Hanesydd Iddewig yn ysgrifennu mewn Groeg oedd Josephus, Groeg: Ιώσηπος (Iosepos), (37 – ar ôl 100 OC).
Pan ddaeth yn ddinesydd Rhufeinig, cymerodd yr enw Titus Flavius Josephus.
Josephus | |
---|---|
Ganwyd | יוסף בן מתתיהו 37 Jeriwsalem |
Bu farw | 100, 95 Rhufain |
Dinasyddiaeth | Rhufain hynafol |
Galwedigaeth | ysgrifennwr, hanesydd |
Adnabyddus am | The Jewish War, Antiquities of the Jews, The Life of Flavius Josephus, Against Apion |
Mudiad | Pharisees |
Tad | Matthias |
Plant | Flavius Hyrcanus, Flavius Simonides Agrippa, Flavius Justus |
Roedd Josephus yn fab i offeiriad o'r enw Matthias. Ymladdodd yn erbyn y Rhufeiniaid yn Rhyfel cyntaf yr Iddewon a Rhufain rhwng 66 a 73, ac roedd yn arweinydd yn ardal Galilea. Pan roddwyd caer Yodfat dan warchae gan y Rhufeiniaid yn 67, penderfynodd y garsiwn Iddewig eu lladd eu hunain yn hytrach nag ildio. Fodd bynnag, ildiodd Josephus ac un o'i filwyr i'r Rhufeiniaid, er bod yr union amgylchiadau yn aneglur. Cymerwyd ef yn garcharor, ac ymddengys iddo ennill ffafr yr arweinwyr Rhufeinig, Flavius Vespasian a'i fab Titus. Rhyddhawyd ef yn 69.
Cyhaeddodd i Rufain yn 71 gyda Titus, a gwnaed ef yn ddinesydd Rhufeinig. Rhoddwyd pensiwn iddo hefyd, ac yn Rhufain dan nawdd Vespasian a Titus yr ysgrifennodd ei weithiau hanesyddol. Credir iddo briodi bedair gwaith i gyd; lladdwyd ei wraig gyntaf a'i rieni yn ystod y gwarchae ar Jerusalem. Cofnodir tri mab iddo, Flavius Hyrcanus, Flavius Justus a Simonides Agrippa.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Josephus, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.