Llanaelhaearn: Pentref a chymuned yng Ngwynedd

Pentref, cymuned a phlwyf eglwysig yng Ngwynedd, Cymru, yw Llanaelhaearn( ynganiad ).

Saif ar Benrhyn Llŷn yn ardal Eifionydd.

Llanaelhaearn
Llanaelhaearn: Pentref a chymuned yng Ngwynedd
Mathcymuned, pentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.976°N 4.407°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000066 Edit this on Wikidata
Cod OSSH384448 Edit this on Wikidata
Cod postLL54 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auMabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)
AS/auLiz Saville Roberts (Plaid Cymru)

Saif ar y briffordd A499 rhwng Caernarfon a Pwllheli, lle mae ffordd y B4417 yn fforchio o'r briffordd i gyfeiriad Nefyn. Daeth y pentref yn adnabyddus pan oedd Antur Aelhaearn yn ei anterth. Roedd hwn yn gynllun a anelai at adfywio economi'r pentref ac felly warchod ei ddiwylliant. Cynhelir eisteddfod flynyddol, yn awr yn festri Capel y Babell, sydd wedi ei addasu i fod yn ganolfan gymdeithasol. Mae nifer o enwgion yn gyn-enillwyr yma, yn cynnwys Bryn Terfel.

Mae nifer o hynafiaethau diddorol o gwmpas y pentref. Ar gopa dwyreiniol Yr Eifl uwchben y pentref mae Tre'r Ceiri, bryngaer o Oes yr Haearn a ystyrir yn un o'r bryngaerau mwyaf tarawiadol yng Nghymru. Yn Eglwys Sant Aelhaearn mae dwy garreg ac arysgrifau Lladin arnynt. Y mwyaf diddorol yw carreg sy'n dyddio o tua diwedd y 5g, gyda'r arysgrif ALIORTUS ELMETIACO(S) / HIC IACET ("Aliortus, gŵr o Elmet, sy'n gorwedd yma"). Elmet ("Elfed" mewn Cymraeg Diweddar) yw'r hen deyrnas Frythonig yn ardal Leeds heddiw, felly mae'n ymddangos fod Aliortus wedi marw ymhell o gartref. Efallai ei fod ar bererindod i Ynys Enlli. Mae'r ail garreg yn rhoi enw, Melitus, ond dim manylion pellach.

Llanaelhaearn: Pentref a chymuned yng Ngwynedd
Rhan o Lanaelhaearn gyda'r Eifl yn y cefndir
Llanaelhaearn: Pentref a chymuned yng Ngwynedd
Hen fythynnod yn y pentref

Cyfrifiad 2011

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Llanaelhaearn (pob oed) (1,117)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llanaelhaearn) (816)
  
76.3%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llanaelhaearn) (856)
  
76.6%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Llanaelhaearn) (195)
  
40.5%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau

Llyfryddiaeth

  • Frances Lynch, Gwynedd, A Guide to Ancient and Historic Wales (Llundain: HMSO, 1995)

Tags:

CymruCymuned (Cymru)Delwedd:Llanalhearn.oggEifionyddGwyneddLlanalhearn.oggPenrhyn LlŷnWicipedia:Tiwtorial

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

Gweriniaeth Pobl TsieinaPatrick Fairbairn1800 yng NghymruProtonGwledydd y bydAderyn ysglyfaethusOvsunçuSbriwsenTȟatȟáŋka ÍyotakeCyfandirDatganoli CymruManceinionHindŵaethRhestr o bobl gyda chofnod ar y Bywgraffiadur Cymreig ArleinJohn Jenkins, LlanidloesAled a RegIncwm sylfaenol cyffredinolRhestr AlbanwyrBrwydr GettysburgPessach1839 yng NghymruBirminghamGaius MariusLlŷr ForwenWessexPaddington 2Jac a Wil (deuawd)Y DiliauBethan GwanasDaearegCalifforniaHarry Potter and the Philosopher's Stone (ffilm)Cascading Style SheetsNorwyegE. Wyn JamesIestyn GarlickAlexandria RileyY Rhyfel OerTennis GirlLos AngelesJohn Ceiriog Hughes1973Danses Cosmopolites À TransformationsFfiseg69 (safle rhyw)1909PatagoniaYsgrifennydd Amddiffyn yr Unol DaleithiauLlythrenneddRwmanegSimon BowerJess DaviesCil-y-coedAil Ryfel PwnigTudur OwenEmyr DanielParaselsiaethLlyfr Mawr y PlantSwedegGoogleHenry KissingerY FaticanGeorge CookeCudyll coch MolwcaiddAlldafliadDewi 'Pws' MorrisGNU Free Documentation LicensePlentynOwain Glyn Dŵr🡆 More