Sant o Gymro oedd Tecwyn (fl.
6g). Ef yw sefydlwr traoddiadol a nawddsant eglwys Llandecwyn, y plwyf cyfagos i blwyf Llanfihangel y Traethau yn Ardudwy, Gwynedd.
Tecwyn | |
---|---|
Ganwyd | 5 g |
Bu farw | 6 g |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Dydd gŵyl | 14 Medi |
Tad | Ithel Hael |
Dywed traddodiad ei fod yn fab i Ithel Hael (Ithael Hael). Ceir dwy achrestr o blant Ithel. Yn y gyntaf cyfeirir at y seintiau Tanwg, Gredifael, a Fflewyn fel plant iddo. Cysylltir yr rhain â Gwynedd. Mae'r achrestr arall yn ei wneud yn frawd i'r seintiau Fflewyn, Tegai, Trillo, Twrog, Llechid, a Baglan.
Dywedir fod Fflewyn wedi dod drosodd o Lydaw gyda sant Cadfan ac Emyr Llydaw i sefydlu Llandecwyn.
Darganfuwyd hen groes Geltaidd pan dynwyd yr hen eglwys i lawr yn 1879 i adeiladau un newydd yn ei lle. Cyfeirir yr arysgrif Ladin at 'yr offeiriad Tecwyn'. Roedd yna Ffynnon Decwyn gerllaw hefyd a safai Maen Tecwyn mewn cae cyfagos.
Dethlir gwylmabsant Tecwyn ar 14 Medi.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Tecwyn, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.