Dinas Barcelona (dyweder Barselona) yw prifddinas cymuned ymreolaethol Catalwnia a thalaith Barcelona yng ngogledd-ddwyrain Sbaen, Saif ar lan Môr y Canoldir, rhyw 120 km o'r ffin a Ffrainc.
Mae wedi'i leoli rhwng aberoedd afonydd Llobregat a Besòs, a'i ffin orllewinol yw mynyddoedd Serra de Collserola sydd a'i gopa uchaf yn 512 metr (1,680 tr) o uchter.
Math | bwrdeistref yng Nghatalwnia, dinas |
---|---|
Prifddinas | Barcelona |
Poblogaeth | 1,660,122 |
Pennaeth llywodraeth | Jaume Collboni Cuadrado |
Cylchfa amser | UTC+01:00, UTC+2 |
Gefeilldref/i | Boston, Cairo, Isfahan, Montpellier, Varna, Dinas Gaza, Dulyn, Monzón, São Paulo, Montréal, Cwlen, St Petersburg, Buenos Aires, Athen, La Habana, Gdańsk, Alger, Perpignan, Rio de Janeiro, Shanghai, Sevilla, Sarajevo, Antwerp, Busan, Tirana, Tel Aviv, Valparaíso, Santo Domingo, Barcellona Pozzo di Gotto, Medellín, Kobe, Montevideo, Nizhniy Novgorod, Istanbul, Perpignan Méditerranée Métropole, Wenzhou, Dubai, Fès, Dinas Ho Chi Minh, Trujillo, Rosario, San Francisco, Monterrey, Kyiv |
Nawddsant | Virgin of Mercy |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Catalaneg, Sbaeneg, Ocsitaneg |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Barcelona metropolitan area, Red de Juderías de España |
Sir | Barcelonès |
Gwlad | Catalwnia Sbaen |
Arwynebedd | 101.3 km² |
Uwch y môr | 9 metr |
Gerllaw | Y Môr Canoldir, Besòs, Afon Llobregat |
Yn ffinio gyda | Cerdanyola del Vallès, Molins de Rei, Montcada i Reixac, El Prat de Llobregat, Sant Feliu de Llobregat, Santa Coloma de Gramenet, Esplugues de Llobregat, l'Hospitalet de Llobregat, Sant Just Desvern, Sant Cugat del Vallès, Sant Adrià de Besòs |
Cyfesurynnau | 41.3825°N 2.1769°E |
Cod post | 08001–08042 |
Corff gweithredol | Cyngor Dinas Barcelona |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | maer Barcelona |
Pennaeth y Llywodraeth | Jaume Collboni Cuadrado |
Esgobaeth | Roman Catholic Archdiocese of Barcelona |
Gyda phoblogaeth o 1,593,075, Barcelona yw'r ail ddinas fwyaf yn Sbaen o ran maint, a'r 11eg o ran maint yn yr Undeb Ewropeaidd (disgwylir fod y ddegfed o ran maint ar ôl Brexit). Mae poblogaeth Ardal Ddinesig Barcelona yn 4.7 miliwn.
Cynhaliwyd nifer o ddigwyddiadau o bwysigrwydd rhyngwladol ym Marcelona, yn cynnwys Arddangosfeydd Rhyngwladol yn 1888 a 1929, y Chwaraeon Olympaidd yn 1992 a Fórum 2004 yn 2004. Mae hefyd yn ganolfan ffasiwn, addysg a masnach.
Mae gan Barcelona ddiwylliant cyfoethog ac amrywiol, a chaiff ei hystyried yn un o brif ganolfannau diwylliant ac yn un o gyrchfanau mwyaf poblogaidd Ewrop i ymwelwyr. Yma y ceir rhai o weithiau pensaernïol gorau'r byd, gan gynnwys gwaith y ddau bensaer Antoni Gaudí a Lluís Domènech i Montaner, a ddynodwyd gan UNESCO yn Safleoedd Treftadaeth y Byd.
Mae gweddillion o ddiwedd y cyfnod Neolithig wedi eu darganod, ond yr hanes cyntaf am Barcelona yw fel sefydliad Iberaidd. Cipiwyd y ddinas gan y cadfridog Carthaginaidd Hamilcar Barca, tad Hannibal. Yn ystod yr Ail Ryfel Pwnig cipiwyd y ddinas gan y Rhufeiniaid a'i henwi yn Julia Augusta Paterna Faventia Barcino yn y flwyddyn 218 C.C.
Yn y 5g daeth yn brifddinas teyrnas y Visigothiaid yn Sbaen, ac yn yr 8g daeth dan reolaeth Islamaidd wedi ei chipio gan Al-Hurr. Ail-gipiwyd y ddinas gan y Cristionogion yn 801, ond parhaodd ymosodiadau Islamaidd, a dinistriwyd llawer o'r ddinas yn 985 gan filwyr Almanzor. Daeth y ddinas yn llewyrchus iawn yn y 13g, ond o'r 15g bu dirywiad. Tua diwedd y 18g dechreuodd diwydiant dyfu yma, a bu deffroad economaidd a diwylliannol yn y 19g.
Yn ystod Rhyfel Cartref Sbaen yr oedd y ddinas ar ochr y Gweriniaethwyr, ond yn y diwedd fe'i cipiwyd gan fyddin Franco yn 1939. Wedi marwolaeth Franco, bu datblygiadau economaidd a diwylliannol pellach yn y ddinas, yn enwedig o ganlyniad i gynnal y Chwaraeon Olympaidd yno yn 1992.
Ceir yr enghraifft cynharaf o'r enw ar ddarn arian, ac fe'i sgwennwyd mewn ysgrifen Iberaidd hynafol fel Barkeno ( ), ac mewn llawysgrifau Groegaidd fel Βαρκινών, Barkinṓn; ac mewn Lladin fel Barcino, Barcilonum a Barcenona.
Mae dau Safle Treftadaeth y Byd ym Marcelona:
Y grwpiau mwyaf o ymfudwyr yn Barcelona | |
Cenedligrwydd | Poblogaeth (2016) |
---|---|
Yr Eidal | 26,676 |
Pacistan | 19,160 |
Gweriniaeth Pobl Tsieina | 18,434 |
Ffrainc | 13,506 |
Moroco | 12,537 |
Bolifia | 9,291 |
Y Philipinau | 8,682 |
Ecwador | 8,109 |
Periw | 7,944 |
Colombia | 7,904 |
Yn 2016 ganwyd 59% o drigolion y ddinas yng Nghatalwnia a 18.5% o weddill y wlad (cyfanswm o 77.5%). Ar ben hyn, daeth 22.5% o boblogaeth y ddinas o'r tu allan i Sbaen - dwbwl yr hyn ydoedd yn 2001 a 4 gwaith cymaint â 1996.
O Ewrop y daw'r rhan fwyaf o ymfudwyr,: yr Eidal (26,676) a Ffrainc (13,506) ac yna gwledydd America Ladin: Bolifia, Ecwador a Colombia. Ym maestrefi gogleddol y ddinas y sefydlodd llawer o'r rhai hyn.
Ceir hefyd cymuned eitha mawr o Bacistan: oddeutu 20,000, gyda'r rhan fwyaf ohonynt yn ddynion.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Barcelona, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.