Clynnog Fawr: Pentref yng Ngwynedd

Pentref a chymuned (wrth yr enw swyddogol Clynnog) yng Ngwynedd, Cymru, yw Clynnog Fawr ( ynganiad ) neu Clynnog-fawr.

Saif ar arfordir gogleddol Penrhyn Llŷn. Mae Clynnog Fawr ar ffordd yr A499 rhwng Caernarfon a Pwllheli, cyfeiriad OS SH415500. Yn 1991 yr oedd y boblogaeth yn 130.

Clynnog Fawr
Clynnog Fawr: Hanes, Eglwys Sant Beuno, Enwogion
Mathpentref, cymuned Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.0209°N 4.3647°W, 53.020158°N 4.364447°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000057 Edit this on Wikidata
Cod OSSH414496 Edit this on Wikidata
Cod postLL54 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auMabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)
AS/auLiz Saville Roberts (Plaid Cymru)

Hanes

Saif Clynnog mewn safle strategol bwysig, ar ben gogleddol y llwybr hawddaf trwy'r mynyddoedd rhwng arfodir deheuol ac arfordir gogleddol Llŷn. Bu nifer o frwydrau yn y cylch, yn cynnwys Brwydr Bron yr Erw yn 1075 pan orchfygwyd ymgais gyntaf Gruffudd ap Cynan i ddod yn frenin Gwynedd gan Trahaearn ap Caradog a Brwydr Bryn Derwin yn 1255 pan orchfygodd Llywelyn ap Gruffudd ei frodyr Owain a Dafydd i gymeryd meddiant o holl deyrnas Gwynedd.

Mae siambr gladdu Neolithig Bachwen rhwng y pentref a'r môr.

Eglwys Sant Beuno

    Prif: Eglwys Sant Beuno

Y prif adeilad o ddiddordeb yn y pentref yw Eglwys Sant Beuno, sy'n adeilad anarferol o fawr i bentref o faint Clynnog. Dywedir fod clas mynachol wedi ei sefydlu gan Beuno yma yn nechrau'r 7c. Datblygodd i fod yn sefydliad pwysig, ac mae rhai o lawysgrifau Cyfraith Hywel Dda yn nodi fod gan abad Clynnog hawl i sedd yn llys brenin Gwynedd. Cofnodir fod yr eglwys wedi ei llosgi gan y Daniaid yn 978 ac yn ddiweddarach llosgwyd hi eto gan y Normaniaid. Erbyn diwedd y 15g yr oedd yn eglwys golegol, un o ddim ond chwech yng Nghymru. Roedd yr eglwys yn arosfan bwysig i bererinion ar eu ffordd i Ynys Enlli, ac mae'n cynnwys Cyff Beuno, hen gist bren wedi ei naddu o un darn o onnen, a ddefnyddid i gadw rhoddion y pererinion. Yma hefyd mae "Maen Beuno" sydd yn ôl yr hanes yn dwyn olion bysedd Beuno ei hun. Tu allan yn y fynwent mae deial haul sy'n cael ei ddyddio rywbryd rhwng diwedd y ddegfed ganrif a dechrau'r ddeuddegfed ganrif.

Enwogion

Ymhlith enwogion o Glynnog mae dau a fu'n Gatholigion blaenllaw yn yr 16g, sef:

Cyfrifiad 2011

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Clynnog Fawr (pob oed) (997)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Clynnog Fawr) (698)
  
73.2%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Clynnog Fawr) (689)
  
69.1%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer rhwng 16 – 64 oed sydd mewn gwaith (Clynnog Fawr) (149)
  
35.7%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau

Dolen allanol

Tags:

Clynnog Fawr HanesClynnog Fawr Eglwys Sant BeunoClynnog Fawr EnwogionClynnog Fawr Cyfrifiad 2011Clynnog Fawr CyfeiriadauClynnog Fawr Dolen allanolClynnog FawrCaernarfonClynnog Fawr.oggCymruCymuned (Cymru)Delwedd:Clynnog Fawr.oggGwyneddPenrhyn LlŷnPwllheliWicipedia:Tiwtorial

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

Ynni adnewyddadwy yng NghymruRichard Owens (pensaer)Harri Potter (cymeriad)KilimanjaroNot the Cosbys XXXCynnwys rhyddEifion Lloyd JonesFutanariCeniaAberhondduCwymp Wall StreetCapreseThe Plastic AgeManon Steffan RosFfraincDemograffeg CymruThe Disappointments RoomEconomi Caerdydd640PensiwnPidynY PerlauBrych (anatomeg)Elvis Xxx – a Porn ParodyWilliam Llewelyn WilliamsIago II & VII, brenin Lloegr a'r AlbanCystadleuaeth Wici HenebionHindŵaethMererid HopwoodWiciEmoções Sexuais De Um CavaloDyfnaintAngel HeartGwestyIau (duw)Adnabyddwr gwrthrychau digidolDelyth JewellŽikina ŽenidbaOwen EdwardsDie Sehnsucht der Veronika VossSiot dwadManon EamesFaustrecht Der FreiheitTingochStrwythur crisialAdwaith (band)MyrddinMahanaCasi WynCaer DathylAmerican Dad XxxMunudGalefestivalenFideo ar alwRhestr Cymry enwogDyfedegIsraelMedina (gwahaniaethu)Cymdeithas Cerdd Dant CymruGŵyl Cerdd DantCreampiePum Diwrnod o Ryddid800The Groundstar Conspiracy🡆 More