Llanfihangel-Y-Traethau: Plwyf eglwysig hanesyddol yng Nghymru

Pentref bychan a phlwyf yn ardal Ardudwy, de Gwynedd, yw Llanfihangel-y-traethau ( ynganiad ) (cyfeiriad grid SH594353).

Mae'r pentref ei hun yn cael ei nodi ar rai mapiau fel "Ynys" yn hytrach na Llanfihangel-y-traethau.

Llanfihangel-y-traethau
Llanfihangel-Y-Traethau: Plwyf eglwysig hanesyddol yng Nghymru
Mathplwyf Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.897477°N 4.090183°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auMabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)
AS/auLiz Saville Roberts (Plaid Cymru)
Crefydd/EnwadAnglicaniaeth Edit this on Wikidata
EsgobaethEsgobaeth Bangor Edit this on Wikidata

Saif y pentref, sy'n gymuned wasgaredig, ar ochr dwyreiniol y bryniau isel i'r gogledd o wastadedd Morfa Harlech, ar lan y Traeth Bach ac aber Afon Dwyryd, tua tair milltir a hanner i'r gogledd o Harlech. Rhed ffordd yr A496 trwy'r pentref ac mae gorsaf aros ar Reilffordd Arfordir Cymru Tŷ Gwyn (Glan-y-wern) tua chwarter milltir i ffwrdd.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru) ac yn Senedd y DU gan Liz Saville Roberts (Plaid Cymru).

Yn yr Oesoedd Canol Diweddar roedd plwyf Llanfihangel-y-traethau yn rhan o gwmwd Ardudwy Uwch Artro ac yn cynnwys Y Lasynys, cartref Ellis Wynne, awdur Gweledigaethau'r Bardd Cwsg, yn yr 17g. Mae'n ymestyn o lan Bae Ceredigion i fyny i ragfryniau'r Rhinogau.

Llanfihangel-Y-Traethau: Plwyf eglwysig hanesyddol yng Nghymru
Eglwys Llanfihangel-y-traethau

Eglwys

Mae Eglwys Llanfihangel-y-traethau yn hen ond mae'r adeilad heddiw yn gymharol newydd. Roedd yn un o eglwysi'r pererinion ar eu ffordd i Ynys Enlli. Yn ôl traddodiad lleol a gofnodir ar garreg (cymharol ddiweddar) yn yr eglwys, codwyd yr eglwys gan Wleder fam Hoedliw yn oes Owain Gwynedd, ond diau fod llan yno cyn hynny.

Claddwyd y gyfrinwraig Mari'r Fantell Wen (1735? - 1789) ym mynwent yr eglwys.

Oriel

Cyfeiriadau

Tags:

ArdudwyDelwedd:Llanfihangel-y-traethau.oggGwyneddLlanfihangel-y-traethau.oggMapiau Arolwg OrdnansPentrefPlwyfWicipedia:Tiwtorial

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

Cân i GymruCodiadGwenffrewiHilma af KlintCymraeg CanolNigerRhyfel ffosyddFlorence Helen WoolwardSystem cyfesurynnau daearyddolAndesLlanllyfniHerodraethNovialCarnolynCymraeg1150Tatariaid Siberia19 ChwefrorCannwyll y llygadGalileo GalileiCeridwenLewis ValentineDydd Gŵyl DewiBarócTsieinaHydref512John StoddartMersiaLladinLucy LiuAnne Frank691FfraincRhyw geneuolRobert GuéïJiráffYr Ymerodres MatildaSantes EilunedSophie MelvilleCynhanesAnilingusDinbych-y-pysgodPolisi Awstralia Wen408Sir GaerfyrddinMacOSSanta Monica, CalifforniaTrychineb AberfanBwncath (band)1785Pooja Kiven AA516SefforaMuscat1378Sefydliad Cytundeb Gogledd yr IweryddNonY Lan OrllewinolVin DieselEurgainFfynnon LlyffantRhys Iorwerth16eg ganrifDydd MawrthL. S. LowryCybiCyfeiriad IPIsraelFélix Houphouët-BoignyAmgueddfa Lofaol Cymru🡆 More