Caernarfon: Tref arfordirol yng Ngogledd Cymru

Tref a chymuned yng Ngwynedd, Cymru, yw Caernarfon.

Mae'n enwog yn bennaf oherwydd Castell Caernarfon, sy'n gastell mawr o feini a godwyd gan Edward I o Loegr. Daw enw'r dref o gaer gynharach, sef Segontium, y gaer Rufeinig sydd ar dir uwch ar gyrion y dref. Y gaer hon a roddodd yr enw "Caer Seiont yn Arfon" neu "Caer Saint yn Arfon", a ddaeth yn ddiweddarach yn Gaernarfon. Mae gan y dref boblogaeth o 9,611 gyda 81.6% yn siaradwyr Cymraeg (97.7% yn yr oedran 10-14), yn ôl Cyfrifiad 2001. "Cofi" y gelwir rhywun a aned yn y dre.

Caernarfon
Caernarfon: Hanes, Cysylltiadau cludiant, Sefydliadau
Mathtref Edit this on Wikidata
Poblogaeth9,615 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCaernarfon Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.14°N 4.27°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH485625 Edit this on Wikidata
Cod postLL55 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auSiân Gwenllian (Plaid Cymru)
AS/auHywel Williams (Plaid Cymru)

Mae Caerdydd 198.7 km i ffwrdd o Gaernarfon ac mae Llundain yn 335.9 km. Y ddinas agosaf ydy Bangor sy'n 12.7 km i ffwrdd.

Caernarfon: Hanes, Cysylltiadau cludiant, Sefydliadau
Castell Caernarfon o'r gorllewin
Caernarfon: Hanes, Cysylltiadau cludiant, Sefydliadau
Ffotograff ffotocrôm o tua 1890-1900

Hanes

Mae Caernarfon yn safle hanesyddol sydd wedi tyfu dros y canrifoedd i fod yn un o brif drefi Gwynedd a gogledd-orllewin Cymru. Darganfuwyd olion o waith amddiffynnol cyn-Rufeinig ar safle Twthill, ger y castell presennol. Roedd yn well gan y Rhufeiniaid ddewis safle fymryn i'r de o'r dref i godi eu caer newydd Segontium yn OC 75. O'r safle hwnnw roeddent yn medru rheoli'r mynediad i benrhyn Llŷn a chadw golwg ar Afon Menai ac Eryri. Mae eglwys Llanbeblig, ger y gaer, yn perthyn i ddiwedd y cyfnod Rhufeinig. Yn ôl traddodiad cafodd ei sefydlu gan Peblig, un o feibion Macsen Wledig, a gysylltir ag Elen Luyddog a Chaernarfon yn y chwedl Cymraeg Canol Breuddwyd Macsen Wledig. Yng nghainc gyntaf Pedair Cainc y Mabinogi cysylltir y dref â Branwen ferch Llŷr.

Ychydig a wyddys am hanes y dref yn y canrifoedd ar ôl i'r Rhufeiniaid ymadael. Cododd yr arglwydd Normanaidd Hugh d'Avranches, Iarll Caer, gastell mwnt a beili yng Nghaernarfon tua 1090 ar safle'r castell presennol. Ond fe'i cipiwyd gan y Cymry a bu Caernarfon yn nwylo tywysogion Gwynedd hyd y goresgyniad Seisnig yn 1283. Credir fod gan y tywysogion un o'u llysoedd yno. Ymwelodd Gerallt Gymro â Chaernarfon yn ystod ei daith trwy Gymru yn 1188.

Caernarfon: Hanes, Cysylltiadau cludiant, Sefydliadau 
Y castell o gyfeiriad y dre
Caernarfon: Hanes, Cysylltiadau cludiant, Sefydliadau 
Cwch yn harbwr
Caernarfon: Hanes, Cysylltiadau cludiant, Sefydliadau 
Yr harbwr
Caernarfon: Hanes, Cysylltiadau cludiant, Sefydliadau 
Y castell

Codwyd Castell Caernarfon gan Edward I o Loegr ar ôl iddo feddiannu Gwynedd. Fe'i cynlluniwyd ar batrwm muriau dinas Caergystennin a thyfodd bwrdeistref Seisnig yn ei chysgod. Yn 1986 gosodwyd y castell a'r muriau ar restr Safleoedd Treftadaeth y Byd UNESCO, fel rhan o'r safle Cestyll a Muriau Trefi'r Brenin Edward yng Ngwynedd.

Gwnaethpwyd difrod helaeth i'r castell yn ystod y Gwrthryfel Cymreig (1294-1295) dan arweiniad Madog ap Llywelyn. Ymladdwyd Brwydr Twthil ger y dref ym 1401 rhwng llu Owain Glyndŵr ac amddiffynwyr y dref, ac ymosododd rhyfelwyr Glyn Dŵr ar y dref a'r castell yn 1403 a 1404, ond heb lwyddo i'w cipio.

Ar ddechrau'r 19g roedd Caernarfon yn dref Gymreig fywiog a dyfodd yn gyflym fel porthladd ar gyfer allforio llechi. Codwyd cei newydd ar lan Afon Seiont ac agorwyd Rheilffordd Nantlle i gludo llechi o chwareli Dyffryn Nantlle gan Robert a George Stephenson yn 1827-28. Hefyd yn ystod y 19g, daeth Caernarfon i fod yn un o brif ganolfannau'r byd argraffu a newyddiaduraeth yng Nghymru, ac ar ei fwyaf llewyrchus drwy gyfrwng yr iaith Gymraeg.

Erbyn heddiw mae Caernarfon yn dref farchnad brysur gydag un o'r canrannau uchaf o siaradwyr Cymraeg yn y wlad.

Cysylltiadau cludiant

Mae gwasanaeth bws rheolaidd (bob 10 munud yn ystod y dydd) yn cysylltu'r dref gyda'r Felinheli, Bangor ac ymlaen i Landudno. Mae gwasanaethau rheolaidd hefyd yn cysylltu Caernarfon gyda Porthmadog, Pwllheli a Dyffryn Nantlle sy'n golygu bod tua 4 bws yr awr yn cysylltu Bontnewydd gyda'r dref. Mae gwasaneth bws bod hanner awr yn mynd i Fethel, Llanrug a Llanberis.

Sefydliadau

Y Diwydiant Teledu

Ers sefydlu S4C yn yr 1980au cynnar, mae'r diwydiant teledu wedi dod a gwaith i dref y Cofis. Er bod dylanwad y diwydiant yn y dref wedi dirywio ers yr 1990au cynnar, mae nifer o gwmniau teledu yn parhau i fod â swyddfeydd yn y dref. Mae pencadlysoedd y cwmnïau canlynol yng Nghaernarfon:

Mae gan y cwmnïau hyn hefyd swyddfeydd yn y dref:

Mae'r dref hefyd yn gartref i safle stiwdio cwmni Barcud Derwen lle mae rhaglen Uned 5 (Antena Dime Goch) a rhaglen bêl-droed Sgorio yn cael eu darlledu unwaith yr wythnos. Rhaglenni eraill sy'n cael eu cynhyrchu yn gyson yn y dref yw Y Sioe Gelf (Cwmni Da), CNEX (Griffilms/Cwmni Da) a Sgorio Cymru (Rondo).

Eraill

Ar lan Doc Fictoria saif adeilad ar batrwm hen waarws (ond a godwyd fel adeilad pwrpasol ym 1981) sydd yn bencadlys Gwasanaeth Archifau Gwynedd.

Hynodion

  • Gwrachen gam
Caernarfon: Hanes, Cysylltiadau cludiant, Sefydliadau 
Gwrachen Gam, Twtil, Caernarfon, lloches i hen wrach unwaith, ond yr enw ar lafar o hyd

Mae yna lecyn creigiog ar ben Twtil, Caernarfon sydd yn fan chwarae traddodiadol i’r Cofis. “Grachan gam” i’w ei enw ar lafar heddiw - tybed beth yw tarddiad y fath enw? Crachan? (scab) - posib - y graith ar y graig efallai? Gwrachen? (y pysgodyn, wrasse, loach). Ond na, dyma holi T. Meirion Hughes, bardd ac un o wybodusion tref Caernarfon, a chael mai gwrach sydd yma, yn ôl chwedl beth bynnag, a bod rhywun rhywdro wedi trio’i saethu, gan adael olion y bwled yn y graig.

    Pen Twtil a'r paent eto - uwch hen Gaer,
      Gwrachen Gam a'i hogo;
      Ni theimlaf ing wrth ddringo
    Esgyn i fryn yn y fro.

Ni wyddys pwy oedd y wrach, a pham ceisio ei saethu.

Pobl o Gaernarfon

Caernarfon: Hanes, Cysylltiadau cludiant, Sefydliadau 
Yr olygfa o ogledd-gorllewin, Castell Caernarfon

Clybiau Chwaraeon

Mae C.P.D. Tref Caernarfon yn chwarae yn y Gynghrair Undebol. Mae dau glwb lleol arall yn y dref, sef Caernarfon Wanderers sy'n chwarae yn Nghyngrair Gwynedd a Caernarfon Borough sy'n chwarae yn adran gyntaf Cynghrair Caernarfon a'r Cylch. Mae Tîm Pêl-droed Merched Caernarfon yn chwarae yng Uwchgynghrair Merched Cymru a sefydlwyd yn nhymor 2009/10.

Cartref C.P.D. Tref Caernarfon a'r tîm merched yw'r Ofal. Mae Caernarfon Borough yn chwarae ar Ffordd yr Aber, tra bod Caernarfon Wanderers yn defnyddio Cae Top, cartref Bryncoch Utd ar y gyfres C'mon Midffild!.

Mae Clwb Rygbi Caernarfon yn chwarae yn Adran 4 (Gogledd Cymru) Cynghrair SWALEC, ac mae ail-dîm y clwb yn chwarae yng Nghyngrair Gwynedd.

Cartref y clwb rygbi yw'r Morfa, a'u clwb cymdeithasol oedd 'Clwb y Bont' ar gyfres Tipyn o Stad.

Clybiau Chwaraeon Eraill:

  • Clwb Hwylio Caernarfon
  • Clwb Golff Caernarfon
  • Clwb Nofio Caernarfon

Cyfrifiad 2011

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Caernarfon (pob oed) (9,615)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Caernarfon) (7,879)
  
85.6%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Caernarfon) (8252)
  
85.8%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Caernarfon) (1,686)
  
39.5%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Eisteddfod Genedlaethol

Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaernarfon ym 1886, 1894, 1906, 1921, 1935, 1940, 1943, 1959 a 1979. Am wybodaeth bellach gweler:

Gefeilldref

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

Tags:

Caernarfon HanesCaernarfon Cysylltiadau cludiantCaernarfon SefydliadauCaernarfon HynodionCaernarfon Pobl o GaernarfonCaernarfon Clybiau ChwaraeonCaernarfon Cyfrifiad 2011Caernarfon Eisteddfod GenedlaetholCaernarfon GefeilldrefCaernarfon Gweler hefydCaernarfon CyfeiriadauCaernarfonCastellCastell CaernarfonCofiCymraegCymruCymuned (Cymru)Edward I o LoegrGwyneddSegontium

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

Llyfr Mawr y PlantPidynYnniMelin BapurAfter EarthSefydliad WicimediaRhyw rhefrolMathemategSefydliad ConfuciusTyddewiIndonesegTom Le CancreDanegHello Guru Prema KosameBoddi TrywerynLleuwen SteffanSawdi Arabia1887Gaius MariusEthiopiaMynydd IslwynDurlifURLYr Ail Ryfel BydGwyddoniadurBlogThomas Gwynn JonesThe Salton SeaCydymaith i Gerddoriaeth CymruAbermenaiHydrefHeledd CynwalCorff dynolPessachArdal 51WhatsAppCudyll coch MolwcaiddCerrynt trydanolHannah DanielDinas SalfordPrawf TuringJimmy WalesRhyngslafegSefydliad Wikimedia1616John Jenkins, LlanidloesBrysteAffganistanDyn y Bysus EtoMatthew Baillie1912FfwlbartOrgasmParamount PicturesSystem weithreduRyan DaviesExtremoQueen Mary, Prifysgol LlundainRhestr o bobl a anwyd yng Ngogledd IwerddonHanes TsieinaLuciano Pavarotti1855SwedegLewis MorrisAnna MarekPussy RiotTȟatȟáŋka Íyotake🡆 More