Y Bala: Tref a chymuned yng Ngwynedd

Tref fechan a chymuned yn ardal Meirionnydd, Gwynedd, yw'r Bala.

Cyfeirnod OS: SH 92515 36708. Does dim ond un stryd fawr yn y dref. Mae'r dref ar yr A494, rhwng Dolgellau (18 milltir i'r de-orllewin) a Llangollen (22 milltir i'r dwyrain). Cyn ad-drefnu llywodraeth leol roedd hi yn yr hen Sir Feirionnydd. Mae ganddi boblogaeth o 1,999 (2021), 1,974 (2011).

y Bala
Y Bala: Tarddiad yr enw, Hanes, Yr hinsawdd
Mathtref, cymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth1,999, 1,974 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Ardal warchodolParc Cenedlaethol Eryri Edit this on Wikidata
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd241.94 ha Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaLlanuwchllyn Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.911°N 3.596°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000045 Edit this on Wikidata
Cod OSSH925359 Edit this on Wikidata
Cod postLL23 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auMabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)
AS/auLiz Saville Roberts (Plaid Cymru)

Llyn naturiol mwyaf Cymru ydyw Llyn Tegid sydd ar gyrion y dref. Mae Afon Tryweryn yn llifo heibio i'r dwyrain ac yn ymuno ag Afon Dyfrdwy sy'n llifo drwy Lyn Tegid ac yn dod allan ar ochr ddeheuol y Bala.

Cynhaliyd gŵyl gerddoriaeth boblogaidd, "Wa Bala" ar gyrion y dref ym Mis Medi 2017.

Tarddiad yr enw

Gair cyffredin Cymraeg yn golygu adwy neu fwlch oedd "bala" gynt, a ddaeth i olygu'r fan lle bydd afon yn llifo allan o lyn. Yn yr achos hon cyfeiria enw'r dref yn benodol at y fan lle rhed Afon Dyfrdwy o Lyn Tegid. Ymddengys yr elfen "bala" mewn enwau lleoedd eraill ar draws Cymru megis Baladeulyn. Yn unol ag enghreifftiau eraill o enw cyffredin a arferir yn enw lle, cafodd y fannod ei gosod o'i flaen i'w wneud yn benodol.

Ceir dros ddeg lle drwy'r byd sydd wedi eu galw ar ôl y Bala, gan gynnwys: Bala Cynwyd ym Mhennsylvania a Bala, Ontario.

Hanes

Y Bala: Tarddiad yr enw, Hanes, Yr hinsawdd 
Capel Tegid y Bala, tua 1875.

Ar un adeg roedd y Bala yn ganolfan bwysig i'r diwydiant gwlân ond dirwynodd i ben yn y 19g. Yn y sgwâr yng nghanol y dref saif cerflun er cof am Tom Ellis (1859-1899), AS Meirionnydd ar ddiwedd y 19g, a aned yng Nghefnddwysarn nepell o'r Bala. Yno hefyd mae plac yn coffhau'r Parch. Thomas Charles o'r Bala, Methodist blaenllaw ac un o selogion y Gymdeithas Feiblau a symbylwyd gan daith Mary Jones yn droednoeth i'r Bala yr holl ffordd o Llanfihangel-y-Pennant yn 1800. Ym mhen gogleddol y dref gwelir y Green gyda cherrig yr Orsedd o Eisteddfod Genedlaethol 1967. Ger llaw y mae Tomen y Bala, sy'n fwnt a beli, Normanaidd efallai. O'r Bala daeth nifer o'r ymfudwyr a aethant i'r Wladfa ym Mhatagonia yn 1865.

Yr hinsawdd

Hinsawdd Bala 163m, 1971-2000
Mis Ion Chw Maw Ebr Mai Meh Gor Aws Med Hyd Tac Rha Blwyddyn
Tymheredd uchaf (cyfartalog) °C (°F) 6.7
(44.1)
6.8
(44.2)
8.7
(47.7)
11.1
(52.0)
14.6
(58.3)
16.8
(62.2)
19.1
(66.4)
18.8
(65.8)
16.2
(61.2)
12.9
(55.2)
9.4
(48.9)
7.5
(45.5)
12.38
(54.29)
Tymheredd isaf (cyfartalog) °C (°F) 0.9
(33.6)
0.8
(33.4)
2.1
(35.8)
2.8
(37.0)
5.2
(41.4)
8.0
(46.4)
10.2
(50.4)
9.8
(49.6)
8.0
(46.4)
5.6
(42.1)
3.0
(37.4)
1.6
(34.9)
4.83
(40.70)
Source: YR.NO

Cyfrifiad 2011

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Y Bala, Gwynedd (pob oed) (1,974)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Y Bala, Gwynedd) (1,482)
  
78.5%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Y Bala, Gwynedd) (1515)
  
76.7%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Y Bala, Gwynedd) (380)
  
40.6%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Enwogion

Yr Eisteddfod Genedlaethol

Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol yn y Bala ym 1967, 1997 a 2009. Am wybodaeth bellach gweler:

Oriel

Gefeilldref

Mae pentref Bala yn nhalaith Ontario, Canada, yn efeilldref swyddogol i'r Bala.

Cyfeiriadau

Tags:

Y Bala Tarddiad yr enwY Bala HanesY Bala Yr hinsawddY Bala Cyfrifiad 2011Y Bala EnwogionY Bala Yr Eisteddfod GenedlaetholY Bala OrielY Bala GefeilldrefY Bala CyfeiriadauY BalaA494Cymuned (Cymru)DolgellauGwyneddLlangollenMeirionnyddSir Feirionnydd

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

PorthmadogUsenetAfon GlaslynThe Color of MoneyIndonesiaVaniFaith Ringgold14 ChwefrorKatwoman XxxAnton YelchinAfter EarthEisteddfod Genedlaethol CymruEconomi CymruCyfarwyddwr ffilmLleuwen SteffanCiAfon Gwendraeth FawrVin DieselYr wyddor GymraegBrenhinllin ShangTudur OwenIechydCynnwys rhyddWcráinNot the Cosbys XXXPiodenFfuglen llawn cyffroZia MohyeddinVladimir PutinAssociated PressCilgwriHob y Deri Dando (rhaglen)Ail Frwydr Ypres1971CalsugnoMark TaubertTrydanBorn to DanceTsaraeth RwsiaChwarel y RhosyddAlldafliadVolodymyr ZelenskyyEva StrautmannManon Steffan RosLlanw LlŷnDonald Trump10fed ganrifYr ArianninLlanfair PwllgwyngyllPeiriant WaybackMarie AntoinetteVaughan GethingGundermannGwyddoniasYr Ail Ryfel BydCod QRJapanRhydamanTwo For The MoneyBleidd-ddyn🡆 More