Trefynwy: Tref a chymuned yn Sir Fynwy

Tref hanesyddol a chymuned yn Sir Fynwy, Cymru, yw Trefynwy (Saesneg: Monmouth).

Dyma brif dref y sir. Saif ar lannau Afon Mynwy, tua 2 filltir (3.2 km) o'r ffin â Lloegr. Saif y dref 36 milltir (58 km) i'r gogledd-ddwyrain o Gaerdydd a 127 m (204 km) i'r gorllewin o Lundain. Mae'n fwy na thebyg mai "Aber Mynwy" oedd yr enw gwreiddiol a cheir cofnod ohono'n dyddio nôl i 1136 (Aper Myngui ac Aper Mynuy). Yn ôl Cyfrifiad 2001 roedd y boblogaeth yn 8,547. Ymroella Llwybr Treftadaeth Trefynwy drwy'r dref.

Trefynwy
Trefynwy: Hanes, Twristiaeth, Cyfrifiad 2011
Mathtref, cymuned Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlAfon Mynwy Edit this on Wikidata
Gefeilldref/iCarbonne, Waldbronn Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Fynwy Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
GerllawAfon Gwy, Afon Mynwy Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.81°N 2.72°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04001076 Edit this on Wikidata
Cod OSSO505125 Edit this on Wikidata
Cod postNP25 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auPeter Fox (Ceidwadwyr)
AS/auDavid Davies (Ceidwadwr)

Enw'r papur bro lleol ydy Newyddion Mynwy sy'n cael ei gyhoeddi yn achlysurol gan Cymdeithas Gymraeg Trefynwy a'r cylch.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Peter Fox (Ceidwadwyr) ac yn Senedd y DU gan David Davies (Ceidwadwr).

Hanes

Oes Newydd y Cerrig

Nodweddir Oes Newydd y Cerrig, neu'r cyfnod Neolithig yng Nghymru gan ddechrau ffermio. Credir fod hyn yn dyddio o tua 4000 CC. Yn 2012, tra'n tyllu mewn ystâd o dai o'r enw 'Parc Glyn Dŵr' yng nghanol Trefynwy, darganfu Martin Tuck o Gymdeithas Archaeoleg Trefynwy olion crannog - tŷ enfawr, hir; mae'r ystâd o dai hwn ar dir fferm 'Crofft-y-Bwla'. Yn 2015 datgelwyd fod yr olion yn mynd yn ôl i'r Oes Efydd ac y bu yno waith adeiladu cychod mewn llyn enfawr, sydd wedi diflannu ers ychydig cyn dyfodiady Rhufeiniaid. Darganfuwyd ffosydd twfn, metr o led, yn sianeli hirion dros bridd a losgwyd ac a ddyddiwyd i Oes Newydd y Cerrig gan system dyddio radiocarbon: 5,000 o flynyddoedd yn ôl (2,917 CC). Mae hyn yn golygu fod y crannog hwn yn Nhrefynwy yn 2,000 o flynyddoedd yn hŷn nag unrhyw anhediad-llyn drwy Gymru a Lloegr.

Erging

Gorweddai Teyrnas Erging, yn bennaf, yn yr hyn sydd erbyn heddiw yng ngorllewin Swydd Henffordd yn Lloegr. Canol y deyrnas oedd yr ardal rhwng afonydd Mynwy a Gwy (Swydd Henffordd), ond ymestynnai hefyd i'r Sir Fynwy fodern ac i'r dwyrain o afon Gwy lle ceir safle tref Rufeinig Ariconium (yn Weston under Penyard heddiw); credir fod yr enw 'Erging' yn deillio o enw'r dref honno a oedd, mae'n bosibl, yn brifddinas y deyrnas fechan.

Trefynwy: Hanes, Twristiaeth, Cyfrifiad 2011 
Y bont ar Afon Mynwy yn Nhrefynwy

Y cyfnod Rhufeinig

Roedd gan y Rhufeiniaid gaer yma, a alwyd yn Blestium. Cysylltwyd y dref gyda plethwaith o ffyrdd i drefi cyfagos: Glefiwm (Caerloyw) ac Isca Augusta (Caer Rufeinig Caerllion). Credir fod mwyngloddio haearn gerllaw yn Gobaniwm (y Fenni) ac Ariconiwm (Rhosan ar Wy).

Yr Oesoedd Canol

Yn 1067 codwyd castell Normanaidd. Yn y Canol Oesoedd, ffurfiai'r afon un o ffiniau Rhwng Gwy a Hafren. Yn y cyfnod yma gallai llongau gyrraedd cyn belled a Threfynwy. Mae Pont Mynwy yn bont sydd wedi'i chryfhau'n filwrol yn unigryw yng ngwledydd Prydain. Yn ddiweddarach daeth y dref o fewn goruchwyliaeth y Lancastriaid a hi ydy tref genedigol Harri V, brenin Lloegr (20 Mawrth 1413).

Wedi'r Oesoedd Canol

Yn 1536 fe'i gwnaed yn dref weinyddol Sir Fynwy.

Twristiaeth

Mae Trefynwy'n ganolfan dwristaidd eitha poblogaidd gan ei bod wed'i lleoli yn Nyffryn Afon Gwy a ddynodwyd yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig. Mae hefyd yn ardal Gadwraeth Arbennig, yn bennaf oherwydd yr amrywiaeth eithriadol o blanhigion dŵr a geir yn ei dalgylch. Ceir hefyd amrywiaeth o bysgod, sy'n cynnwys poblogaeth sylweddol o eogiaid, ac ymhlith y rhywogaethau llai cyffredin, poblogaeth o'r Gwangen (Alosa fallax). Yn nhalgylch afon Gwy y ceir y boblogaeth fwyaf o'r Dyfrgi yng Nghymru. Nid oes llawer o broblemau llygredd ar hyd yr afon.

Cyfrifiad 2011

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Trefynwy (pob oed) (10,508)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Trefynwy) (929)
  
9.1%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Trefynwy) (4702)
  
44.7%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Trefynwy) (1,702)
  
37.7%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Preswylwyr enwog

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

Dolen allanol

Tags:

Trefynwy HanesTrefynwy TwristiaethTrefynwy Cyfrifiad 2011Trefynwy Preswylwyr enwogTrefynwy Gweler hefydTrefynwy CyfeiriadauTrefynwy Dolen allanolTrefynwyAfon MynwyCaerdyddCilometrCymruCymuned (Cymru)LloegrLlundainLlwybr Treftadaeth TrefynwyMilltirSir Fynwy

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

Magic!IndiaGwilym BrewysLabordyGradd meistrSimon BowerDwight YoakamAlotropCharles GrodinAfter EarthGoogleThe Little YankBasbousaNwyThe Salton SeaHomer SimpsonBlood FestGweriniaeth DominicaMinskY DiliauMathemategIstanbulGorilaThe Private Life of Sherlock HolmesParamount PicturesHaikuThe New SeekersPriodasTunImmanuel KantRiley ReidContactGwlad BelgYr EidalBarry JohnCalsugnoSystem weithredu2004Thomas JeffersonGwyddoniaethFfraincRhylDe Cymru NewyddBBC Radio CymruSefydliad ConfuciusI am Number FourCamri2002Rhif Llyfr Safonol RhyngwladolSyniadBill BaileySpring SilkwormsDisgyrchiantMesopotamiaBlwyddyn naidJim MorrisonOliver CromwellAlmaenegCœur fidèleSbaenTeyrnas Unedig Prydain Fawr ac IwerddonCefin RobertsAnna KournikovaCalifforniaVAMP7🡆 More