Llanrug: Pentref a chymuned yng Ngwynedd

Pentref gweddol fawr a chymuned yng Ngwynedd, Cymru, yw Llanrug ( ynganiad ).

Saif 4 milltir i'r dwyrain o dref Caernarfon, 7 milltir i'r de o Fangor ar briffordd yr A4086 rhwng Caernarfon a Llanberis, sydd 3 milltir i'r gogledd-orllewin.

Llanrug
Llanrug: Cyfleusterau, Chwaraeon, Cyfrifiad 2011
Mathcymuned, pentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.148°N 4.193°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000086 Edit this on Wikidata
Cod OSSH534634 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auSiân Gwenllian (Plaid Cymru)
AS/auHywel Williams (Plaid Cymru)

Llifa Afon Rhythallt heibio'r pentref, gan newid ei henw i Afon Seiont ar ôl llifo dan Bont Rhythallt. Mae ysgol uwchradd Ysgol Brynrefail yma. Yn fras, saif tua hanner ffordd rhwng Afon Menai a'r Wyddfa. I'r de o'r pentref gwelir ucheldir Cefn Du; i'r de-ddwyrain cwyd yr Wyddfa a'i chriw, ac i'r dwyrain y ddwy, sef Elidir Fach ac Elidir Fawr gyda thomennydd y chwarel llechi.

Llanrug yw'r pentref mwyaf yn ardal Arfon. Mae ganddo'r canran uchaf (81%) o siaradwyr Cymraeg a phoblogaeth o tua 2,500. Enw gwreiddiol y pentref oedd "Llanfihangel-yn-y-Grug" a enwyd ar ôl Eglwys Sant Mihangel sydd tua hanner milltir i'r gorllewin o'r pentref.

Cyfleusterau

Ceir ysgol gynradd o tua 300 disgybl ac ysgol uwchradd Brynrefail sydd â thros 700 o ddisgyblion. Mae dwy siop nwyddau cyffredinol (Spar a Co-Op) a dau dŷ tafarn yn y pentref, a gwestai ac amryw parc gwyliau ar ei gyrion.

Ar y sgwâr ceir swyddfa'r Post yn y Spar ac mae yna siop sglodion, cigydd, delicatessen a barbwr ychydig gamau i lawr Ffordd yr Orsaf. Mae gwasanaeth bws yn rhedeg yn rheolaidd drwy'r pentref i gysylltu â Chaernarfon, Llanberis, Waunfawr, Deiniolen a Bangor.

Chwaraeon

Mae Clwb Pêl-droed Llanrug Unedig yn rhedeg dau dîm oedolion a thimau ieuenctid. Ffurfiwyd y clwb yn 1922. Mae gemau cartref wedi cael eu chwarae ar Gae Eithin Duon ers 1970. Yn ystod yr 80au a'r 1990au fe ffilmiwyd rhai golygfaon o C'mon Midffild.

Cyfrifiad 2011

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Llanrug (pob oed) (2,911)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llanrug) (2,302)
  
82.4%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llanrug) (2353)
  
80.8%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Llanrug) (346)
  
29.8%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Natur a hanes hir

Fe aeth y rhewlif olaf i lawr Dyffryn Peris o gopa'r Wyddfa tuag at y môr ond fe arhosodd tua Phont Rug gan i'r tywydd gynhesu digon. Fel rydych chi'n gadael Cwm-y-Glo am Lanrug rhaid dringo nes cyrraedd Glyntwrog[1]. Ar y daith yna rydych yn gyrru dros y twmpath olaf wnaeth y rhewlif ei wthio o'i flaen. Meddyliwch, rhyw 300 metr o uchder o rewlif yn gwthio'r tir tuag at Lanrug. Yna degau ar ddegau o afonydd o'r toddiant yn rhedeg allan yn chwyrn tua'r môr ac afon Menai.

O gael cymaint o afonydd yn chwyrlio tua'r môr roedd yna gerrig mân yn cael eu hysgubo hefyd o'r rhew. Mewn mannau tawel a phyllau yn yr afonydd roedd y cerrig yn disgyn a gwaddodi. Ymhellach, lle'r oedd yr afonydd hyn yn tasgu o'r rhew roeddent yn gadael tomen anferth o gerrig man llyfn eu hwyneb. Mae yna ardal yn Llanrug o'r enw Bryn Gro. Ardal a oedd ddwy ganrif yn ôl yn cyflenwi gro'n fasnachol. Gro o oes y rhewlif.

Pobl o Lanrug

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

Dolenni allanol

Tags:

Llanrug CyfleusterauLlanrug ChwaraeonLlanrug Cyfrifiad 2011Llanrug Natur a hanes hirLlanrug Pobl o LanrugLlanrug Gweler hefydLlanrug CyfeiriadauLlanrug Dolenni allanolLlanrugA4086BangorCaernarfonCymruCymuned (Cymru)Delwedd:Llanrug.oggGwyneddLlanberisLlanrug.oggWicipedia:Tiwtorial

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

ISBN (identifier)Ed SheeranGwyddoniadurSomalilandThe Witches of Breastwick1724GolffTŷ pârThe TransporterPorth YchainBlog24 AwstThomas JeffersonBlaengroenYishuvIsomerLeighton JamesGwladwriaeth IslamaiddLawrence of Arabia (ffilm)MuhammadCyfarwyddwr ffilmEwropTwo For The MoneyGronyn isatomigCœur fidèleMean MachineEfrog NewyddFfederasiwn Rhyngwladol y Cymdeithasau Pêl-droedMehandi Ban Gai Khoon1684Manchester United F.C.System of a DownMicrosoft WindowsKal-onlineY Coch a'r GwynCorhwyadenSF3A3Twitter1997Pêl-droedCrefyddIs-etholiad Caerfyrddin, 1966Cicio'r barEugenie... The Story of Her Journey Into PerversionHunan leddfuGaynor Morgan ReesYnniHelmut LottiJavier BardemAda LovelacePalesteiniaidMeddalweddYr Ail Ryfel BydDesertmartinDiltiasemIddewiaethOrbital atomigThe Private Life of Sherlock HolmesSweet Sweetback's Baadasssss Song2003Hal DavidDydd Gwener y GroglithComicTrênGoleuniSeidr19776 AwstYour Mommy Kills AnimalsGoogle ChromeHinsawddSamarcand🡆 More