'r brif ran ym mherfformiadau cynta dwy ddrama gerdd gan Gareth Glyn.

Cafodd Gareth Glyn ei ddewis i gyfansoddi'r gerddoriaeth ar gyfer cynyrchiadau i deledu a ffilm, gan gynnwys y gyfres am hanes y genedl, Cymru 2000, y ffilm Madam Wen, a dramáu megis Tywyll Heno, seiledig ar y nofel gan Kate Roberts.

Mae llawer o'i waith diweddar wedi cael ei berfformio, ei recordio a'i gynhyrchu gan y cyfansoddwr ei hun yn ei stiwdio ar Ynys Môn; mae'n arbenigo ar ail-greu seiniau'r gerddorfa a'i hofferynnau gan ddefnyddio'r dulliau technolegol diweddaraf.

Ym mis Hydref 2012, cyhoeddwyd y byddai yn gadael y rhaglen newyddion Post Prynhawn ar BBC Radio Cymru wedi 34 blynedd.

Bywyd personol

Mae Gareth Glyn yn byw ym Modffordd, ger Llangefni, gyda'i wraig Eleri Cwyfan. Mae ganddynt ddau fab, sef y darlithydd Peredur Glyn Webb-Davies a'r perfformiwr Seiriol Davies.

Cyfeiriadau

Gareth Glyn: Bywyd cynnar ac addysg, Gyrfa, Bywyd personol 
Comin Wiki
Mae gan Gomin Wiki
gyfryngau sy'n berthnasol i:

Tags:

Gareth Glyn Bywyd cynnar ac addysgGareth Glyn GyrfaGareth Glyn Bywyd personolGareth Glyn CyfeiriadauGareth Glyn19512 GorffennafT. Glynne Davies

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

Whitewright, TexasSaline County, ArkansasDrew County, ArkansasWest Fairlee, VermontHarri PotterMike PompeoBrasilMehandi Ban Gai KhoonBaltimore, MarylandSeollal1918Saline County, NebraskaJacob Astley, Barwn Astley o Reading 1afSosialaethRhyw geneuolGoogleSisters of Anarchy321Warren County, OhioRichard Bulkeley (bu farw 1573)Schleswig-HolsteinRhywogaethMacOSBwdhaethFocus WalesJones County, De DakotaMeigs County, OhioOrganau rhywDie zwei Leben des Daniel ShoreAwstraliaCyfieithiadau i'r GymraegTeiffŵn HaiyanWilliam Jones (mathemategydd)GwyddoniadurNevada County, ArkansasGenreCanser colorectaiddFertibratMontevallo, AlabamaGwlad PwylArchimedesGwainCoron yr Eisteddfod GenedlaetholScioto County, OhioDavid CameronHolt County, NebraskaCharmion Von Wiegand19952019Streic Newyn Wyddelig 1981Ruth J. WilliamsDawes County, NebraskaFrancis AtterburyMaddeuebJohn BallingerAnnapolis, MarylandSafleoedd rhywDiwrnod Rhyngwladol y GweithwyrLucas County, IowaRay AlanIsadeileddVan Buren County, ArkansasHappiness AheadYr AntarctigNatalie WoodCascading Style SheetsJefferson DavisCheyenne, WyomingBettie Page Reveals AllSystem Ryngwladol o UnedauTywysog CymruRowan AtkinsonSertralinChristiane KubrickFrank Sinatra🡆 More