Dewi Prysor: Llenor o Gymru

Mae Dewi Prysor yn awdur, bardd a cherddor Cymreig, sy'n gweithio trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg.

Ganwyd ef yn Dewi Prysor Williams, yn Nolgellau, Gwynedd, ar 27 Tachwedd 1967, a magwyd yng Nghwm Prysor, ger Trawsfynydd. Mae'n byw yn Blaenau Ffestiniog gyda'i wraig a thri o feibion. Trydanwr, adeiladwr a saer maen oedd ei alwedigaeth cyn iddo droi at lenyddiaeth a cherddoriaeth.

Dewi Prysor
Ganwyd27 Tachwedd 1967 Edit this on Wikidata
Dolgellau Edit this on Wikidata
Man preswylBlaenau Ffestiniog, Lerpwl (Carchar EM) Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethysgrifennwr, bardd, cerddor, trydanwr Edit this on Wikidata
Dewi Prysor: Cefndir, Amlygrwydd cynnar, Gwaith creadigol cynnar
Clawr y llyfr Crawia gan Dewi Prysor.

Cefndir

Magwyd Prysor ar fferm fynydd yng Nghwm Prysor gan ei rieni Edward "Ned" Williams a Gwyneth Williams. Mae ganddo dri o frodyr a chwiorydd sef Manon,Rhys a Meleri. Cafodd ei addysg cynnar yn Ysgol y Moelwyn ym Mlaenau Ffestiniog. Gadawodd y fferm yn ddeunaw oed i weithio i Falconer Electricals. Wedi cyfnod yn byw yng Nghaerdydd yn 1988, ailddechreuodd weithio fel trydanwr i amrywiol gwmniau, cyn mynd yn adeiladwr ac yna'n saer maen.

Amlygrwydd cynnar

Ar 22 Ionawr 1992, tra'n 24 oed, ac wedi rhai blynyddoedd yn ymwneud â mudiadau gweriniaethol Cymreig, yn cynnwys y Cyfamodwyr (Cymdeithas Cyfamod y Cymry Rhydd), arestiwyd Dewi Prysor Williams o dan amheuaeth o fod yn rhan o ymgyrch fomio tai haf Meibion Glyndŵr. Fe'i cyhuddwyd o 'gynllwynio i achosi ffrwydriadau' ar y cyd â Siôn Aubrey Roberts, oedd eisoes wedi ei gyhuddo o fod a ffrwydriadau yn ei feddiant, gyrru ffrwydriadau trwy'r post, a chynllwynio i greu ffrwydriadau ar y cyd â David Gareth Davies ar Ragfyr y 5ed 1991. Treuliodd Dewi Prysor Williams 14 mis yn y ddalfa yng Ngharchar Walton, Lerpwl, tra'n aros ei achos llys, gan fynnu ei fod yn ddi-euog o'r cyhuddiad trwy gydol yr amser. Yn dilyn yr achos yn Llys y Goron, Caernarfon, gerbron Lord Justice Pill, fe'i cafwyd yn ddi-euog a'i ryddhau ym mis Mawrth 1993.

Gwaith creadigol cynnar

Yn 2005, dan yr enw Dewi Prysor, ysgrifennodd ddrama lwyfan am ei brofiadau tra yn y carchar ac yn dilyn ei ryddhâd, sef monolog yn dwyn y teitl DW2416, a berfformiwyd 25 gwaith mewn theatrau ledled Cymru. Cynhyrchwyd y ddrama gan Llwyfan Gogledd Cymru, cyfarwyddwyd gan Ian Rowlands, gyda'r actor Dyfrig 'Topper' Evans yn chwarae'r prif rhan.

Yn 1995 ymunodd â'r band ska a ffync Anweledig o Flaenau Ffestiniog fel trefnydd-reolwr a'u cyflwyno i reolwr label Crai (Sain), Rhys Mwyn, yn Eisteddfod Genedlaethol y Bala 1997. Gadawodd Prysor beth amser wedi rhyddhau albwm cynta'r band, Sombreros yn y Glaw (Sain 1997), gan barhau i gydweithio a'r band ar sawl achlysur.

Yn 1997 bu Prysor yn un o gyd-sylfaenwyr Gŵyl Car Gwyllt, gŵyl gerddorol awyr agored ym Mlaenau Ffestiniog fu'n rhedeg yn flynyddol am rai blynyddoedd i ddechrau, ac yna'n ysbeidiol (ac ar amrywiol ffurfiau), hyd at tua 2010. Mae'r ŵyl wedi cael ei hatgyfodi ers 2018, ac mae Prysor yn un o'r criw sy'n ei chynnal.

Addysg

Yn 1997 derbyniwyd Prysor i Coleg Harlech, ble yr enillodd Ddiploma Prifysgol Cymru mewn 'Llenyddiaeth, Hanes a Syniadau' yn 1998. Priododd â Rhian Medi ym mis Gorffennaf 1999, wedi genedigaeth eu dau fab hynaf (yn 1998 ac 1999). Yn y flwyddyn 2000, dechreuodd Dewi Prysor gwrs gradd ym Mhrifysgol Cymru Aberystwyth (Prifysgol Aberystwyth), ac ennill gradd BA gydag Anrhydedd Dosbarth Cyntaf mewn 'Hanes a Hanes Cymru' gan Brifysgol Cymru ym mis Gorffennaf 2003.

Ymgyrchu

O 2001 i 2003 bu'n aelod amlwg o Bwyllgor Gwaith y mudiad Cymuned, oedd yn ymgyrchu dros amddiffyn y cymunedau Cymraeg eu iaith. Yn 2003 trefnodd albwm CD-ddwbl aml-gyfrannog gan nifer o fandiau ac artistiaid cerddorol Cymraeg, Y Gwir yn Erbyn y Byd (Recordiau Bos RBOS003) a ryddhawyd ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol yn Meifod 2003, i gydfynd â chyfres o gigs a drefnodd yn ystod yr wythnos. Dyma oedd ei gyfraniad olaf i unrhyw grŵp neu gymdeithas oddi mewn i'r 'mudiad cenedlaethol' Cymreig.

Bardd ac Awdur

Trodd at ysgrifennu barddoniaeth yn ystod ei garchariad yn 1992-93, gan ddechrau perfformio cerddi yn fyw mewn ymrysonau, gornestau Beirdd v Rapwyr, a Stompiau o ddiwedd y 1990au ymlaen. Gwnaeth enw iddo'i hun fel limrigwr, gan gyhoeddi dwy gyfrol o limrigau drwy Gwasg Carreg Gwalch yn 2003 a 2007. Yn 2012, cydweithiodd â'r bardd Bob Holman o Efrog Newydd mewn perfformiadau byw, ac ar gyfer y ffilm Language Matters (2015, David Grubin Productions) i PBS.

Yn ystod ei garchariad, hefyd, dechreuodd Prysor ysgrifennu creadigol, rhywbeth fyddai yn ailgydio ynddo tra yng Ngholeg Harlech (1997-98). Wedi ysgrifennu ei ddrama 'DW2416' yn 2005, cyhoeddwyd ei nofel gyntaf, Brithyll, gan wasg Y Lolfa yn 2006 - y gyntaf o drioleg oedd hefyd yn cynnwys Madarch (2007) a Crawia (2008). Cyrhaeddodd ei bedwaredd nofel Lladd Duw (Y Lolfa, 2010) restr fer gwobr Llyfr y Flwyddyn yn 2011 ac ennill Gwobr Barn y Bobl Golwg 360 yn yr un flwyddyn. Cyrhaeddodd ei bumed nofel Cig a Gwaed (2012) restr fer Llyfr y Flwyddyn yn 2013. Cyhoeddwyd ei chweched nofel Rifiera Reu[dolen marw] (Y Lolfa, 2015) ar Ragfyr y 5ed, 2015, ac fe gyrhaeddodd restr fer Llyfr y Flwyddyn 2016). Ar gyfer y Nadolig 2016, cyhoeddodd Prysor gyfrol o'i atgofion o ddilyn tîm pêl-droed Cymru trwy Ffrainc yn ystod Ewro 2016, o Ibuprofen S'il Vous Plaît![dolen marw] (Y Lolfa, 2016). Yn Rhagfyr 2021 cyhoeddodd Prysor 100 Cymru: Y Mynyddoedd a Fi (Y Lolfa 2021), cyfrol am ei deithiau ar hyd y cant mynydd uchaf yng Nghymru.

Yn 2013 addasodd Prysor sgript cyfres newydd Teenage Mutant Ninja Turtles (Lowbar Productions, Nickelodeon Animation Studios) i'r Gymraeg ar gyfer y trosiad Cymraeg, Crwbanod Ninja, (Lefel Dau) ar gyfer S4C. Yn yr un flwyddyn addasodd sgript cyfres o Dennis and Gnasher, ar gyfer y fersiwn Gymraeg Denis a Dannedd i S4C - unwaith eto i gwmni Lefel Dau. Yn 2014, trwy gwmni Lefel Dau eto, addasodd sgript y ddwy gyfres Dreamworks Dragons: Riders of Berk a Dragons: Defenders of Berk ar gyfer y fersiynnau Cymraeg, Dreigiau: Marchogion Berc a Dreigiau: Gwarchodwyr Berc, i S4C. Yn 2017 addasodd sgript cyfres gyntaf Lily's Driftwood Bay Archifwyd 2017-07-17 yn y Peiriant Wayback. (Sixteen South) i'r Gymraeg ar gyfer S4C, fel Ynys Broc Môr Lili (Lefel Dau). Yn 2018 addasodd sgript The Deep (Nerd Corps Entertainment) i'r Gymraeg Y Dyfnfor (Lefel Dau) ar gyfer S4C. Yn 2019 addasodd gyfres Arthur et les Enfants de la Table Ronde (Angoa, Blue Spirit Animation) o'r Saesneg i'r Gymraeg ar gyfer S4C fel Arthur â Chriw y Ford Gron (Lefel Dau).

Mae Dewi Prysor wedi cyfrannu erthyglau i nifer o gylchgronnau a phrosiectau llenyddol, ac mae ganddo golofn reolaidd yn y cylchgrawn barddol chwarterol Barddas.

Roedd Prysor yn un o ddau feirniad cystadleuaeth y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Meirion yn 2014, ac yn un o dri beirniad cystadleuaeth Gwobr Goffa Daniel Owen yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Maldwyn a'r Gororau yn 2015.

Cerddoriaeth

Ar ôl pwyso ar awdurdodau Carchar Walton, Lerpwl i ganiatau gwersi gitâr i garcharorion remand, dysgodd Prysor i chwarae'r gitâr. Yn ystod 2000-03, tra'n fyfyriwr yn Aberystwyth, dechreuodd jamio gyda cherddorion profiadol, ac erbyn diwedd 2003 roedd cnewyllyn y band reggae a pync Vates wedi ei sefydlu, gyda Prysor yn brif ganwr a phrif gyfansoddwr. Cyfrannodd y band y trac Y Gwir yn Erbyn y Byd i'r albwm CD-ddwbl aml-gyfrannog o'r un enw yn 2003. Recordiwyd y trac yn Stiwdio Gardden, Llanerfyl, ac fe'i cynhyrchwyd a pheiriannwyd gan Gwyn 'Maffia' Jones, sydd hefyd yn cyfrannu amrywiol offerynnau taro. Recordiodd y band sesiwn i Radio Cymru ym mis Mawrth 2004, yn Stiwdio Blaen-y-cae, Garndolbenmaen, a chynhyrchwyd a pheiriannwyd y sesiwn gan Dyl Mei. Yn 2007 dychwelodd y band i Stiwdio Gardden a recordio eu hunig albwm, Ymosodiad y Contiad y Môr Rheibus o Du Hwnt i'r Cyrtans (RBOS 012).

Teledu

Yn 2012 bu Prysor yn un o dri cyflwynydd, ac angor, y gyfres deledu Darn Bach o Hanes (Cwmni Da) ar S4C. Dychwelodd y gyfres am ail a thrydydd cyfres (2013 a 2014), gyda fformat gwahanol â Prysor fel yr unig gyflwynydd.

Yn 2015 Prysor oedd cyflwynydd y gyfres Stori Pêl-droed Cymru (Cwmni Da) i S4C.

Bywyd Personol

Mae Prysor yn ddilynwr brwd o dîm pêl-droed Cymru, gartref ac i ffwrdd. Mi fu yn gadeirydd Clwb Pêl-droed Amaturiaid y Blaenau (CPD Amaturiaid Blaenau Amateurs FC), fu'n chwarae yn adran gyntaf y Lock Stock Welsh Alliance League ac sydd bellach yn chwarae yng Nghynghrair Ardal Gogledd-Orllewin, ac mae o'n parhau i fod yn aelod o'r pwyllgor ac yn ymddiriedolwyr y clwb. Mae Prysor yn gerddwr mynyddoedd brwd, yn pysgota, ac yn ymddiddori mewn hanes, enwau lleoedd a meini hirion, cylchoedd cerrig a charneddi. Yn 2013, bu farw ei fam o'r afiechyd Motor Neurone Disease, ac yn 2014, ar ddiwrnod penblwydd ei fam, cerddodd ffin mynyddig plwy Trawsfynydd - taith o 33 milltir - er cof amdani, gan godi £9,700 i Gymdeithas Motor Neurone Disease. Mynychodd Prysor Ysgol Bro Hedd Wyn, Trawsfynydd, ac yna Ysgol y Moelwyn (1979-84). Mae'n briod â Rhian Medi, ac mae ganddynt dri o feibion.

Llyfryddiaeth

Barddoniaeth

Nofelau a Chyfrolau

Cerddoriaeth

  • Ymosodiad y Contiaid y Môr Rheibus o Du Hwnt i'r Cyrtans (albwm CD), 2007, RBOS 012

Theatr

  • DW2416 (Llwyfan Gogledd Cymru, 2005)

Cyfeiriadau

Dolenni allanol

Tags:

Dewi Prysor CefndirDewi Prysor Amlygrwydd cynnarDewi Prysor Gwaith creadigol cynnarDewi Prysor AddysgDewi Prysor YmgyrchuDewi Prysor Bardd ac AwdurDewi Prysor CerddoriaethDewi Prysor TeleduDewi Prysor Bywyd PersonolDewi Prysor LlyfryddiaethDewi Prysor CyfeiriadauDewi Prysor Dolenni allanolDewi Prysor196727 TachweddBlaenau FfestiniogCwm PrysorDolgellauTrawsfynydd

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

DillagiCoch y BerllanCannon For CordobaCamlesi CymruIago fab SebedeusIâr ddŵrAl AlvarezEagle EyeNaturCerddoriaethCynhebrwngCaersallogPensiwnWicipedia SbaenegCaer bentirEva StrautmannKlaipėdaJust TonyHellraiserParamount PicturesTywodfaenTrallwysiad gwaedY Cae RasBancChirodini Tumi Je AmarAsgwrn12 ChwefrorYsgol SulT. Rowland HughesSiôn Alun DaviesFrom Noon Till ThreeFflorensDafydd Dafis (actor)Sant PadrigEdward H. DafisSystem Ryngwladol o UnedauMynediad am DdimMy MistressAled a Reg (deuawd)Nizhniy NovgorodSir Gawain and the Green KnightRaajneetiJames Francis Edward StuartD. H. LawrenceYsgol Llawr y BetwsCelfCamlas SuezBarbie in 'A Christmas Carol'EfrogLlyngesRhestr o luniau gan John ThomasBwncathThe Dude WranglerMarie AntoinetteFfilmDenk Bloß Nicht, Ich HeuleCaryl Parry JonesNi LjugerUwch Gynghrair LloegrYnys MônIago IV, brenin yr AlbanBenthyciad myfyrwyrDeadly Instinct1185Hermitage, BerkshireAderyn bwn lleiafBBC OneMihangel🡆 More