Llandrindod: Tref a chymuned ym Mhowys

Tref a chymuned yng nghanolbarth Powys, Cymru, yw Llandrindod (Saesneg: Llandrindod Wells).

Tyfodd y dref yn y 19g pan gyrhaeddodd y rheilffordd, gan ddod â llawer o ymwelwyr i brofi'r dyfroedd arbennig o'r ffynhonnau sydd yn y dref (dyma pryd bathwyd yr enw Saesneg Llandrindod Wells, er mwyn denu rhagor o ymwelwyr "ffasiynol" i brofi rhin y dŵr).

Llandrindod
Llandrindod: Tref a chymuned ym Mhowys
Mathtref, cymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth5,309 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/iBad Rappenau, Contrexéville Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirPowys Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.2435°N 3.3855°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000293 Edit this on Wikidata
Cod OSSO055615 Edit this on Wikidata
Cod postLD1 Edit this on Wikidata

Erbyn hyn mae Llandrindod yn gartref i Gyngor Sir Powys, sydd yn un o brif gyflogwyr y dref. Cynhelir nifer o gynadleddau yn y dref, gan bod cynifer o westai yn y dref a Phafiliwn sy'n addas ar gyfer digwyddiadau mawr.

Llandrindod: Tref a chymuned ym Mhowys
Siop yn Llandrindod

Mae Cwm Y Gof (Saesneg: Rock Park) yn barc pert rhwng y dref ac Afon Ieithon. Yn y parc mae man uchel uwchben yr afon o'r enw "Llam Y Cariadon" (Saesneg: Lovers' Leap). Yn ôl hen chwedl, oddi yno y neidiodd dau oedd yn gariadon cudd.

Mae gan Landrindod hefyd lyn adnabyddus gydag ynys fechan yn ei ganol.

Cynhelir marchnad yn y dref bob dydd Gwener gerllaw yr orsaf drên. Ar ddydd Iau cynhelir marchnad ffermwyr yn Stryd Middleton ble gwerthir cynnyrch lleol. Ceir hefyd nifer o siopau bach annibynnol a dau archfarchnad yn y dref.

Mae gorsaf drên Llandrindod yn arhosfa ar Linell Calon Cymru, sy'n rhedeg o Abertawe i'r Amwythig.

Llandrindod: Tref a chymuned ym Mhowys
Llandrindod gyda'r nos

Cyfrifiad 2011

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Llandrindod (pob oed) (5,309)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llandrindod) (640)
  
12.5%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llandrindod) (2387)
  
45%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Llandrindod) (1,215)
  
47%
:Y ganran drwy Gymru
  
5%

Cyfeiriadau

Tags:

19gCymruCymuned (Cymru)PowysRheilffordd

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

Stygian1 MaiIncwm sylfaenol cyffredinol365 DyddRhufainHentai KamenFfilm bornograffigGalaeth y Llwybr LlaethogGweriniaeth Pobl TsieinaHelen KellerChristmas EvansBrwydr GettysburgHob y Deri Dando (rhaglen)DanegAbermenaiEdward VII, brenin y Deyrnas UnedigGorwelAlldafliad benywLloegr NewyddMarshall ClaxtonGemau Olympaidd yr Haf 2020Janet YellenAltrinchamSeattleGaius Marius69 (safle rhyw)Gwilym Roberts (Caerdydd)Ysgol Henry RichardFfraincGeorge WashingtonY Rhyfel Byd CyntafCaerwrangonWiciLloegrSex TapeDaniel Jones (cyfansoddwr)Clwb C3Emoções Sexuais De Um CavaloAnnie Harriet Hughes (Gwyneth Vaughan)Carles PuigdemontHello Guru Prema KosameKatwoman XxxManceinionCyfeiriad IP7fed ganrif1724Rhestr o wledydd a ddaeth yn annibynnol oddi wrth SbaenBamiyanPafiliwn PontrhydfendigaidPussy RiotEthiopiaSteffan CennyddBanana1909PortiwgalIndonesegLuciano PavarottiCanadaNiels BohrSefydliad WicimediaRhestr baneri CymruAlexandria RileyTrydanDriggHwngariAnifailPatrick FairbairnAlmaeneg🡆 More