Corris: Pentref a chymuned yng Ngwynedd

Pentref a chymuned yn ne Gwynedd yw Corris ( ynganiad ).

Yn 2001 roedd poblogaeth y pentref yn 613 o drigolion. Mae'r gymuned yn cynnwys y pentrefi Aberllefeni, Corris Isaf, Corris Uchaf a Phantperthog, pentrefi a sefydlwyd yn sgil datblyu'r chwareli llechi yn y 19g. Caewyd chwarel Aberllefenni yn 2003. Roedd y pentref ar yr hen ffordd dyrpeg o Ddolgellau i Fachynlleth; mae priffordd yr A487 a gymerodd ei lle yn osgoi canol y pentref.

Corris
Corris: Geirdarddiad, Hanes Corris, Cyfrifiad 2011
Mathpentref, cymuned Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.6536°N 3.8419°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000058 Edit this on Wikidata
Cod OSSH755078 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auMabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)
AS/auLiz Saville Roberts (Plaid Cymru)

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru) ac yn Senedd y DU gan Liz Saville Roberts (Plaid Cymru).

Corris: Geirdarddiad, Hanes Corris, Cyfrifiad 2011
Pentref Corris

Geirdarddiad

Daw'r enw, a gofnodwyd gyntaf yn y 13g, o'r gair Cymraeg corres ('cor/corrach benywaidd'). Yma y mae'n debyg ei fod yn golygu 'un fechan', gan gyferio at yr afon (Afon Corris gynt ond bellach Afon Deri) sy'n llifo i Afon Dulas yn Aber Corris.. Felly er bod nifer o chwareli llechi yn y cyffiniau, nid oes a wnelo'r enw Corris ddim oll â'r gair Saesneg quarries. Yn y gorffennol cynigiwyd rhai esboniadau ffansïol eraill, megis y canlynol gan Thomas Morgan ('Afanwyson', 1850–1939): 'We find the forms Corys and Corus in the Cambrian Register for 1795. Some think the place takes its name from a saint called Corus. It is also said that Cunedda Wedig had a son called Coras. Others think that the river which gives the place its name, was called Corus from its making round excavations in the angles of its banks.'

Mae 'Corris' hefyd yn enw ar afon fechan yn Sir Ddinbych, un o isafonydd Clywedog sydd yn ei thro yn llifo i Afon Clwyd.

Ar un adeg gelwid y pentref yn Abercorris (Abercorys ar rai mapiau cynnar).

Hanes Corris

Saif Corris ar lan orllewinol Afon Dulas, sy'n ffin rhwng Gwynedd a Phowys yma. Mae Afon Deri yn llifo trwy'r pentref ei hun cyn ymuno ag Afon Dulas. Yn ôl pob tebyg yr oedd ffordd Rufeinig Sarn Helen hefyd yn rhedeg trwy'r pentref. Ceir yma sawl tafarn gan gynnwys "Tafarn y Chwarelwr".

Ar un adeg yr oedd nifer o chwareli llechi yma ac agorwyd tramffordd yn 1859 i gludo'r llechi i Fachynlleth ac ymlaen at Afon Dyfi i'w llwytho i gychod o'r cei yn Nerwenlas neu Morben. Ceffylau oedd yn tynnu'r wageni'n wreiddiol ond yn 1878 agorwyd Rheilffordd Corris. Ail-agorwyd rhan o'r hen reilffordd yn y 2010au: o Gorris i Gyffordd Maespoeth.

Cyfrifiad 2011

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Corris (pob oed) (723)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Corris) (367)
  
52.6%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Corris) (339)
  
46.9%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Corris) (106)
  
32.4%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Pobl o Gorris

Oriel

Cyfeiriadau

Tags:

Corris GeirdarddiadCorris Hanes Corris Cyfrifiad 2011Corris Pobl o GorrisCorris OrielCorris CyfeiriadauCorris19gA487Corris UchafCorris.oggCymuned (Cymru)Delwedd:Corris.oggDolgellauGwyneddMachynllethPantperthogWicipedia:Tiwtorial

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

Gronyn isatomigHufen tolchFfrangegMesonThelma Hulbert6 IonawrThe Wicked Darling24 AwstYr IseldiroeddCrogaddurn1680Gwladwriaeth IslamaiddMehandi Ban Gai KhoonEwcaryotParaselsiaethPabellJerry ReedHunan leddfuCoelcerth y GwersyllIeithoedd GermanaiddFrankenstein, or The Modern PrometheusLawrence of Arabia (ffilm)Action PointY Cynghrair ArabaiddMathemategyddShivaGwynfor EvansCoden fustlRhys MwynCodiadMAPRE1Isabel IceSweet Sweetback's Baadasssss SongSolomon and ShebaPaentio2019Bara brithCymraegSkokie, IllinoisGramadeg Lingua Franca NovaCamriCaerloywLead BellyRhyw llawRichard WagnerSex TapeHen SaesnegTevyeCeresThere's No Business Like Show BusinessIsomerTerra Em TransePedro I, ymerawdwr BrasilYnysoedd MarshallGwledydd y bydBen-HurBody HeatAligatorGoogle ChromeIeithoedd Indo-EwropeaiddBarry JohnRhestr Cymry enwogYr ArctigJess DaviesGoleuniSwydd CarlowPOW/MIA Americanaidd yn FietnamCemeg69 (safle rhyw)BukkakeMahatma Gandhi🡆 More