Trefnu, cydnabod, a dehongli gwybodaeth synhwyraidd er mwyn cynrychioli a deall ein hamgylchedd yw canfyddiad.
Proses ffisiolegol yw canfyddiad yn y bôn, ond mae ganddo oblygiadau pwysig i athroniaeth a seicoleg.
Enghraifft o'r canlynol | core concept, arbenigedd, maes astudiaeth |
---|---|
Math | proses meddyliol, interpretation |
Rhan o | termau seicoleg, awareness, recognition |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Wrth ganfod yr amgylchedd, rydym yn dewis, trefnu, dehongli, ac weithiau'n camlunio'r symbylyddion o'n cwmpas. Trawsnewidir y wybodaeth synhwyraidd yn actifedd nerfgelloedd a drosglwyddir i'r ymennydd i'w brosesu. Felly, nid yw'r byd go iawn o reidrwydd yn unfath â'r byd rydym yn ei ganfod. Awgrymodd Hermann von Helmholtz taw proses bur wybyddol yw canfyddiad sy'n gwneud casgliadau ar sail signalau synhwyraidd annigonol.
Mae'r athronydd yn dadansoddi canfyddiad yn nhermau ei werth epistemolegol fel ffynhonnell am fodolaeth a phriodweddau'r byd o'n cwmpas. Honna ambell athronydd taw gwirionedd llwyr empiraidd yw canfyddiad, a bod profiadau neu ganfodiadau yn eu hanfod yn ddetholiad o realiti. Mae camganfyddiadau, megis rhithwelediadau, yn drysu'r ddamcaniaeth hon, ac mae'r ddadl ar saith rhith yn ceisio dadbrofi'r syniad o realiti canfyddiad. Yn ôl damcaniaethau eraill, mae'r canfod yn ddisgrifiad neu'n hypothesis o'r byd gwrthrychol ac felly perthynas anuniongyrchol sydd rhwng canfyddiad a realiti. Awgrymir bod ein holl ganfyddiadau o bosib yn annibynadwy, er enghraifft o ganlyniad i dueddiadau a chamsyniadau. Ymhlith y damcaniaethau penodol sy'n gosod y cwestiynau hyn yn ganolog iddynt mae ffurfiau ar realaeth uniongyrchol megis y ddamcaniaeth synnwyr cyffredin, y ddamcaniaeth achos, realaeth feirniadol, y ddamcaniaeth synnwyr-data, a ffenomeniaeth.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Canfyddiad, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.