Tref a chymuned yn Sir y Fflint, Cymru, yw'r Wyddgrug.
Mae hi'n gorwedd ar groesffordd hanner ffordd rhwng Rhuthun i'r gorllewin a Chaer i'r dwyrain. Mae'r A494 yn pasio'r dref i'r dwyrain. Tu ôl i'r Wyddgrug mae'r tir yn codi i lethrau coediog Bryniau Clwyd. Cynhelir marchnad lwyddiannus ynghanol y dref bob dydd Mercher, ac mae'r Stryd Fawr yn ffynnu. Mae llwyfan awyr-agored ynghanol y dref, a chynhelir digwyddiadau cerddorol o dro i dro. Cynhelir twmpathau yn neuadd yr eglwys pedair gwaith bob blwyddyn. Ystyr enw y dref yw "bryncyn neu dwmpath uchel" (yr un ystyr ag enw Saesneg y dref, Mold: o'r Ffrangeg Normanaidd Monthault sy'n golygu "bryn uchel"). Yn ôl yr Athro Hywel Wyn Owen, mae'n debycach mai'r un 'gŵydd' yw hwn ac 'yn eich gŵydd' hy 'golwg' ac mai ystyr Yr Wyddgrug felly yw 'Bryn Amlwg'.
Y stryd fawr a'r eglwys | |
Math | tref, cymuned |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir y Fflint |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.166°N 3.133°W |
Cod SYG | W04000197, W04000995 |
Cod OS | SJ237640 |
Cod post | CH7 |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Hannah Blythyn (Llafur) |
AS/au | Rob Roberts (Ceidwadwyr) |
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Hannah Blythyn (Llafur) ac yn Senedd y DU gan Rob Roberts (Ceidwadwyr).
Yn ôl traddodiad, ymladdwyd Brwydr Maes Garmon ar lecyn tua milltir i'r gorllewin o'r dref bresennol yn OC 430. Enillodd y Cymry y dydd, dan arweiniad Sant Garmon, yn erbyn eu gelynion paganaidd.
Cynhelid llys ar gylch Llywelyn ap Gruffudd yn y Wyddgrug ar 22 Gorffennaf, 1273. Roedd gan y Wyddgrug ei gastell yn yr Oesoedd Canol a nodir ei safle gan Fryn y Beili, sy'n ardd gyhoeddus bellach. Ym 1245, cafodd ei gipio gan Dafydd ap Llywelyn.
Ceir dwy ysgol uwchradd yn Yr Wyddgrug, Ysgol Alun (Saesneg ei hiaith) ac Ysgol Maes Garmon (Cymraeg ei hiaith).
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:
Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol yn yr Wyddgrug ym 1923, 1991 a 2007. Am wybodaeth bellach gweler:
Trefi
Bagillt · Bwcle · Caerwys · Cei Connah · Y Fflint · Queensferry · Saltney · Shotton · Treffynnon · Yr Wyddgrug
Pentrefi
Abermor-ddu · Afon-wen · Babell · Bretton · Brychdyn · Brynffordd · Caergwrle · Carmel · Cefn-y-bedd · Cilcain · Coed-llai · Coed-talon · Cymau · Chwitffordd · Ewlo · Ffrith · Ffynnongroyw · Gorsedd · Gronant · Gwaenysgor · Gwernymynydd · Gwernaffield · Gwesbyr · Helygain · Higher Kinnerton · Yr Hôb · Licswm · Llanasa · Llaneurgain · Llanfynydd · Llannerch-y-môr · Maes-glas · Mancot · Mostyn · Mynydd Isa · Mynydd-y-Fflint · Nannerch · Nercwys · Neuadd Llaneurgain · Oakenholt · Pantasaph · Pant-y-mwyn · Penarlâg · Pentre Helygain · Pen-y-ffordd · Pontblyddyn · Pontybotgyn · Rhes-y-cae · Rhosesmor · Rhyd Talog · Rhyd-y-mwyn · Sandycroft · Sealand · Sychdyn · Talacre · Trelawnyd · Trelogan · Treuddyn · Ysgeifiog
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Yr Wyddgrug, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.