Llandecwyn: Pentref yng Ngwynedd

Plwyf a phentrefan gwasgaredig yn ardal Ardudwy, de Gwynedd, yw Llandecwyn ( ynganiad ) (cyfeiriad grid SH632375).

Yn ôl traddodiad fe'i cysylltir â Sant Tecwyn (fl. 6g?), a sefydlodd llan yno. Mae'n rhan o gymuned Talsarnau

Llandecwyn
Llandecwyn: Pentref yng Ngwynedd
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.9182°N 4.0351°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH631375 Edit this on Wikidata
Cod postLL47 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auMabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)
AS/auLiz Saville Roberts (Plaid Cymru)

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru) ac yn Senedd y DU gan Liz Saville Roberts (Plaid Cymru).

Llandecwyn: Pentref yng Ngwynedd
Eglwys Llandecwyn yn y gaeaf.

Gorwedd y plwyf yng ngogledd-orllewin Ardudwy ar lan ddeheuol Afon Dwyryd. Mae'n ymestyn o'r arfordir i fyny i fryniau gogleddol y Rhinogau. Ceir Llyn Tecwyn Uchaf a Llyn Llennyrch yng ngogledd y plwyf.

Hanes

Yn yr Oesoedd Canol bu'n rhan o gwmwd Ardudwy Uwch Artro. Prin bod Llandecwyn yn "bentref" o gwbl, ond yn hytrach mae'n gymuned o dai a ffermydd gwasgaredig o gwmpas yr eglwys. Adeilad newydd a godwyd yn 1879 yw'r eglwys bresennol, ond mae'n sefyll ar safle egwlys ganoloesol. Erys carreg o tua'r 11g yno, yn coffa'r sant a ddaeth yma, yn ôl traddodiad, yng ngosgordd Cadfan. Ceir Plas Llandecwyn gerllaw.

Brodor o Landecwyn oedd y pregethwr a llenor D. Tecwyn Evans (David Evans). Yma hefyd y ganed J. H. Jones, cyn-olygydd Y Brython.

Ceir gorsaf Llandecwyn ar Reilffordd Arfordir Cymru.

Cyfeiriadau

Tags:

ArdudwyDelwedd:Llandecwyn.oggGwyneddLlanLlandecwyn.oggMapiau Arolwg OrdnansPlwyfSantTalsarnauTecwynWicipedia:Tiwtorial

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

MorocoGirolamo SavonarolaDewi 'Pws' MorrisHarri Potter a Maen yr AthronyddAtlantic City, New JerseyAserbaijanegShowdown in Little TokyoAltrinchamMeddylfryd twfLeighton JamesSisters of AnarchyEmyr DanielElectronSaesnegTudur OwenPubMedWoyzeck (drama)Cwmwl OortGorwelSiambr Gladdu Trellyffaint25 EbrillCathYr AifftCyfathrach Rywiol FronnolTARDISMaligwefanCwrwCudyll coch MolwcaiddAlecsander FawrBig BoobsDaearegRhestr o wledydd a ddaeth yn annibynnol oddi wrth SbaenGweriniaeth Pobl TsieinaArlunyddE. Wyn JamesEthiopiaYsgrifennydd Amddiffyn yr Unol DaleithiauMelyn yr onnenChicagoTorontoHwngariURLAnifailMary SwanzyRhyw llawGoresgyniad Wcráin gan Rwsia yn 2022Llyfr Mawr y PlantCascading Style SheetsFfilm gyffroHafanRhestr AlbanwyrXHamsterWessexAlan Sugar1865 yng NghymruAderyn ysglyfaethus1912EthnogerddolegCaer Bentir y Penrhyn DuOrgasmAderyn mudolDinas SalfordAwstraliaJapan1800 yng Nghymru🡆 More