Gwleidydd Catalan yw Joaquim Torra i Pla (Catalan: (gwrando); ganwyd 28 Rhagfyr 1962), a adnabyddir hefyd fel Quim Torra; yn 2018 fe'i penodwyd i olynu Carles Puigdemont yn Arlywydd Llywodraeth Catalwnia (Generalitat de Catalunya).
Quim Torra | |
---|---|
Ganwyd | Joaquim Torra i Pla 28 Rhagfyr 1962 Blanes |
Man preswyl | Barcelona, Avinguda de la Riera de Cassoles |
Dinasyddiaeth | Catalwnia Catalan |
Alma mater | |
Galwedigaeth | ysgrifennwr, cyfreithiwr, golygydd, gwleidydd, gohebydd gyda'i farn annibynnol, gweithredydd gwleidyddol |
Swydd | Llywydd Òmnium Cultural, Aelod o Senedd Catalwnia, President of Sobirania i Justícia, Arlywyddion Catalwnia, Director of Contemporary issues research center |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | Periodisme? Permetin! La vida i els articles d'Eugeni Xammar, Viatge involuntari a la Catalunya impossible, Muriel Casals i la revolució dels somriures |
Arddull | traethawd |
Prif ddylanwad | Manuel Carrasco Formiguera |
Plaid Wleidyddol | Reagrupament, Undeb Democrataidd Catalwnia |
Tad | Quim Torra Fàbregas |
Priod | Carola Miró |
Gwobr/au | Gwobr Premi Carles Rahola d'assaig |
Gwefan | https://www.presidenttorra.cat/ |
llofnod | |
Fe'i ganed yn Blanes, Torra, Catalwnia a graddiodd ym Mhrifysgol BArcelona cyn cychwyn gweithio ym myd y gyfraith. Bu'n gyfreithiwr i gwmni yswiriant rhyngwladol am ugain mlynedd cyn iddo gychwyn ei gwmni cyhoeddi ei hun. Yn ddiweddarach fe'i penodwyd i nifer o brif swyddi ar Gybngor Dinas Barcelona a Generalitat de Catalunya.
Bu Quim Torra yn flaenllaw yn yr ymgyrch dros annibyniaeth i Galatlwnia, gan gynnwys y mudiad Òmnium Cultural a Chynulliad Cenedlaethol Catalwnia (yr Assemblea Nacional Catalana). Fe'i penodwyd i Lywodraeth Catalwnia yn 2017 fel aelod annibynnol o Junts per Catalunya. Ym Mai 2018 fe'i penodwyd yr 131ydd Arlywydd, yn dilyn gwaharddiadau gan Lys ym Madrid yn erbyn tri ymgeisydd arall. Nid yw'n aelod o unrhyw blaid wleidyddol ac mae'n anghytuno gyda rhai o bolisiau'r Partit Demòcrata Europeu Català (PDeCAT), sef y prif blaid uy glymblaid sydd dros annibyniaeth, sef y Junts per Catalunya (JuntsxCat). Deellir ei fod yn agos iawn at y blaid asgell-chwith, sydd hefyd o blaid annibyniaeth sef y CUP – Plaid Wleidyddol Gatalanaidd neu'r Candidatura d'Unitat Popular (CUP) sydd ddim yn aelod o glymblaid y JuntsxCat.
Mae Quim Torra yn briod i athrawes, Carola Miró ac mae ganddyn nhw dri o blant: dwy ferch a bachgen.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Quim Torra, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.