Y Felinheli: Pentref yng Ngwynedd

Pentref a chymuned yng Ngwynedd, Cymru, yw Y Felinheli ( ynganiad ).

Saif ar lan y Fenai rhwng Bangor a Chaernarfon. Mae'r boblogaeth oddeutu 2,000.

y Felinheli
Y Felinheli: Cyfrifiad 2011, Oriel, Cyfeiriadau
Mathpentref, cymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth2,284 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd589.92 ha Edit this on Wikidata
GerllawAfon Menai Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.183°N 4.21°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000104 Edit this on Wikidata
Cod OSSH525675 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auSiân Gwenllian (Plaid Cymru)
AS/auHywel Williams (Plaid Cymru)

Yn ôl cyfrifiad 2001, roedd canran y siaradwyr Cymraeg dros 3 oed yn y Felinheli yn 72%, gyda'r canran fwyaf yn yr oedran 5-9 mlwydd oed, sef 97.8%. Mae cymdeithas Gymraeg gref yma, gyda'r rhan fwyaf o weithgareddau'r pentref yn cael eu cynnal trwy gyfrwng y Gymraeg.

Datblygodd yn wreiddiol fel porthladd yn cludo llechi o chwarel Dinorwig, ac yn sgil hynny, fe fagwyd yr enw "Port Dinorwic", ond nid yw'r enw'n cael ei ddefnyddio bellach mewn unrhyw gylch. Cysylltwyd y chwarel â'r pentref gan reilffordd Padarn.

Y Felinheli: Cyfrifiad 2011, Oriel, Cyfeiriadau
Y cei a'r machlud

Mae'r gymuned cychio a hwylio yn y pentref yn un fawr. Mae gan y pentref angorfeydd, marina ac i ychwanegu at hynny, mae gan y Felinheli busnesau morwrol o bob math; mae'r rhain yn cynnwys busnesau taclu, crewyr hwyliau a buarth cychod. Mae gan y pentref hefyd rywfaint o dai haf. Prysur a bywiog yw'r clwb hwylio hefyd, gyda chystadlaethau dingis yn cael eu cynnal ar brynhawniau Sadwrn a Mercher a nosweithiau Gwener.

Adeiladwyd ffordd osgoi ym 1993/'94, ac yn sgil hynny, mae wedi lleihau'r broblem draffig a oedd y bodoli cyn hynny.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Siân Gwenllian (Plaid Cymru) ac yn Senedd y DU gan Hywel Williams (Plaid Cymru).

Cyfrifiad 2011

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Y Felinheli (pob oed) (2,284)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Y Felinheli) (1,407)
  
64.3%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Y Felinheli) (1509)
  
66.1%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Y Felinheli) (316)
  
31.4%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Oriel

Cyfeiriadau

Dolenni allanol

Tags:

Y Felinheli Cyfrifiad 2011Y Felinheli OrielY Felinheli CyfeiriadauY Felinheli Dolenni allanolY FelinheliAfon MenaiBangorCaernarfonCymruCymuned (Cymru)Delwedd:Y Felinheli.oggGwyneddWicipedia:TiwtorialY Felinheli.ogg

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

Walking TallWiciCerrynt trydanolTwngstenMwstardRichard WagnerMike PenceSwolegPengwinTriasigGwyddoniaeth gymhwysolPleistosenWikipediaJohn Frankland RigbyVAMP7CD14ShïaMetabolaethCREBBPCyfrifiadur personolEnllynSex and The Single GirlMagic!EneidyddiaethRobert CroftFideo ar alwThe Next Three DaysTongaIstanbulJuan Antonio VillacañasRhys MwynJava (iaith rhaglennu)AccraMeddygaethHen SaesnegTutsiCalsugnoBronBlood FestNeroArlene DahlMesonGalileo GalileiLeighton JamesRoy Acuff2005Y Deyrnas UnedigChampions of the EarthPenarlâgPidynTeulu ieithyddolY Cenhedloedd UnedigDeyrnas UnedigGweriniaeth Pobl TsieinaPedro I, ymerawdwr BrasilThomas JeffersonGorilaHuluYishuvNwyLuciano PavarottiTodos Somos NecesariosCascading Style SheetsCalendr GregoriBreaking AwayCodiadXXXY (ffilm)HafanFelony – Ein Moment kann alles verändernMehandi Ban Gai KhoonSymbolBlog🡆 More