Un o daleithiau ffederal (Länder) yr Almaen yw Schleswig-Holstein.
Saif yng ngogledd y wlad, yn ffinio ar Denmarc yn y gogledd. Roedd y boblogaeth yn 2007 yn 2,283,702. Kiel yw prifddinas y dalaith.
Arwyddair | Der echte Norden |
---|---|
Math | taleithiau ffederal yr Almaen |
Prifddinas | Kiel |
Poblogaeth | 2,953,270 |
Sefydlwyd | |
Pennaeth llywodraeth | Daniel Günther |
Gefeilldref/i | South Jutland County, Pays de la Loire, Pomeranian Voivodeship, Oblast Kaliningrad, Hyōgo, Maryland, Zhejiang |
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Yr Almaen |
Arwynebedd | 15,804.28 km² |
Uwch y môr | 12 metr |
Yn ffinio gyda | Mecklenburg-Vorpommern, Niedersachsen, Hamburg, Lohbrügge |
Cyfesurynnau | 54.47004°N 9.51416°E |
DE-SH | |
Gwleidyddiaeth | |
Corff deddfwriaethol | Landtag of Schleswig-Holstein |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Minister-President of Schleswig-Holstein |
Pennaeth y Llywodraeth | Daniel Günther |
Ffurfiwyd y dalaith o Ddugiaeth Holstein yn y de a De Schleswig yn y gogledd. Rhannwyd Dugiaeth Schleswig rhwng yr Almaen a Denmarc. Mae'r dalaith yn cynnwys Ynysoedd Gogledd Ffrisia, sy'n ffurfio rhan o Barc Cenedlaethol Môr Wadden, ac ynys Heligoland. Yr afonydd pwysicaf yw afon Elbe ac afon Eider; tra mae Camlas Kiel yn cysylltu Môr y Gogledd a'r Môr Baltig.
Siaredir Ffriseg a Daneg mewn rhannau o'r dalaith. Mae hen ddinas Lübeck yn Safle Treftadaeth y Byd.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Schleswig-Holstein, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.