Bryn Terfel: Actor a aned yn 1965

Mae Syr Bryn Terfel (ganwyd 9 Tachwedd 1965) yn fariton ac yn ganwr opera byd-enwog.

Fe'i ganwyd ym Mhant Glas, Gwynedd. Bu'n canu a chystadlu mewn eisteddfodau ers pan oedd yn ifanc iawn. Fe'i cysylltwyd ef yn fuan iawn yn ei yrfa gyda gwaith Mozart, yn enwedig Figaro a Leporello, ond ehangwyd ei repertwâr i gynnwys gwaith trymach o lawer megis gwaith Wagner.

Bryn Terfel
Bryn Terfel: Bywyd personol, Repertwâr operatig, Disgyddiaeth
GanwydBryn Terfel Jones Edit this on Wikidata
9 Tachwedd 1965 Edit this on Wikidata
Pant Glas Edit this on Wikidata
Label recordioDeutsche Grammophon Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethcanwr opera, actor Edit this on Wikidata
Arddullopera Edit this on Wikidata
Math o laisbas-bariton Edit this on Wikidata
PriodHannah Stone Edit this on Wikidata
Gwobr/auCBE, The Queen's Medal for Music, honorary doctor of the Royal College of Music, Marchog Faglor, Echo Klassik Male Singer of the Year Edit this on Wikidata
Bryn Terfel: Bywyd personol, Repertwâr operatig, Disgyddiaeth
Eisteddfod Môn 1992

Graddiodd o'r Ysgol Gerdd a Drama y Guildhall yn 1989, ac enillodd Wobr Lieder yng Nghystadleuaeth Canwr y Byd, Caerdydd yn 1989.

Ers hynny mae wedi canu prif rannau ym mhrif dai opera'r byd gyda chlod uchel. Bryn Terfel yw sefydlydd Gŵyl y Faenol, a gynhelir bob mis Awst ar Stâd y Faenol, ger Bangor.

Roedd hefyd yn un o'r Jonesiaid a dorrodd record y byd Jones Jones Jones am gasglu ynghyd y nifer fwyaf o bobl yn rhannu’r un cyfenw yn Stadiwm y Mileniwm yn 2006, gan fod yn un o 1,224 Jones a gymerodd rhan.

Cafodd Syr Bryn ei urddo’n farchog yn rhestr Anrhydeddau Blwyddyn Newydd Brenhines y Deyrnas Unedig ar 31 Rhagfyr 2016.

Bywyd personol

Priododd Terfel yn briod a'i gariad o'i blentyndod, Lesley, yn 1987 ond gwahanodd y ddau yn 2013 gan ysgaru yn ddiweddarach. Mae ganddynt tri o fechgyn.

Cychwynnodd berthynas gyda'r delynores Hannah Stone yn 2014. Mae hi'n gyn-delynores swyddogol i Dywysog Siarl. Dyweddïodd y cwpl yn 2016 ac yn Mai 2017 ganwyd merch iddynt. Priododd y cwpl ar 26 Gorffennaf 2019 nghapel y Bedyddwyr, Caersalem Newydd yn Abertawe, tref enedigol Stone.

Repertwâr operatig

Dyma'r gwaith a'r cymeriadau mae Bryn wedi eu perfformio ar lwyfan

Cyfansoddwr Opera Cymeriad Dyddiadau Recordiwyd
Britten Peter Grimes Balstrode 1995 Naddo
Donizetti L'elisir d'amore Dulcamara 2001 Naddo
Gounod Faust Mephistopheles 2004 Naddo
Mozart Così fan tutte Guglielmo 1991 Naddo
Mozart Don Giovanni Masetto 1992 Do
Mozart Don Giovanni Leporello 1991 Do
Mozart Don Giovanni Don Giovanni 1999 – Do
Mozart Die Zauberflöte Speaker 1991 Naddo
Mozart Le nozze di Figaro Figaro 1991 – 2007 Do
Offenbach Les contes d'Hoffmann Four male roles 2000 Naddo
Puccini Gianni Schicchi Gianni Schicchi 2007 Naddo
Puccini Tosca Scarpia 2006 Naddo
Puccini Madama Butterfly Sharpless 1996 Naddo
Richard Strauss Die Frau ohne Schatten Der Geisterbote 1992 Do
Richard Strauss Salome Jochanaan 1993 Do
Sondheim Sweeney Todd Sweeney Todd 2002 – Naddo
Stravinsky The Rake's Progress Nick Shadow 1996 – 2000 Do
Stravinsky Oedipus Rex Creon 1992 Do
Verdi Falstaff Falstaff 1999 – Do
Verdi Falstaff Ford 1993 Naddo
Wagner Das Rheingold Donner 1993 Naddo
Wagner Das Rheingold Wotan 2005 – Naddo
Wagner Die Walküre Wotan 2005 – Naddo
Wagner Tannhäuser Wolfram 1998 Naddo
Wagner Der fliegende Holländer Holländer 2006 – Naddo

Disgyddiaeth

  • Something Wonderful (1996)
  • We'll Keep a Welcome (2000)
  • Some Enchanted Evening (2001)
  • Bryn (2003)
  • Simple Gifts (2005)
  • Tutto Mozart (2006)
  • First Love: Songs from the British Isles (2008)
  • Carols and Christmas Songs (2010)
  • Homeward Bound (gyda Chôr Tabernacl y Mormoniaid; Mormon Tabernacle Choir) (2013)

Cyfeiriadau

Tags:

Bryn Terfel Bywyd personolBryn Terfel Repertwâr operatigBryn Terfel DisgyddiaethBryn Terfel CyfeiriadauBryn Terfel19659 TachweddGwyneddMozartOperaPant GlasRichard Wagner

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

AC/DCWilhelm DiltheyIngmar BergmanEwroWinnebago County, WisconsinPencampwriaeth Pêl-droed Ewrop 2008Anna VlasovaThomas Jones (almanaciwr)1959Beaulieu, HampshireRowan AtkinsonPwyllgor TrosglwyddoNodiant cerddorolVurğun OcağıGwyddoniadurKieffer MooreCwpan y Byd Pêl-droed 2010Comisiwn EwropeaiddFfloridaAnna MarekSpotify6 GorffennafSmyrna, WashingtonCristiano RonaldoWicidestunY Deyrnas UnedigTsieina1965Undeb Rygbi CymruNewham (Bwrdeistref Llundain)Prynhawn DaStygianLibiaBaudouin, brenin Gwlad BelgGweriniaethMathilde BonaparteHanna KatanGwamGNAT1Comin CreuRhyfel Gaza (2023‒24)Vaughan GethingUnthinkableAneurin BevanRhinogyddWolves of The NightMelatoninTîm Pêl-droed Cenedlaethol yr IseldiroeddMcDonald'sGorsedd y BeirddGweriniaeth Ddemocrataidd yr AlmaenGareth MilesRhestr dyddiau'r flwyddynMormoniaethSystem atgenhedluPm Narendra Modi20gPencampwriaeth Pêl-droed EwropBoduanViv Thomas9 Ionawr🡆 More