George Washington (22 Chwefror 1732 – 14 Rhagfyr 1799) oedd arlywydd cyntaf Unol Daleithiau America; fe'i ganwyd yn Westmoreland County, Virginia.
Arweiniodd Byddin Cyfandirol America i fuddugoliaeth yn erbyn Prydain yn Rhyfel Annibyniaeth America (1775-1783). Gelwir Washington weithiau "Tad ei Wlad" am iddo chwarae rhan mor ganolog yn sefydlu'r Unol Daleithiau.
George Washington | |
---|---|
Ganwyd | 22 Chwefror 1732 Westmoreland County |
Bu farw | 14 Rhagfyr 1799 o epiglottitis Mount Vernon, Mount Vernon, Virginia |
Man preswyl | Philadelphia, Westmoreland County, Dinas Efrog Newydd, Mount Vernon |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Prydain Fawr, Unol Daleithiau America |
Galwedigaeth | gwleidydd, ffermwr, mapiwr, geometer, peiriannydd, gwladweinydd, chwyldroadwr, ysgrifennwr, swyddog y fyddin |
Swydd | Arlywydd yr Unol Daleithiau, Commanding General of the United States Army, Commanding General of the United States Army, cadeirydd, Arlywydd-etholedig yr Unol Daleithiau, member of the Virginia House of Burgesses |
Taldra | 74 modfedd, 188 centimetr |
Plaid Wleidyddol | Annibynnwr |
Tad | Augustine Washington |
Mam | Mary Ball Washington |
Priod | Martha Washington |
Perthnasau | Martha Parke Custis, John Parke Custis, George Washington Parke Custis |
Llinach | Washington family |
Gwobr/au | Thanks of Congress, Medal Aur y Gyngres, Cymrawd Academi Celf a Gwyddoniaeth America, Medal Aur y Gyngres |
llofnod | |
George Washington | |
| |
Cyfnod yn y swydd 30 Ebrill 1789 – 2 Mawrth 1797 | |
Is-Arlywydd(ion) | John Adams |
---|---|
Rhagflaenydd | Dim |
Olynydd | John Adams |
Geni | 22 Chwefror 1732 Westmoreland County, Virginia |
Marw | 14 Rhagfyr 1799 Mynydd Vernon, Virginia | (67 oed)
Plaid wleidyddol | Ffederalwr |
Priod | Martha Washington |
Llofnod |
Yn ddyn ifanc, gweithiai Washington fel tirfesurydd cefn gwlad gan ennill dealltwriaeth a fyddai'n bwysig iawn yn ddiweddarach o ddaearyddiaeth ei dalaith enedigol.
Cafodd ei brofiad cyntaf fel arweinydd milwrol yn ystod y rhyfel rhwng Ffrainc a'r brodorion Americanaidd (1754–1763). Oherwydd ei brofiad a'i wybodaeth o dir Virginia, fe'i etholwyd yn arweinydd pennaf y lluoedd Americanaidd yn 1775 gan yr Ail Gyngres Gyfandirol ar ddechrau Rhyfel Annibyniaeth America. Cliriodd y Prydeinwyr allan o Boston yn 1776 ond bu bron iddo gael ei ddal ar ôl colli Efrog Newydd gyda cholledion trymion yn ddiweddarach yn yr un flwyddyn. Gwnaeth i fyny am hynny trwy groesi Afon Delaware yn y gaeaf a threchu unedau Prydeinig yn New Jersey. Aeth yn ei flaen i drechu a dal y ddwy brif fyddin Brydeinig yn Saratoga (1777) ac wedyn yn Yorktown (1781).
Roedd yn trafod y berthynas rhwng y taleithiau a'u milisias, yn gweithio gyda Congress i gynnal y fyddin Gyfandirol, yn trafod â'r cynghreiriaid Ffrengig ac yn delio â dadlau rhwng staff y fyddin, a daeth i gynrychioli yn ei berson nerth milwrol a gwleidyddol y genedl newydd.
Ar ddiwedd y rhyfel annibyniaeth yn 1783 ymddeolodd Washington i'w ystâd yn Mount Vernon. Ymyrodd yn bersonol i lywio'r Gynhadledd Gyfansoddiadol a ddrafftiodd fersiwn cryfach o Gyfansoddiad yr Unol Daleithiau yn 1787.
Ar 30 Ebrill 1789, daeth Washington yn Arlywydd yr Unol Daleithiau newydd a chreodd system o lywodraethu trwy gabinet a dorodd â'r traddodiad seneddol. Bu ganddo ran flaenllaw mewn creu arferion a rheolau y llywodraeth newydd a detholwyd ei harweinwyr cyntaf i gyd ganddo yn bersonol. Cefnogai gynlluniau Alexander Hamilton i greu llywodraeth ganolog rymus trwy ariannu'r holl ddyledion cenedlaethol a thaleithiol, creu system treth canolog a sefydlu banc cenedlaethol. Nid oedd pawb o blaid y canoli grym hynny a phan wrthryfelodd Pennsylvania yn y Chwyldro Chwisgi bu rhaid i Washington arwain byddin i'w thawelu. Arwyddodd Gytundeb Jay yn 1795 i osgoi rhyfel bellach â Phrydain, er gwaethaf gwrthwynebiad ffyrnig pleidwyr Thomas Jefferson. Cefnogai'r Blaid Ffederal (rhagflaenydd y Blaid Weriniaethol) er nad oedd yn aelod ohoni. Sefydlodd yr arfer nad oedd arlywydd i wasanaethu am fwy na ddau dymor ac ymddeolodd unwaith yn rhagor i'w ystâd yn Virginia yn 1797, lle bu farw ddwy flynedd yn ddiweddarach, yn 1799.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article George Washington, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.