Canada: Gwlad sofran yng Ngogledd America

Gwlad fwyaf gogleddol Gogledd America yw Canada a hi yw'r wlad ail fwyaf yn y byd o ran arwynebedd, yn dilyn Rwsia.

Mae'n ymestyn o'r Môr Iwerydd yn y dwyrain i'r Môr Tawel yn y gorllewin ac i Gefnfor yr Arctig i'r gogledd. Mae'n rhannu ffin gydag Unol Daleithiau'r America i'r de ac i'r gogledd-orllewin ac mae ei deg talaith (province) a thair tiriogaeth (territory) yn ymestyn o'r Môr Iwerydd i'r Môr Tawel, gyda Chefnfor yr Arctig yn y gogledd. Prifddinas Canada yw Ottawa, a'i thair ardal fetropolitan fwyaf yw Toronto, Montreal, a Vancouver. Yn y cyfrifiad diwethaf, roedd poblogaeth y wlad yn 36,991,981 (2021).

Canada
Canada: Geirdarddiad, Hanes, Daearyddiaeth
Canada: Geirdarddiad, Hanes, Daearyddiaeth
ArwyddairA mari usque ad mare Edit this on Wikidata
Mathgwladwriaeth sofran, gwlad Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlStadacona Edit this on Wikidata
PrifddinasOttawa Edit this on Wikidata
Poblogaeth36,991,981 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1 Gorffennaf 1867 (ffederaleiddio, hunanlywodraeth, Cydffederasiwn Canada, y Deyrnas UnedigEdit this on Wikidata
AnthemO Canada Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethJustin Trudeau Edit this on Wikidata
Cylchfa amserCylchfa Amser Newfoundland, Cylchfa Amser yr Iwerydd, Cylchfa Amser Canolog, Cylchfa Amser y Mynyddoedd, Cylchfa Amser y Cefnfor Tawel, Cylchfa Amser y Dwyrain, UTC−07:00, UTC−06:00, UTC−05:00, UTC−04:00 Edit this on Wikidata
NawddsantJoseff, Jean de Brébeuf, Ann, Merthyron Gogledd America Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Saesneg, Ffrangeg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolGogledd America Edit this on Wikidata
Arwynebedd9,984,670 ±1 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr487 metr Edit this on Wikidata
GerllawCefnfor yr Iwerydd, Y Cefnfor Tawel, Cefnfor yr Arctig, Y Llynnoedd Mawr, Bae Hudson Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaUnol Daleithiau America, Yr Ynys Las Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau56°N 109°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff gweithredolGovernment of Canada Edit this on Wikidata
Corff deddfwriaetholSenedd Canada Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y wladwriaeth
teyrn Canada Edit this on Wikidata
Pennaeth y wladwriaethSiarl III Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Prif Weinidog Canada Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethJustin Trudeau Edit this on Wikidata
Canada: Geirdarddiad, Hanes, Daearyddiaeth
Ariannol
Cyfanswm CMC (GDP)2,206,764 million C$ Edit this on Wikidata
Ariandoler Edit this on Wikidata
Canran y diwaith7 ±1 canran Edit this on Wikidata
Cyfartaledd plant1.57 Edit this on Wikidata
Mynegai Datblygiad Dynol0.936 Edit this on Wikidata

Mae pobl frodorol wedi byw'n barhaus yn yr hyn a elwir, bellach, yn "Ganada", a hynny ers miloedd o flynyddoedd. Pan gyrhaeddodd y dyn gwyn ei thraethau, roedd 500,000 ohonynt yn byw yma.

Heddiw, mae'n frenhiniaeth gyfansoddiadol; gwladfa Ffrainc oedd Canada, wedyn gwladfa'r Saeson. Daeth yn fwyfwy annibynnol pan arwyddwyd 'Statud San Steffan' yn 1931 ac yna Deddf Canada 1982, pan dorrodd yn llwyr oddi wrth cyfreithiau Senedd Prydain. Bellach, mae hi'n wlad gwbwl annibynnol, sofran, gyda'r Saesneg a'r Ffrangeg yn ieithoedd swyddogol. Mae'r Ffrangeg yn cael ei siarad gan 30% o'r boblogaeth, y rhan fwyaf yn Québec, Ontario a Brunswick Newydd. Mae 32,000,000 o bobl yn byw yno, yn y de yn gyffredinol.

Mae Canada yn ddemocratiaeth seneddol ac yn frenhiniaeth gyfansoddiadol yn nhraddodiad San Steffan. Pennaeth llywodraeth y wlad yw'r prif weinidog - sydd yn ei swydd yn rhinwedd ei allu i reoli'r Tŷ'r Cyffredin etholedig - ac fe'i penodir gan y llywodraethwr cyffredinol, sy'n cynrychioli brenhines Lloegr, sef pennaeth y wladwriaeth. Mae'r wlad yn parhau i fod yn un o wledydd y Gymanwlad.

Mae ymhlith y gwledydd uchaf mewn tryloywder ei llywodraeth, rhyddid sifil, ansawdd bywyd, rhyddid economaidd ac addysg. Mae'n un o genhedloedd mwyaf ethnig ac amlddiwylliannol y byd, sy'n ganlyniad i fewnfudo ar raddfa fawr o lawer o wledydd eraill. Mae perthynas hir Canada â'r Unol Daleithiau wedi cael effaith sylweddol ar ei heconomi a'i diwylliant.

Yn wlad ddatblygedig iawn, Canada sydd â'r 15fed incwm enwol y pen uchaf, drwy'r byd, a'r 17fed safle yn y Mynegai Datblygiad Dynol. Ei heconomi ddatblygedig yw'r 10fed fwyaf yn y byd, gan ddibynnu'n bennaf ar ei hadnoddau naturiol toreithiog a'i rwydweithiau masnach ryngwladol datblygedig. Mae Canada'n rhan o sawl sefydliad neu grŵp rhyngwladol a rhynglywodraethol mawr gan gynnwys y Cenhedloedd Unedig, NATO, y G7, y Grŵp o Deg, y G20, y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD), Sefydliad Masnach y Byd (WTO), Cymanwlad y Cenhedloedd, Cyngor yr Arctig, Organisation internationale de la Francophonie, fforwm Cydweithrediad Economaidd Asia-Môr Tawel, a Sefydliad Taleithiau America.

Geirdarddiad

Tra bod amrywiaeth o ddamcaniaethau wedi'u cynnig ar eirdarddiad y gair Canada, derbynnir bod yr enw bellach yn dod o'r gair kanata, un o eiriau brodorion lleol Irocwoiaid St. Lawrence, sy'n golygu ‘pentref, anheddiad’. Yn 1535, defnyddiodd trigolion brodorol rhanbarth Dinas Quebec heddiw'r gair i gyfeirio'r fforiwr Ffrengig Jacques Cartier i bentref Stadacona. Yn ddiweddarach, defnyddiodd Cartier y gair Canada i gyfeirio nid yn unig at y pentref penodol hwnnw ond at yr ardal gyfan yn ddarostyngedig i Donnacona (y pennaeth yn Stadacona). Erbyn 1545, roedd llyfrau a mapiau Ewropeaidd wedi dechrau cyfeirio at y rhanbarth bach hwn ar hyd Afon Saint Lawrence fel Canada.

O'r 16g i ddechrau'r 18g cyfeiriodd ‘Canada’ at y rhan o Ffrainc Newydd (New France) a orweddai ar hyd Afon Saint Lawrence. Yn 1791, daeth yr ardal yn ddwy wladfa Brydeinig o'r enw Canada Uchaf a Chanada Isaf gyda'i gilydd fe'u galwyd yn Canadas, tan iddyn nhw gael eu huno fel Talaith Brydeinig Canada ym 1841.

Ar ôl y Cydffederasiwn ym 1867, mabwysiadwyd Canada fel yr enw cyfreithiol ar y wlad newydd yng Nghynhadledd Llundain, a rhoddwyd y gair Dominion fel teitl i'r wlad. Erbyn y 1950au, nid oedd y term 'Dominion of Canada' bellach yn cael ei ddefnyddio gan y Deyrnas Unedig, a oedd yn ystyried Canada yn "Deyrnas y Gymanwlad". Daeth llywodraeth Louis St. Laurent i ben â'r arfer o ddefnyddio Dominion yn statudau Canada ym 1951.

Yn 1982, cyfeiriodd hynt Deddf Canada, gan ddod â Chyfansoddiad Canada yn llwyr o dan reolaeth Canada, at Ganada yn unig, tra yn ddiweddarach y flwyddyn honno newidiwyd enw'r gwyliau cenedlaethol o Ddiwrnod Dominion i Ddiwrnod Canada. Defnyddiwyd y term Dominion i wahaniaethu rhwng y llywodraeth ffederal a'r taleithiau, ond ar ôl yr Ail Ryfel Byd roedd y term ffederal wedi ei ddisodli dominion.

Hanes

    Prif: Hanes Canada

Pobl frodorol

Canada: Geirdarddiad, Hanes, Daearyddiaeth 
Ardaloedd ieithyddol yr Amerindiaid Gogledd America ar adeg cyswllt Ewropeaidd

Ymhlith y bobl frodorol yng Nghanada heddiw mae'r Amerindiaid, a elwir yn y ‘Cenhedloedd Cyntaf’, yr Inuit a'r Metisiaid, yr olaf yn bobl gymysgwaed a darddodd yng nghanol yr 17g pan briododd pobl y Cenhedloedd Cyntaf â gwladychwyr Ewropeaidd ac a ddatblygodd eu hunaniaeth eu hunain wedi hynny.

Rhagdybir yn gyffredinol bod trigolion cyntaf Gogledd America wedi mudo o Siberia trwy bont dir Bering (Beringia) a chyrraedd o leiaf 14,000 o flynyddoedd yn ôl (CP). Mae'r safleoedd archeolegol Paleo-Amerindiaidd yn Old Crow Flats ac Ogofau Bluefish yn ddau o'r safleoedd hynaf i bobl fyw ynddynt yng Nghanada. Roedd nodweddion cymdeithasau brodorol yn cynnwys aneddiadau parhaol, amaethyddiaeth, hierarchaethau cymdeithasol cymhleth, a rhwydweithiau masnachu. Dim ond trwy ymchwiliadau archeolegol diweddar y cafodd y diwylliannau brodorol hyn eu darganfod.

Amcangyfrifir bod y boblogaeth frodorol ar adeg yr aneddiadau Ewropeaidd cyntaf rhwng 200,000 a dwy filiwn, gyda ffigur o 500,000 wedi'i dderbyn gan Gomisiwn Brenhinol Canada ar Bobl Cynfrodorol. O ganlyniad i wladychu Ewropeaidd, gostyngodd y boblogaeth frodorol rhwng 40 ac 80%, a diflannodd sawl Gwlad Gyntaf, fel y Beothuk. Mae'r dirywiad hwn yn cael ei briodoli i nifer o achosion, gan gynnwys trosglwyddo clefydau Ewropeaidd, megis y ffliw, y frech goch, a'r frech wen gan nad oedd ganddynt unrhyw imiwnedd naturiol. Yn ogystal, roedd gwrthdaro parhaus rhwng y goresgynwyr gwyn a'r bobl frodorol: gwrthdaro dros y fasnach ffwr, gwrthdaro gyda'r awdurdodau trefedigaethol ac ymsefydlwyr, a cholli tiroedd Cynhenid i ymsefydlwyr.

Dechreuodd y Goron a'r Bobl Gynhenid ryngweithio yn ystod y cyfnod cytrefu Ewropeaidd, er bod y Inuit, yn gyffredinol, wedi rhyngweithio'n fwy cyfyngedig ag ymsefydlwyr Ewropeaidd. Fodd bynnag, o ddiwedd y 18g, anogodd Canadiaid Ewropeaidd bobloedd frodorol i gymathu i'w diwylliant nhw. Cyrhaeddodd yr ymdrechion hyn uchafbwynt ar ddiwedd y 19g a dechrau'r 20g gydag integreiddio ac adleoli gorfodol. Mae cyfnod o wneud iawn am yr anghyfiawnder hwn ar y gweill, a ddechreuodd gyda phenodiad Comisiwn Gwirionedd a Chysoni Canada gan Lywodraeth Canada yn 2008.

Gwladychu Ewropeaidd

Canada: Geirdarddiad, Hanes, Daearyddiaeth 
Map o hawliadau tiriogaethol yng Ngogledd America erbyn 1750, cyn Rhyfel Ffrainc a'r Amerindiaid, a oedd yn rhan o'r gwrthdaro byd-eang mwyaf a elwir yn Rhyfel y Saith Mlynedd (1756 i 1763). Meddiannau Prydain (pinc), Ffrainc Newydd (glas), a Sbaen (oren, California, Môr Tawel Gogledd Orllewin, a'r Basn Mawr heb eu nodi )

Credir mai'r Ewropeaidd cyntaf i archwilio'r arfordir dwyreiniol Canada oedd y fforiwr Llychlynaidd Leif Erikson. Tua 1000 OC, adeiladodd y Llychlynwyr wersyll bach a barodd ychydig flynyddoedd yn L'Anse aux Meadows ar ben gogleddol Newfoundland. Ni chafwyd ymweliad Ewropeaidd pellach tan 1497, pan archwiliodd a hawliodd y morwr Eidalaidd Giovanni Caboto arfordir Môr yr Iwerydd Canada, yn enw Brenin Harri VII o Loegr.

Yn 1534, archwiliodd y fforiwr Ffrengig Jacques Cartier Gwlff Saint Lawrence lle, ar Orffennaf 24, cododd groes 10 metr, croes a oedd yn dwyn y geiriau "Long Live the France of France" a chymryd meddiant o'r diriogaeth Ffrainc Newydd yn enw'r Brenin Francis I. Yn gynnar yn yr 16g, sefydlodd morwyr Ewropeaidd gyda thechnegau mordwyo a arloeswyd gan y Basgiaid a'r Portiwgaliaid wrth hel morfilod a physgota tymhorol ar hyd arfordir yr Iwerydd. Yn gyffredinol, ymddengys bod aneddiadau cynnar yn ystod Oes y Darganfod (Age of Discovery) wedi bod yn fyrhoedlog oherwydd cyfuniad o'r hinsawdd galed, problemau gyda llywio llwybrau masnach a blaengaredd Sgandinafia.

Gweinyddwyd y wlad rhan o Ymerodraeth Prydain yn bedwar talaith: Canada Uchaf, Canada Isaf, Nova Scotia a New Brunswick a thiriogaethau i'r gogledd hyd nes uno'r wladwriaeth yng nghannol 19g.

Yr oes bresennol

Roedd argyfwng ariannol y Dirwasgiad Mawr wedi arwain Dominion Newfoundland i ildio llywodraeth gyfrifol ym 1934 a dod yn Drefedigaeth y Goron a reolwyd gan lywodraethwr Prydeinig. Ar ôl dau refferendwm, pleidleisiodd y Newfoundlandiaid i ymuno â Chanada ym 1949 fel talaith.

Arweiniodd twf economaidd Canada ar ôl y rhyfel, ynghyd â pholisïau llywodraethau Rhyddfrydol olynol, at ymddangosiad hunaniaeth newydd o Ganada, a nodwyd gan fabwysiadu Baner y Fasarnen ym 1965, gweithredu dwyieithrwydd swyddogol (Saesneg a Ffrangeg ) ym 1969, a sefydliad amlddiwylliannedd swyddogol ym 1971. Sefydlwyd rhaglenni cymdeithasol ddemocrataidd hefyd, megis Medicare, Cynllun Pensiwn Canada, a Benthyciadau Myfyrwyr Canada, er bod llywodraethau taleithiol, yn enwedig Quebec ac Alberta, yn gwrthwynebu llawer o'r rhain.

Canada: Geirdarddiad, Hanes, Daearyddiaeth 
Copi o Siarter Hawliau a Rhyddidau Canada

Yn olaf, arweiniodd cyfres arall o gynadleddau cyfansoddiadol at Ddeddf Canada 1982 y DU, cyfansoddiad Canada o'r Deyrnas Unedig, ar yr un pryd â chreu Siarter Hawliau a Rhyddid Canada. Sefydlodd Canada sofraniaeth lwyr fel gwlad annibynnol, er bod brenhines Lloegr yn cael ei chadw o ran enw'n unig. Yn 1999, daeth Nunavut yn drydedd diriogaeth Canada ar ôl cyfres o drafodaethau gyda'r llywodraeth ffederal.

Yn 2011, cymerodd lluoedd Canada ran yn yr ymyrraeth dan arweiniad NATO yn Rhyfel Libya, a daethant hefyd yn rhan o frwydro yn erbyn gwrthryfel y Wladwriaeth Islamaidd yn Irac yng nghanol 2010au. Dechreuodd pandemig COVID-19 yng Nghanada ar Ionawr 27, 2020, gydag aflonyddwch cymdeithasol ac economaidd eang. Yn 2021, darganfuwyd gweddillion cannoedd o bobl frodorol ger hen safleoedd ysgolion preswyl Indiaidd Canada. Roedd yr ysgolion hyn wedi eu rheoli gan Eglwys Gatholig Canada a'u hariannu gan lywodraeth Canada rhwng 1828 a 1997; ceisiodd yr ysgolion preswyl hyn gymhathu plant brodorol i ddiwylliant Ewro-Canada.

Daearyddiaeth

    Prif: Daearyddiaeth Canada

Yn ôl cyfanswm arwynebedd (gan gynnwys ei dyfroedd), Canada yw'r ail-fwyaf fwyaf yn y byd, ar ôl Rwsia. Yn ôl arwynebedd tir yn unig, fodd bynnag, mae Canada yn y pedwerydd safle, oherwydd bod ganddi gyfran fwyaf y byd o lynnoedd dŵr croyw. Gan ymestyn o Gefnfor yr Iwerydd yn y dwyrain, ar hyd Gefnfor yr Arctig i'r gogledd, ac i'r Cefnfor Tawel yn y gorllewin, mae'r wlad yn cwmpasu 9,984,670 km ag o diriogaeth. Mae gan Ganada dir morwrol helaeth hefyd, gydag arfordir hiraf y byd o 243,042 cilometr. Yn ogystal â rhannu ffin â'r Unol Daleithiau mae Canadann rhannu ffin forwrol â'r Ynys Las i'r gogledd-ddwyrain a chyda Saint Pierre a Miquelon i'r de-ddwyrain. Mae Canada hefyd yn gartref i anheddiad mwyaf gogleddol y byd, sef CFS Alert Lluoedd Milwrol Canada, ar ben gogleddol Ynys Ellesmere - maint 82.5 ° N - sy'n gorwedd 817 kilometre (508 mi) o Begwn y Gogledd.

Mae daearyddiaeth ffisegol Canada yn amrywiol iawn, gyda'i choedwigoedd boreal ledled y wlad, rhew rhanbarthau gogledd yr Arctig a thrwy'r Rockies, ac cheir Prairies (y paith) cymharol wastad yn y de-orllewin lle ceir amaethyddiaeth ffrwythlon iawn. Mae'r Llynnoedd Mawr yn bwydo Afon St Lawrence (yn y de-ddwyrain) lle mae'r iseldir yn gartref i lawer o ddiwydiannau mwyaf Canada. Mae gan Ganada dros 2,000,000 o lynnoedd - gyda 563 ohonynt yn fwy na 100 km sg ac sy'n cynnwys llawer o ddŵr croyw'r byd. Ceir rhewlifoedd dŵr croyw hefyd yn Rockies Canada, Mynyddoedd yr Arfordir a Cordillera yr Arctig. Yn ddaearegol, mae Canada yn weithgar, gyda llawer o ddaeargrynfeydd a llosgfynyddoedd a allai fod yn weithredol, yn benodol massif Mount Meager, Mount Garibaldi, massif Mount Cayley, a maes folcanig Mount Edziza .

Y man uchaf yng Nghanada yw Mynydd Logan, sydd 5,959 metr uwch lefel y môr.

Rhanbarthau

Canada: Geirdarddiad, Hanes, Daearyddiaeth 
Rhanbarthau Canada

Mae Canada wedi'i rhannu yn 10 o taleithiau a thri thiriogaethau.

Talaith Poblogaeth
(10 Mai 2016)
Arwynebedd
km2
Prif Ddinas Poblogaeth yr ardal fetropolitan
Alberta 4,067,175 661,848 Edmonton 1,321,426
Columbia Brydeinig 4,648,055 944,735 Victoria 383,360
Manitoba 1,278,365 742,038 Winnipeg 811,874
Brunswick Newydd 747,101 72,908 Fredericton 105,688
Alban Newydd (Nova Scotia) 923,598 55,284 Halifax 403,390
Ontario 13,448,494 1,076,395 Toronto 6,417,516
Cwebéc 8,164,361 1,542,056 Cwebéc 800,296
Saskatchewan 1,098,352 651,036 Regina 236,481
Ynys Tywysog Edward (Prince Edward Island) 142,907 5,660 Charlottetown 64,487
Y Tir Newydd a Labradôr (Newfoundland and Labrador) 519,716 405,212 St. John's 205,955
Diriogaeth Poblogaeth
(10 Mai 2016)
Arwynebedd
km2
Prif Ddinas Poblogaeth yr ardal fetropolitan
Yukon 35,874 482,443 Whitehorse 25,085
Tiriogaethau'r Gogledd-orllewin 41,786 1,346,106 Yellowknife 18,352
Nunavut 35,944 2,093,190 Iqaluit 7,082

Cyfeiriadau

Dolen allanol


Tags:

Canada GeirdarddiadCanada HanesCanada DaearyddiaethCanada RhanbarthauCanada CyfeiriadauCanada Dolen allanolCanadaArwynebeddCefnfor yr ArctigGogledd AmericaMontrealMôr IweryddMôr TawelOttawaRwsiaTorontoUnol Daleithiau'r AmericaVancouver

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

Nwy naturiolHinsawddWiciadurKappa MikeyMetadataAmgueddfa Genedlaethol AwstraliaCarles PuigdemontStealRetinaTeyrnas Unedig Prydain Fawr ac IwerddonY Groesgad GyntafThere's No Business Like Show BusinessYnysoedd TorontoLatfiaTaekwondoEfrog NewyddThe Heyday of The Insensitive BastardsMartin LandauTähdet Kertovat, Komisario PalmuFrankenstein, or The Modern PrometheusPab Ioan Pawl IXboxTŵr EiffelWcráinYr AmerigEidalegIesuTrênCynnyrch mewnwladol crynswthIeithoedd Indo-EwropeaiddBen-HurYnysoedd MarshallIrbesartanAnimeTerfysgaethPrifadran Cymru (rygbi)DiwydiantYr AlmaenRhyw geneuolNegarGwilym BrewysTai (iaith)Gweriniaeth RhufainMordiroLafaY Forwyn FairCymryGramadeg Lingua Franca NovaPleidlais o ddiffyg hyderSpring SilkwormsEugenie... The Story of Her Journey Into PerversionRosettaThe Terry Fox StoryClorinIranLead BellyCharles GrodinRichard Wagner22 AwstTutsiAwstraliaPleistosenFflafocsadHelmut LottiFfisegHenoRobert CroftCymdeithas ryngwladolWiliam III & II, brenin Lloegr a'r AlbanThe Mayor of CasterbridgePrwsiaGwasanaeth rhwydweithio cymdeithasol🡆 More