William Henry Preece: Peiriannydd, dyfeisiwr a pheiriannydd sifil

Peiriannydd o fri, arloeswr yn natblygiad telegraff a pheirianneg trydan a ddaeth yn Brif Beiriannydd Swyddfa Bost Prydain (1892) oedd y Cymro William Henry Preece KCB FRS (15 Chwefror 1834 – 6 Tachwedd 1913).

Trwy ei ddiddordeb a'i swydd yn y Swyddfa Bost, bu'n fentor ymarferol pwysig i Guglielmo Marconi. O ganlyniad i hyn, o bosib, bu i Marconi berfformio sawl campwaith hanesyddol yng Nghymru.

William Henry Preece
William Henry Preece: Bywyd cynnar, Marconi a Radio, Blynyddoedd olaf
William Henry Preece; llun allan o Oliver Heaviside: Sage in Solitude
Ganwyd15 Chwefror 1834 Edit this on Wikidata
Caernarfon Edit this on Wikidata
Bu farw6 Tachwedd 1913 Edit this on Wikidata
Penrhos, Gwynedd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon, Cymru Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethpeiriannydd sifil, dyfeisiwr, peiriannydd Edit this on Wikidata
Gwobr/auCymrawd y Gymdeithas Frenhinol, Marchog Cadlywydd Urdd y Baddon, Telford Medal Edit this on Wikidata

Bywyd cynnar

Ganwyd Preece ym Mryn Helen, Bontnewydd, Sir Gaernarfon yn fab hynaf i Richard Matthias Preece a oedd wedi dod i'r Gogledd o'r Bontfaen ym Morgannwg a phriodi merch o Gaernarfon, Jane Hughes. Fe'i haddysgwyd yn Ysgol Coleg y Brenin (Y Strand, Llundain ar y pryd) cyn mynychu Coleg y Brenin, Llundain. Bu hefyd yn astudio wrth draed Michael Faraday yn y Sefydliad Brenhinol yn Llundain. Faraday a daniodd ynddo ddiddordeb oes mewn trydan. Yn 1870 ymunodd a'r Swyddfa Bost - a bu yno am 29 o flynyddoedd. Yn ystod y cyfnod hwn cyfrannodd i nifer o ddyfeisiadau a gwelliannau; gan gynnwys system signal a ychwanegodd yn sylweddol i ddiogelwch y Rheilffordd. Bu'n flaengar ym myd telegraff - a datblygodd ei gyfundrefn ddiwifr ei hun yn 1892. Dibynna hwn ar anwythiad electromagnetig. Er i Preece lwyddo i anfon negeseuon ar draws Môr Hafren, pellter hyd at ryw 3.1 milltir, roedd y drefn yn anhylaw - yn dibynnu ar drosglwyddydd a derbynnydd milltiroedd o hyd. Er hynny, daliodd ati i anfon negeseuon dros gulforoedd eraill megis Afon Menai a'r Solent, o'r tir i oleudy (e.e. Ynysoedd y Moelrhoniaid) a rhwng pyllau glo a'i gilydd. Yn ystod y cyfnod hwn bu Preece yn gyfrifol (gyda George Gabriel Stokes ac eraill) am ddigalonni David Edward Hughes yn ei ymchwil (1879) a fyddai, mae'n debyg, wedi arwain at ddarganfod tonnau radio. Mynnai'r "arbenigwyr" mai anwythiad oedd yr hyn yr oedd Hughes wedi'i ganfod. Mae'n debyg nad oedd Preece yn arbennig o hyblyg a'i syniadau a bu dadlau (diddichell) rhyngddo a sawl cawr yn ei faes gan gynnwys Oliver Lodge ac Oliver Heaviside dros y blynyddoedd.

Yn 1880 dyfarnodd yr Uchel Lys mai telegram oedd y teleffon newydd. Gan mai'r Swyddfa Bost oedd a phob hawl rheoli technoleg y telegram yng ngwledydd Prydain, bu Preece yn rhan o'r broses o gyflwyno teleffon Alexander Graham Bell yma. Yn 1881 manteisiodd y Swyddfa Bost ar y sefyllfa drwy addasu rhai o'r cyfnewidfeydd i ddelio a teleffon. Yn Ne Cymru (Caerdydd, Abertawe a Chasnewydd) y bu'r cyntaf o'r rhain. Yn 1881 etholwyd Preece yn Gymrawd y Gymdeithas Frenhinol (FRS) ac yn 1892 fe'i hapwyntiwyd yn Brif Beiriannydd y Swyddfa Bost. Mae'n debyg y bu'n enwog am ei ddarlithoedd syml ac ymarferol i'r cyhoedd ar y datblygiadau newydd. Cyhoeddodd ddau lyfr a nifer o bapurau ar y teleffon.

Marconi a Radio

William Henry Preece: Bywyd cynnar, Marconi a Radio, Blynyddoedd olaf 
Guglielmo Marconi tua 1902. Darganfyddwr ymarferoldeb radio. Bu William Henry Preece yn allweddol yn ei yrfa.

Rhwng 1885 a 1889 roedd yr Almaenwr Heinrich Hertz wedi gosod sylfaeni damcaniaethol tonfeddi radio - ac wedi gwneud sawl arbrawf i'w arddangos. Ond nid oedd wedi meddwl am ddefnydd ymarferol i'r ffenomen. Yn 1894, yn ddatblygiad o syniadau Herz, gwnaeth Eidalwr o'r enw Guglielmo Giovanni Maria Marconi arsylliadau tyngedfennol. Erbyn 1895 roedd yn argyhoeddedig ei fod wedi darganfod modd newydd (radio yn hytrach nag anwythiad) o ganfod signal o bellter. Anfonodd ei syniad i'r Weinyddiaeth Bost a Thelegraff yn Rhufain. Anwybyddwyd ei lythyr yn llwyr (yn wir ysgrifennwyd nodyn yn cyfeirio at y gwallgofdy lleol ar ei thraws). Sicrhaodd Marconi lythyr cyflwyniad i lysgennad yr Eidal yn Llundain gan gyfaill o ddiplomydd uchel a theithiodd, gyda'i fam, i Loegr. Ym mhorthladd Dover bu gryn ddiddordeb yn cynnwys ei fagiau ac ar unwaith anfonwyd neges i Bencadlys y Llynges. Fe'i gwahoddwyd yno'n syth - lle'i cyflwynwyd i William Henry Preece. Dros y blynyddoedd i ddilyn bu Preece yn gefn ac yn gymorth iddo. Defnyddiodd Preece ei ddoniau cyfathrebu i gyflwyno syniadau Marconi i'r cyhoedd mewn dwy ddarlith dyngedfennol (Neuadd Toynbee, 11 Rhagfyr 1896 a'r Sefydliad Brenhinol, 4 Mehefin 1897). Ar ôl arbrofion ar dir y fyddin ger Gaersallog, ar 13 Mai 1897 danfonodd Marconi signal radio o Drwyn Larnog yn ne Cymru i Ynys Echni, 3.7 milltir i ffwrdd ym Môr Hafren. Yn 1892 roedd Preece wedi defnyddio'r un lleoliad ar gyfer ei arbrofion ef ei hun. Profodd hyn y gallai radio weithio dros ddŵr yn ogystal â thir ac felly fod o ddefnydd i'r Llynges hollbwysig ac i longau eraill. Preece oedd prif gynorthwyydd Marconi, gan sicrhâi iddo gefnogaeth ariannol o'r Swyddfa Bost.

Ym 1901, anfonodd Marconi signalau radio o Poldhu, Cernyw i Newfoundland, Canada. Ychydig wedi hynny adeiladodd Marconi orsaf radio bwerus yn y Waunfawr ger Caernarfon; nepell o gartref William Preece. Tyfodd hwn i fod yn un o orsafoedd cyfathrebu (radio donfedd hir) pwysicaf Ymerodraeth Prydain am nifer o flynyddoedd (1912-1938). Felly, er i ymdrechion Preece ei hun i ddatblygu system ddiwyfr dros bellter fethu, roedd ei gymorth i Marconi'n allweddol yn natblygiad cyfathrebu torfol.

Blynyddoedd olaf

Bu Preece yn Llywydd Sefydliadau’r Peirianwyr Trydanol (1893) a'r Peirianwyr Sifil (1898-99). Yn 1899 ymddeolodd o'r Swyddfa Bost ac fe'i hurddwyd yn Farchog (KCB) yn Rhestr Pen-blwydd y Frenhines Fictoria (3 Mehefin) y flwyddyn honno. Cafodd ei urddo yn Swyddog y Légion d‘Honneur a derbyniodd radd D.Sc. Prifysgol Cymru yn 1911. Symudodd yn ôl i Gaernarfon ar ôl ymddeol, ac yno y bu farw ar 6 Tachwedd 1913.

Cyfeiriadau

Tags:

William Henry Preece Bywyd cynnarWilliam Henry Preece Marconi a RadioWilliam Henry Preece Blynyddoedd olafWilliam Henry Preece CyfeiriadauWilliam Henry Preece15 Chwefror183419136 TachweddGuglielmo MarconiPrydain FawrSwyddfa Bost Gyffredinol

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

Normanton, Pontefract a Castleford (etholaeth seneddol)1200Gwlad PwylY Weithred (ffilm)Gramadeg Lingua Franca NovaLlwybr Llaethog (band)Coordinated Universal TimeSiân WhewayThe Driller KillerDude, Where's My Car?Atomfa ZaporizhzhiaLisa RogersSenedd y Deyrnas UnedigA Little ChaosNwdlYsgol David Hughes, PorthaethwyMasarnen NorwySefydliad WicifryngauGwyddoniaethPays de la LoireAddewid ArallRig VedaTeigrod ar y BrigBusty CopsY SelarZazDriggEn Lektion i KärlekChapel-ar-GeunioùOtero County, Mecsico NewyddCarolinaEsgair y FforddHunllefMeoto ZenzaiRheolaeth awdurdodInvertigoHwyaden gopogTeiffŵnAssociation De MalfaiteursLlyn TsiadS4CMynediad am DdimSiarl III, brenin y Deyrnas UnedigAlfred DöblinPark County, MontanaMustafaMain PageBy the SeaLake County, FloridaRiley ReidGhost ShipBig BoobsSheila CoppsDeal, Caint3 SaisonsGrant County, Gorllewin VirginiaMethiant y galonFfilm bornograffigBritt OdhnerMervyn KingAmerican Dad Xxx480ISO 3166-1🡆 More