Arlunydd graffeg yw darlunydd sy'n arbenigo mewn gwella ac egluro ysgrifennu drwy greu portread gweledol sy'n cydfynd gyda chynnwys y testun.
Gall pwrpas y darlunio amrywio, o egluro cysyniadau cymhleth, neu egluro pethau sy'n anodd i'w disgrifio mewn geiriau, neu er mwyn adloniant, megis cardiau cyfarch, neu gelf clawr neu tu mewn llyfr, cylchgrawn, neu ar gyfer hybysebu, megis poster.
Mae'r rhan fwyaf o ddarlunwyr cyfoes yn ennill eu bywoliaeth drwy greu arlunwaith ar gyfer llyfrau plant, hysbyseb, papurau newydd a chylchgronau. Yn draddodiadol, darlunwyr sy'n defnyddio pin ac inc a brwsh aer sydd wedi dominyddu'r cyfryngau hyn.
Mae cyfrifiaduron wedi newid y diwydiant yn sylweddol, a defnyddir cyfrifiaduron i gynhyrchu'r rhan fwyaf o ddarluniadau masnachol erbyn hyn.
Ond, mae technegau darlunio traddodiadol dal yn boblogaidd, yn arbennig ym maes llyfrau. Mae'r technegau traddodiadol yn cynnwys dyfrliwiau, paent olew, patel, ysgythru pren, print linolewm, a phin ac inc.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Darlunydd, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.