Roedd Carles Puigdemont Casamajó yn Arlywydd Catalwnia rhwng Ionawr 2016 a Hydref 2017.
Carles Puigdemont Casamajó | |
---|---|
Arlywydd Catalwnia | |
Deiliad | |
Cychwyn y swydd 10 Ionawr 2016 | |
Rhagflaenwyd gan | Artur Mas i Gavarró |
Maer Girona | |
Yn ei swydd 1af Gorff. 2011 – 11 Ionawr 2016 | |
Rhagflaenwyd gan | Anna Pagans i Gruartmoner |
Dilynwyd gan | Isabel Muradàs i Vázquez |
Aelod o Lywodraeth Catalwnia | |
Deiliad | |
Cychwyn y swydd 10th Tachwedd 2006 | |
Etholaeth | Girona |
Llywydd Associació de Municipis per la Independència | |
Deiliad | |
Cychwyn y swydd 17eg Gorff. 2015 | |
Rhagflaenwyd gan | Josep Maria Vila d'Abadal |
Manylion personol | |
Ganwyd | Amer, Catalwnia | 29 Rhagfyr 1962
Cenedligrwydd | Catalwnia Catalan |
Plaid wleidyddol | Convergència Democràtica de Catalunya |
Priod | Marcela Topor |
Plant | Magalí Maria |
Alma mater | Prifysgol Girona |
Galwedigaeth | newyddiadurwr |
Fe'i ganed yn un o wyth o blant yn nhref Amer, (Talaith Girona) ar 29 Rhagfyr 1962, ac mae'n byw yn Girona gyda'i wraig Marcela Topor a dwy ferch: Magalí a Maria.
Rhwng 10 Ionawr 2016 a 28 Hydref 2017 ef oedd Arlywydd Catalwnia, yn dilyn cytundeb rhwng Junts pel Sí ('Ie dros Gatalwnia!') a Candidatura d'Unitat Popular, CUP, dwy blaid sy'n hybu annibyniaeth i'r genedl.
Bu'n aelod o Lywodraeth Catalwnia ac yn gyn-arweinydd y Llywodraeth honno (cyn iddo gael ei benodi'n Arlywydd) ac mae'n gyn-faer Girona.
Yn dilyn camau Sbaen ar 28 Hydref 2017, nid yw'n cael ei gyflogi fel Arlywydd Catalwnia.
Yn 2018, fe gwrddodd a Leanne Wood arweinydd Plaid Cymru â Puigdemont yn Brussels gan ddweud “Roedd yn anrhydedd cwrdd â’r Arlywydd Puigdemont a mynegi undod â phobl Catalwnia yn eu hymgyrch dros annibyniaeth” gan ychwanegu, "Mae’r Arlywydd, ei Weinidogion a llawer o bobl Catalwnia wedi dioddef gormes gwladwriaeth Sbaen."
Ym mis Medi 2021, cafodd Puigdemont ei arestio yn yr Eidal a'i ddal yn Sardinia, pedair blynedd ers ffoi o Sbaen ar ôl i lywodraeth Sbaen gyhoeddi fod y refferendwm annibyniaeth Catalwnia yn "anghyfansoddiadol". Cafodd Puigdemont ei ryddhau o'r carchar ar ôl un noson.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Carles Puigdemont, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.