Portiwgal: Gwlad yn ne-orllewin Ewrop

Gwlad a gweriniaeth yn ne-orllewin Ewrop yw'r Weriniaeth Bortiwgalaidd neu Phortiwgal (Portiwgaleg: Portugal) (Portiwgaleg: República Portuguesa).

Mae hi'n gorwedd rhwng Sbaen a'r Cefnfor Iwerydd ac mae'r ynysoedd Azores a Madeira hefyd yn rhan o'r wlad. Prifddinas Portiwgal yw Lisbon. Fe'i lleolir ar Benrhyn Iberia, yn Ne-orllewin Ewrop. Hi yw'r wladwriaeth sofran fwyaf gorllewinol ar dir mawr Ewrop, wedi'i ffinio â'r gorllewin a'r de gan Gefnfor yr Iwerydd ac i'r gogledd a'r dwyrain gan Sbaen, yr unig wlad i gael ffin tir â Phortiwgal. Mae tiriogaeth Portiwgal hefyd yn cynnwys archipelagos yr Iwerydd yn yr Azores a Madeira, y ddau yn rhanbarthau ymreolaethol â'u llywodraethau rhanbarthol eu hunain. Portiwgaleg yw'r iaith swyddogol a chenedlaethol. Lisbon yw'r brifddinas a'r ddinas fwyaf.

Portiwgal
Portiwgal: Geirdarddiad, Hanes, Daearyddiaeth
República Portuguesa
Portiwgal: Geirdarddiad, Hanes, Daearyddiaeth
ArwyddairArfordir Gorllewin Ewrop Edit this on Wikidata
Mathgwladwriaeth sofran, gwlad, pŵer trefedigaethol, gwlad OECD Edit this on Wikidata
PrifddinasLisbon Edit this on Wikidata
Poblogaeth10,347,892 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 23 Mai 1179 Edit this on Wikidata
AnthemA Portuguesa Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethAntónio Costa Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC−01:00 Edit this on Wikidata
NawddsantSiôr Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Portiwgaleg, Mirandeg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolSouthwestern Europe, yr Undeb Ewropeaidd, Ardal Economeg Ewropeaidd Edit this on Wikidata
Arwynebedd92,225 km² Edit this on Wikidata
GerllawCefnfor yr Iwerydd Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaSbaen Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau39°N 9°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff gweithredolGovernment of Portugal Edit this on Wikidata
Corff deddfwriaetholCynulliad y Weriniaeth Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y wladwriaeth
Arlywydd Portiwgal Edit this on Wikidata
Pennaeth y wladwriaethMarcelo Rebelo de Sousa Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Prif Weinidog Portiwgal Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethAntónio Costa Edit this on Wikidata
Portiwgal: Geirdarddiad, Hanes, Daearyddiaeth
Ariannol
Cyfanswm CMC (GDP)$253,983 million, $251,945 million Edit this on Wikidata
ArianEwro Edit this on Wikidata
Canran y diwaith14 ±1 % Edit this on Wikidata
Cyfartaledd plant1.21 Edit this on Wikidata
Mynegai Datblygiad Dynol0.866 Edit this on Wikidata

Portiwgal yw'r genedl-wladwriaeth hynaf ar Benrhyn Iberia ac un o'r hynaf yn Ewrop, ac mae ei thiriogaeth wedi cael ei setlo, ei goresgyn a'i hymladd yn barhaus ers y cyfnod cynhanesyddol. Pobl gyn-Geltaidd a Cheltaidd oedd yn byw yno, ymwelodd y Phoeniciaid, Carthaginiaid, a'r Groegiaid Hynafol â nhw, a chawsant eu rheoli gan y Rhufeiniaid, a ddilynwyd hynny gan oresgyniadau pobloedd Germanaidd, y Suebi a'r Fisigothiaid. Ar ôl goresgyniad y Penrhyn Iberaidd gan y Mwriaid, daeth y rhan fwyaf o'i thiriogaeth yn rhan o Al-Andalus. Sefydlwyd Portiwgal fel gwlad yn ystod cyfnod y Reconquista Cristnogol cynnar, sef cyfnod o 750 mlynedd pan ad-enillodd y Cristionogion y rhannau o Benrhyn Iberia a oedd wedi dod dan lywodraeth Islamaidd. Fe'i sefydlwyd ym 868, ac enillodd Sir Portiwgal amlygrwydd ar ôl Brwydr São Mamede (1128). Cyhoeddwyd Teyrnas Portiwgal yn ddiweddarach yn dilyn Brwydr Ourique (1139), a chydnabuwyd annibyniaeth oddi wrth León gan Gytundeb Zamora (1143).

Yn y 15fed a'r 16g, sefydlodd Portiwgal yr ymerodraeth forwrol a masnachol fyd-eang gyntaf, gan ddod yn un o brif bwerau economaidd, gwleidyddol a milwrol y byd. Yn ystod y cyfnod hwn, y cyfeirir ato heddiw fel Oes y Darganfod (neu neu Oes Aur Fforio), arloesodd y fforwyr Portiwgalaidd mewn mordwyaeth gan ddarganfod y tir a fyddai’n cael ei enwi'n Brasil (1500). Yn ystod yr amser hwn ehangodd yr ymerodraeth Bortiwgalaidd gydag ymgyrchoedd milwrol yn Asia. Fodd bynnag, profodd ddigwyddiadau negyddol fel daeargryn Lisbon 1755, Rhyfeloedd Napoleon, ac annibyniaeth Brasil (1822). Parhaodd rhyfel cartref rhwng y rhyddfrydwyr a'r ceidwadwyr ym Mhortiwgal dros olyniaeth frenhinol rhwng 1828 a 1834.

Ar ôl i chwyldro 1910 ddiorseddu’r frenhiniaeth, sefydlwyd Gweriniaeth Gyntaf Portiwgal, gweriniaeth ddemocrataidd ond ansefydlog, a gafodd ei disodli’n ddiweddarach gan drefn awdurdodol yr Estado Novo. Adferwyd democratiaeth ar ôl Chwyldro'r Penigan (carnation) yn 1974, gan ddod â Rhyfel Trefedigaethol Portiwgal i ben. Yn fuan wedi hynny, rhoddwyd annibyniaeth i bron ei holl diriogaethau tramor. Roedd trosglwyddo Macau i China (1999) yn nodi diwedd yr hyn y gellir ei ystyried yn un o'r ymerodraethau trefedigaethol hiraf mewn hanes.

Mae wedi gadael dylanwad diwylliannol, pensaernïol diwylliant a phensaerniaeth Portiwgal wedi ymledu drwy'r byd, fel ag y mae ei hiaith hefyd gyda tua 250 miliwn o siaradwyr Portiwgaleg. Mae'n wlad ddatblygedig gydag economi ddatblygedig a safonau byw uchel. Yn ogystal, mae'n uchel iawn ar restr gwledydd heddychlon y byd, democratiaeth, rhyddid y wasg, sefydlogrwydd, cynnydd cymdeithasol a ffyniant. Mae'n aelod o'r Cenhedloedd Unedig, yr Undeb Ewropeaidd, Ardal Schengen a Chyngor Ewrop (CoE), ac mae'n un o aelodau sefydlu NATO, ardal yr ewro a'r OECD.

Geirdarddiad

Portiwgal: Geirdarddiad, Hanes, Daearyddiaeth 
Cromlech Chalcolithig Anta da Arca

Mae'r gair Portiwgal yn deillio o'r enw lle Rhufeinig - Celtaidd Portus Cale; hen ddinas lle saif heddiw Vila Nova de Gaia, wrth geg Afon Douro (hen air Celtaidd am ddŵr yw 'douro'. Saif yng ngogledd yr hyn sydd bellach yn Bortiwgal. Daw enw'r ddinas o'r gair Lladin am borthladd neu harbwr, portus, ond mae ail elfen 'Cale' yn llai eglur. Yr esboniad amlaf yw bod yr enw'n deillio o'r llwythi Celtaidd Castro, a elwir hefyd yn Callaeci, Gallaeci neu Gallaecia, a feddiannodd ogledd-orllewin Penrhyn Iberia. Yr enwau Cale a Callaici yw tarddiad Gaia a Galicia heddiw.

Damcaniaeth arall yw fod Cale neu Calle yn tarddu o'r gair Celtaidd am borthladd, fel y gair Gwyddeleg caladh neu Aeleg yr Alban cala. Mae ysgolheigion fel Jean Markale a Tranoy yn cynnig bod y canghennau Celtaidd i gyd yn rhannu'r un tarddiad, ac mae enwau lleoedd fel Cale, Gal, Gaia, Calais, Galatia, Galicia, Gaeleg, Gael, Gâl, Cymru, Cernyw, Wallonia ac eraill i gyd yn deillio o un gwreiddyn ieithyddol.

Damcaniaeth arall yw mai Cala oedd enw duwies Geltaidd (gan dynnu cymhariaeth â'r Cailleach Goedeleg, sef gwrach oruwchnaturiol). Mae rhai ysgolheigion o Ffrainc yn credu bod yr enw wedi dod o "Portus Gallus", porthladd y Gâliaid neu'r Celtiaid.

Hanes

Yn grynno

Mae hanes Portiwgal yn y cyfnod cynnar yn rhan o hanes Penrhyn Iberia yn gyffredinol. Daw'r enw Portiwgal o'r enw Rhufeinig Portus Cale. Yn y cyfnod cyn dyfodiad y Rhufeiniad, poblogid yr ardal sydd yn awr yn ffurfio Portiwgal gan nifer o bobloedd wahanol, yn cynnwyd y Lwsitaniaid a'r Celtiaid. Ymwelodd y Ffeniciaid a'r Carthaginiaid a'r ardal, a bu rhan ohoni dan reolaeth Carthago am gyfnod.

Ymgorfforwyd yr ardal yn yr Ymerodraeth Rufeinig wedi i Cathago gael ei gorchfygu; roedd talaith Rufeinig Lusitania, wedi 45 CC, yn cyfateb yn fras i'r wlad bresennol. Wedi diwedd yr ymerodraeth, meddiannwyd y wlad gan lwythau Almaenig megis y Suevi, Buri a'r Fisigothiaid. Wedi'r goresgyniad Islamaidd ar ddechrau'r 8g daeth yn rhan o Al Andalus. Ffurfiwyd tiriogaeth o'r enw Portiwgal yn 868, wedi i'r Cristioniogion ddechrau ad-ennill tir yn y Reconquista. Wedi buddigoliaeth dros y Mwslimiaid yn Ourique yn 1139, ffurfiwyd Teyrnas Portiwgal. Parhaodd yr ymladd yn erbyn y Mwslimiaid, ac yn 1249 cipiwyd yr Algarve gan y Cristionogion, gan sefydlu ffiniau presennol Portiwgal.

Yn niwedd y 14g, hawliwyd coron Portiwgal gan frenin Castilla, ond bu gwrthryfel poblogaidd, a gorchfygwyd Castillia ym Mrwydr Aljubarrota gan Ioan o Aviz, a ddath yn Ioan I, brenin Portiwgal. Drod y blynyddoedd nesaf, bu gan Portiwgal ran flaenllaw yn y gwaith o fforio a gwladychu gwledydd tu allan i Ewrop. Yn 1415, meddiannodd Ceuta yng Ngogledd Affrica, ei gwladfa gyntaf; dilynwyd hyn gan feddiannu Madeira a'r Azores. Yn 1500, darganfuwyd Brasil gan Pedro Álvares Cabral, a'i hawliodd i goron Portiwgal, a deng mlynedd wedyn, cipiwyd Goa yn India, Ormuz yng Nghulfor Persia a Malacca yn yr hyn sy'n awr yn Maleisia. Cyrhaeddodd llongwyr Portiwgal cyn belled a Siapan ac efallai Awstralia.

Wedi marwolaeth y brenin Sebastian heb aer mewn brwydr ym Moroco, hawliwyd ei orsedd gan Philip II, brenin Sbaen, a rhwng 1580 a 1640, roedd brenin Sbaen yn frenin Portiwgal hefyd, er ei bod yn parhau i gael ei hystyried fel teyrnas annibynnol. Yn 1640, bu gwrthryfel, a chyhoeddwyd Ioan IV yn frenin Portiwgal.

O ddechrau'r 19g, dechreuodd grym Portiwgal edwino; daeth Brasil yn annibynnol yn 1822, er iddi feddiannu rhannau o Affrica yn nes ymlaen yn y ganrif, yn cynnwys y tiriogaethau sy'n awr yn wledydd Cabo Verde, São Tomé a Príncipe, Gini Bisaw, Angola a Mosambic.

Wedi gwrthryfel yn Lisbon, dymchwelwyd y frenhiniaeth a sefydlwyd gweriniaeth ddemocrataidd yn 1910. Yn 1926, bu gwrthryfel milwrol a sefydlwyd llywodraeth filwrol a arweiniodd at unbennaeth António de Oliveira Salazar. Collodd Portiwgal ei meddiannau yn India pan oresgynnwyd hwy gan fyddin India yn 1961. Tua dechrau'r 1960au hefyd y dechreuodd rhyfeloedd annibyniaeth yn Angola a Mosambic. Wedi gwrthryfel a adnabyddir fel y Chwyldro Carnasiwn yn 1974, rhoddwyd diwedd ar undennaeth a daeth Portiwgal yn wlad ddemocrataidd. Yn 1999, dychwelwyd Macau, yr olaf o'i meddiannau tramor, i Tsieina.

Cynhanes

Portiwgal: Geirdarddiad, Hanes, Daearyddiaeth 
Safleoedd Celf Roc Cynhanesyddol Dyffryn Côa .

Rhennir hanes cynnar Portiwgal â gweddill Penrhyn Iberia yn ne-orllewin Ewrop. Mae enw Portiwgal yn deillio o'r enw Rhufeinig-Geltaidd Portus Cale. Sefydlwyd y rhanbarth gan Gyn- Geltiaid a Cheltiaid, ac yn darddle pobloedd fel y Gallaeci, Lusitaniaid, Celtici a Cynetes (a elwir hefyd yn Conii), ymwelwyd â hwy gan Ffeniciaid - Carthaginiaid a Groegiaid Hynafol, a'u hymgorffori yn rhanbarthau o'r Weriniaeth Rufeinig fel Lusitania a rhan o Gallaecia, rhwng 45 CC a 298 OC.

Roedd y Neanderthaliaid yn byw yma ac yna gan Homo sapiens, a grwydrodd y rhanbarth heb ffiniau ar benrhyn gogledd Iberia. Cymdeithasau oedd y rhain ac er na wnaethant sefydlu aneddiadau llewyrchus, roeddent yn ffurfio cymdeithasau trefnus. Arbrofodd Portiwgal Neolithig â dofi anifeiliaid a bugeilio, codi rhai cnydau grawn a physgota afonol a morol.

Portiwgal: Geirdarddiad, Hanes, Daearyddiaeth 
Henebion Megalithig Alcalar, a adeiladwyd yn y 3edd mileniwm CC.

Cred rhai ysgolheigion fod sawl ton o Geltiaid wedi goresgyn Portiwgal o Ganol Ewrop yn gynnar yn y mileniwm cyntaf CC ac wedi priodi gyda'r poblogaethau lleol, gan ffurfio gwahanol lwythau. Mae damcaniaeth arall yn awgrymu bod Celtiaid yn byw yng ngorllewin Iberia / Portiwgal ymhell cyn unrhyw ymfudiadau Celtaidd mawr o Ganol Ewrop. Yn ogystal, mae nifer o ieithyddion sy'n arbenigo mewn Celtaidd hynafol wedi cyflwyno tystiolaeth gymhellol bod yr iaith Tartessaidd, a arferai gael ei siarad mewn rhannau o De-Orllewin Sbaen a De-Orllewin Portiwgal, o leiaf yn broto-Geltaidd ei strwythur

Mae archeoleg ac ymchwil fodern yn dangos fod gwreiddiau'r Celtiaid ym Mhortiwgal ac mewn mannau eraill (ee y Swistir ac Awstria). Yn ystod y cyfnod hwnnw a than y goresgyniadau Rhufeinig, roedd diwylliant Castro yn doreithiog ym Mhortiwgal a Galicia fodern. Daeth y diwylliant hwn, ynghyd â'r elfennau sydd wedi goroesi o ddiwylliant megalithig yr Iwerydd a'r cyfraniadau sy'n dod o ddiwylliannau mwy Môr y Canoldir y Gorllewin, i ben yn yr hyn a elwir yn Ddiwylliant Cultura Castreja neu Castro. Mae'r dynodiad yn cyfeirio at y poblogaethau Celtaidd nodweddiadol o'r enw 'Dun', 'dùin' neu 'don' yn Gaeleg.

Daearyddiaeth

    Prif: Daearyddiaeth Portiwgal

Mae tiriogaeth Portiwgal yn cynnwys rhan o Benrhyn Iberia (y cyfeirir ati fel y cyfandir gan y mwyafrif o Bortiwgaliaid) a dau ynysfor yng Nghefnfor yr Iwerydd: Madeira a'r Azores. Mae'n gorwedd rhwng lledredau 30° a 42° Gog, a hydoedd 32 ° a 6 ° Gor.

Mae Portiwgal y tir mawr wedi'i rannu gan ei phrif afon, y Tagus, sy'n llifo o Sbaen ac yn llifo i'r môôr yn Aber Tagus, yn Lisbon, cyn llifo i Fôr yr Iwerydd. Mae'r dirwedd ogleddol yn fynyddig ond nodweddir y de, gan gynnwys rhanbarthau Algarve ac Alentejo, gan wastadeddau bryniog.

Copa uchaf Portiwgal yw'r Mynydd Pico, sef llosgfynydd hynafol 2,351 metr ac sy'n symbol eiconig o'r Asores. Mae'r Serra da Estrela ar y tir mawr, gyda'i gopa 1,991 metr yn atyniad tymhorol pwysig i sgiwyr.

Mae ynysforoedd Madeira a'r Asores wedi'u gwasgaru o fewn Cefnfor yr Iwerydd, gyda'r Asores yn pontio Crib Canol yr Iwerydd ar gyffordd driphlyg tectonig, a Madeira. Yn ddaearegol, ffurfiwyd yr ynysoedd hyn gan ddigwyddiadau folcanig a seismig. Digwyddodd y ffrwydrad folcanig daearol olaf ym 1957-58 (Capelinhos) ac mae mân ddaeargrynfeydd yn digwydd yn achlysurol, fel arfer o ddwysedd isel.

Mae gan barth economaidd unigryw Portiwgal, parth môr y mae gan y Portiwgaleg hawliau arbennig drosto i archwilio a defnyddio adnoddau morol, 1,727,408 km 2. Dyma'r 3ydd parth economaidd unigryw mwyaf yn yr Undeb Ewropeaidd a'r 20fed mwyaf yn y byd.

Hinsawdd

Portiwgal: Geirdarddiad, Hanes, Daearyddiaeth 
Map dosbarthu hinsawdd Köppen o Bortiwgal cyfandirol

Nodweddir Portiwgal yn bennaf gan hinsawdd Môr y Canoldir. ceir hinsawdd lled-gras mewn rhai rhannau o Ardal Beja ymhell i'r de ( BSk ) ac yn Ynys Porto Santo (BSh), hinsawdd anialwch gynnes (BWh) yn Ynysoedd Selvagens a hinsawdd is-drofannol llaith yn yr Asores orllewinol (Cfa), yn ôl Dosbarthiad Hinsawdd Köppen-Geiger. Mae'n un o'r gwledydd cynhesaf yn Ewrop: gall y tymheredd cyfartalog blynyddol ar dir mawr Portiwgal amrywio o 10–12 °C (50.0–53.6 °F) yn y tiroedd mynyddig i'r gogledd i 16–18 °C (60.8–64.4 °F) yn y de ac ar fasn afon Guadiana. Fodd bynnag, mae amrywiadau o'r ucheldiroedd i'r iseldiroedd: mae'r biolegydd Sbaenaidd Salvador Rivas Martinez yn cyflwyno sawl parth bioclimatig gwahanol ar gyfer Portiwgal. Gwahanwyd yr Algarveo ranbarth Alentejo gan fynyddoedd sy'n cyrraedd hyd at 900 metr Alto da Fóia, mae ganddo hinsawdd sy'n debyg i hinsawdd ardaloedd arfordirol deheuol Sbaen neu Dde-orllewin Awstralia.

Mae'r glawiad cyfartalog blynyddol ar y tir mawr yn amrywio o ychydig dros 3,200 mm ar Barc Cenedlaethol Peneda-Gerês i lai na 500 mm yn rhannau deheuol Alentejo. Cydnabyddir mai Mount Pico sy'n derbyn y glawiad blynyddol mwyaf (dros 6,250 mm y flwyddyn) ym Mhortiwgal, yn ôl Instituto Português do Mar e da Atmosfera .

Mewn rhai ardaloedd, fel basn Guadiana, gall tymereddau dyddiol cyfartalog blynyddol fod mor uchel â 26 °C (79 °F), ac mae tymereddau uchaf yr haf dros 40 °C (104 °F). Y tymheredd uchaf yw 47.4 °C (117.3 °F) a gofnodwyd yn Amareleja, er efallai nad hwn oedd y man poethaf yn yr haf, yn ôl darlleniadau lloeren.

Portiwgal: Geirdarddiad, Hanes, Daearyddiaeth 
Mae Traeth Marinha yn Lagoa, Algarve yn cael ei ystyried gan Guide Michelin fel un o'r 10 traeth harddaf yn Ewrop ac fel un o'r 100 o draethau harddaf y byd.

Ceir eira'n rheolaidd yn y gaeaf yng Ngogledd a Chanol y wlad mewn ardaloedd fel Guarda, Bragança, Viseu a Vila Real, yn enwedig ar y mynyddoedd. Yn y gaeaf, gall y tymheredd ostwng yn is na −10.0 °C (14.0 °F), yn enwedig yn Serra da Estrela, Serra do Gerês, Serra do Marão a Serra de Montesinho. Yn y lleoedd hyn gall eira ddisgyn unrhyw amser rhwng Hydref a Mai. Yn Ne'r wlad mae rhaeadrau eira yn brin ond yn digwydd ar y drychiadau uchaf. Er mai'r isafswm absoliwt swyddogol gan IPMA yw −16.0 °C (3.2 °F) ym Mhenhas da Saúde a Miranda do Douro, cofnodwyd tymereddau is, fel −17.5 °C (0.5 °F) gan Sefydliad Polytechnig Bragança ar gyrion y ddinas ym 1983, ac islaw −20.0 °C (−4.0 °F) yn Serra da Estrela.

Am oddeutu 2300 i 3200 awr y flwyddyn mae gan Bortiwgal Cyfandirol haul, 4–6 awr ar gyfartaledd yn y gaeaf a 10–12 awr yn yr haf, gyda gwerthoedd uwch yn y de-ddwyrain, y de-orllewin ac arfordir Algarve ac ychydig is yn y gogledd-orllewin. Ceir tua 1600 awr yn Ynys llaith y Flores a thua 2300 awr yn ynys Madeira a Phorto Santo. Credir bod ynysiad yn y Selvagens yn uwch oherwydd eu hagosrwydd cymharol at Anialwch y Sahara.

Gwleidyddiaeth

    Prif: Gwleidyddiaeth Portiwgal

Pobl o Bortiwgal

Rhestr Wicidata:

# delwedd enw dyddiad geni dyddiad marw man geni
1
Portiwgal: Geirdarddiad, Hanes, Daearyddiaeth 
Luís de Camões 1524-12
1525-01
1580-06-10 Lisbon
2
Portiwgal: Geirdarddiad, Hanes, Daearyddiaeth 
Pedro I, ymerawdwr Brasil 1798-10-12 1834-09-24 Palas Queluz
Queluz
3
Portiwgal: Geirdarddiad, Hanes, Daearyddiaeth 
Fernão de Magalhães 1480 1521-04-27 Ponte da Barca
4
Portiwgal: Geirdarddiad, Hanes, Daearyddiaeth 
Vasco da Gama 1469
1460
1524-12-24 Sines
5
Portiwgal: Geirdarddiad, Hanes, Daearyddiaeth 
Cristiano Ronaldo 1985-02-05 Funchal
6
Portiwgal: Geirdarddiad, Hanes, Daearyddiaeth 
José Saramago 1922-11-16 2010-06-18 Azinhaga
7
Portiwgal: Geirdarddiad, Hanes, Daearyddiaeth 
Mário Soares 1924-12-07 2017-01-07 Lisbon
8
Portiwgal: Geirdarddiad, Hanes, Daearyddiaeth 
Eleanor o Bortiwgal 1434-09-18 1467-09-03 Torres Vedras
9
Portiwgal: Geirdarddiad, Hanes, Daearyddiaeth 
Pedro Álvares Cabral 1467 1520 Belmonte
10
Portiwgal: Geirdarddiad, Hanes, Daearyddiaeth 
Catrin o Braganza 1638-11-25 1705-12-31 Ducal Palace of Vila Viçosa
11
Portiwgal: Geirdarddiad, Hanes, Daearyddiaeth 
Nuno Gomes 1976-07-05 Amarante
12
Portiwgal: Geirdarddiad, Hanes, Daearyddiaeth 
Barbara o Portiwgal 1711-12-04 1758-08-27 Lisbon
13
Portiwgal: Geirdarddiad, Hanes, Daearyddiaeth 
Infanta Maria Francisca o Bortiwgal 1800-04-22 1834-09-11 Palas Queluz
14 Paula Rego 1935-01-26 2022-06-08 Lisbon
15 Maria Helena Vieira da Silva 1908-06-13 1992-03-06 Lisbon
16
Portiwgal: Geirdarddiad, Hanes, Daearyddiaeth 
Infanta Antónia o Bortiwgal 1845-02-17 1913-12-27 Lisbon
Belém Palace
17
Portiwgal: Geirdarddiad, Hanes, Daearyddiaeth 
Infanta Isabel Maria o Bortiwgal 1801-07-04 1876-04-22 Lisbon
18
Portiwgal: Geirdarddiad, Hanes, Daearyddiaeth 
António Egas Moniz 1874-11-29 1955-12-13 Avanca
19
Portiwgal: Geirdarddiad, Hanes, Daearyddiaeth 
Leonor de Almeida Portugal 1750-10-31 1839-10-11 Lisbon
20
Portiwgal: Geirdarddiad, Hanes, Daearyddiaeth 
Maria Keil 1914-08-09 2012-06-10 Silves
21
Portiwgal: Geirdarddiad, Hanes, Daearyddiaeth 
Pedr I, brenin Portiwgal 1320-04-08 1367-01-18 Coimbra
22
Portiwgal: Geirdarddiad, Hanes, Daearyddiaeth 
António Guterres 1949-04-30 Lisbon
23
Portiwgal: Geirdarddiad, Hanes, Daearyddiaeth 
Paulo Futre 1966-02-28 Montijo
24
Portiwgal: Geirdarddiad, Hanes, Daearyddiaeth 
Agustina Bessa-Luís 1922-10-15 2019-06-03 Vila Meã
25
Portiwgal: Geirdarddiad, Hanes, Daearyddiaeth 
Helena Almeida 1934 2018-09-25 Lisbon
26
Portiwgal: Geirdarddiad, Hanes, Daearyddiaeth 
Isaac Orobio de Castro 1617 1687-11-07 Bragança
27 Maria Inês Ribeiro da Fonseca 1926-09-09 1995-04-11 Lisbon
28
Portiwgal: Geirdarddiad, Hanes, Daearyddiaeth 
Andre Gomes 1993-07-30 Grijó
29
Portiwgal: Geirdarddiad, Hanes, Daearyddiaeth 
Afonso VI, brenin Portiwgal 1643-08-21 1683-09-12 Ribeira Palace
30
Portiwgal: Geirdarddiad, Hanes, Daearyddiaeth 
Augusto de Vasconcelos 1867-09-24 1951-09-27 Lisbon
31
Portiwgal: Geirdarddiad, Hanes, Daearyddiaeth 
Pedr III, brenin Portiwgal 1717-07-05 1786-05-25 Lisbon
32
Portiwgal: Geirdarddiad, Hanes, Daearyddiaeth 
Sancho I, brenin Portiwgal 1154-11-11 1211-03-26
1212-03-26
Coimbra
33
Portiwgal: Geirdarddiad, Hanes, Daearyddiaeth 
João IV, brenin Portiwgal 1604-03-19 1656-11-06 Ducal Palace of Vila Viçosa
34
Portiwgal: Geirdarddiad, Hanes, Daearyddiaeth 
Maria da Conceição Tavares 1930-04-24 Anadia
35
Portiwgal: Geirdarddiad, Hanes, Daearyddiaeth 
José Alberto Costa 1953-10-31 Porto
36
Portiwgal: Geirdarddiad, Hanes, Daearyddiaeth 
Infanta Ana de Jesus Maria o Bortiwgal 1806-10-23 1857-06-22 Mafra
37
Portiwgal: Geirdarddiad, Hanes, Daearyddiaeth 
Ana de Castro Osório 1872-06-18 1935-03-23 Mangualde
38
Portiwgal: Geirdarddiad, Hanes, Daearyddiaeth 
Maria João Rodrigues 1955-09-25 Lisbon
39
Portiwgal: Geirdarddiad, Hanes, Daearyddiaeth 
Ana Hatherly 1929-05-08 2015-08-05 Porto
40 Rosette Batarda Fernandes 1916-01-10 2005-05-28 Prifysgol Ddinesig Redondo
41
Portiwgal: Geirdarddiad, Hanes, Daearyddiaeth 
Jacob de Castro Sarmento 1692 1762-09-14 Bragança
42
Portiwgal: Geirdarddiad, Hanes, Daearyddiaeth 
Tereza de Arriaga 1915-02-05 2013-08-12 Lisbon
43 Maria Adé lia Diniz 1941 Benfeita
44
Portiwgal: Geirdarddiad, Hanes, Daearyddiaeth 
Adriana Molder 1975-11-18 Lisbon
45
Portiwgal: Geirdarddiad, Hanes, Daearyddiaeth 
Armanda Passos 1944-02-17 2021-10-19 Peso da Régua
46
Portiwgal: Geirdarddiad, Hanes, Daearyddiaeth 
Elvira Fortunato 1964-07-22 Almada
47
Portiwgal: Geirdarddiad, Hanes, Daearyddiaeth 
Emília dos Santos Braga 1867-02-19 1949-12-28 Lisbon
48 Estrela da Liberdade Alves Faria 1910-10-09 1976 Évora
49
Portiwgal: Geirdarddiad, Hanes, Daearyddiaeth 
Helena Roque Gameiro 1895-08-02 1986-04-26 Lapa
50 Ilda Reis 1923-01-01 1998 Lisbon
51 Maria Alexandrina Pires Ferreira Chaves 1892 1979 Faro
52
Portiwgal: Geirdarddiad, Hanes, Daearyddiaeth 
Maria Clár 1930-10-28 Lamego
53
Portiwgal: Geirdarddiad, Hanes, Daearyddiaeth 
Maria Velez 1935-11-01 2017-03-02 Lisbon
54
Portiwgal: Geirdarddiad, Hanes, Daearyddiaeth 
Mily Possoz 1888 1968 Lisbon
55 Ofélia Marques 1902-11-14 1952-12-17 Lisbon
56
Portiwgal: Geirdarddiad, Hanes, Daearyddiaeth 
Sofia Martins de Souza 1870 1960 Porto
57
Portiwgal: Geirdarddiad, Hanes, Daearyddiaeth 
Teresa Lago 1947-01-18 Lisbon
58 Teresa Sousa 1928-12-21 1962-01-06 Lisbon
59
Portiwgal: Geirdarddiad, Hanes, Daearyddiaeth 
Irene Fonseca 1956-07-10 Lisbon
60 Ana Sofia Reboleira 1980 Caldas da Rainha
61
Portiwgal: Geirdarddiad, Hanes, Daearyddiaeth 
Clementina Carneiro de Moura 1898 1992 Lisbon
62 Alice Jorge 1924 2008-02 Lisbon
63 Ana Maria Botelho 1936-01-27 2016-07-13 Lisbon
64 Estela de Sousa e Silva 1921 2000 Lisbon
65
Portiwgal: Geirdarddiad, Hanes, Daearyddiaeth 
Quité ria Jesus Gonçalves Pinto da Silva 1911
1911-05-20
2005
2005-01-02
Montalegre
66 Maria Adelaide de Lima Cruz 1908 1985 Lisbon
67 Túlia Saldanha 1930-08-26 1988-04-30 Peredo
68 Teresa Magalhães 1944-03-11 2023-10-19 Lisbon
69
Portiwgal: Geirdarddiad, Hanes, Daearyddiaeth 
María Roësset Mosquera 1882 1921 Espinho
70
Portiwgal: Geirdarddiad, Hanes, Daearyddiaeth 
Francisco Cambournac 1903-12-26 1994-06-08 Rio de Mouro
71
Portiwgal: Geirdarddiad, Hanes, Daearyddiaeth 
Salvador Sobral 1989-12-28 Lisbon
72
Portiwgal: Geirdarddiad, Hanes, Daearyddiaeth 
Bobi 1992-05-11 2023-10-21 Conqueiros
Diwedd y rhestr a gynhyrchwyd yn otomatig o Wicidata.

Dolenni allanol

Chwiliwch am Portiwgal
yn Wiciadur.

Pedr III o Portiwgal

Cyfeiriadau

Tags:

Portiwgal GeirdarddiadPortiwgal HanesPortiwgal DaearyddiaethPortiwgal GwleidyddiaethPortiwgal Pobl o BortiwgalPortiwgal Dolenni allanolPortiwgal CyfeiriadauPortiwgalAzoresCefnfor IweryddCefnfor yr IweryddDe EwropEwropGweriniaethGwladLisbonMadeiraPenrhyn IberiaPortiwgalegPrifddinasSbaenYnysfor

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

RadioRhestr adar CymruJimmy WalesRhif Llyfr Safonol RhyngwladolDuel On The MississippiDylan EbenezerOblast ChelyabinskLabiaCynnyrch mewnwladol crynswthCasachstanRwsiaO Princezně, Která RáčkovalaBoris Johnson1833AsthmaSant NicolasRhestr o bobl a anwyd yng Ngogledd IwerddonRhestr mudiadau CymruNedwRhyw rhefrolProffwydoliaeth Sibli DdoethFutanariWashington County, OregonWilhelm DiltheyFabiola de Mora y AragónGalileo GalileiWilliam John Gruffydd (Elerydd)LlanenganEugène IonescoGwobr Lenyddol NobelWilliam ShatnerAnna SewardDelweddDiciâuBeaulieu, HampshireRhydychenFfloridaTsieinaFozil MusaevCreampieSpace ManDerbynnydd ar y topMaliHer & Him1965De Affrica6 ChwefrorObo2 IonawrTudur OwenAdams County, WashingtonPwyllgor Trosglwyddo802Kirsten OswaldBrasilRick PerryUnthinkableAnilingusEthan AmpaduEwroTalaith CremonaEdward VII, brenin y Deyrnas UnedigHuey LongAmffetaminCosiNollywood Babylon🡆 More