Llydaw: Gwlad yn Ewrop

Un o'r gwledydd Celtaidd, yng ngweriniaeth Ffrainc, yw Llydaw (Cymraeg Canol: Brytaen neu Brytaen Fechan, Llydaweg: Breizh, Ffrangeg: Bretagne).

Fe'i rhannwyd rhwng dau ranbarth (régions) Ffrengig gan lywodraeth Vichy Ffrainc yn ystod yr Ail Ryfel Byd, sef Bretagne a Rhanbarth Bröydd Liger. Yn y naill mae pedwar o bum département y wlad; yn y llall y mae'r pumed (Liger-Iwerydd), ynghyd â départements sy'n rhan o fröydd eraill.

Llydaw (Breizh, Bretagne, Bertaèyn)
Baner Llydaw
Baner Llydaw

(Baner Llydaw)
Map Llydaw
Map Llydaw
Hysbysrwydd Rhanbarth Llydaw Liger-Iwerydd
Prifddinas: Roazhon (Rennes) Naoned (Nantes)
Poblogaeth (2003):

Dwysedd:

2 972 700 o drigolion

107 trigolyn/km²

1 134 266 o drigolion

166 trigolyn/km²

Ardal: 27 208 km² 6 815 km²
Llywydd y Cyngor: Pierrick Massiot Patrick Mareschal
Départements: Arfordir Armor (22)
Îl-a-Gwilun (35)
Môr Bychan (56)
Penn-ar-Bed (29)
Liger-Iwerydd (44)

Yn 2006, amcangyfrifwyd fod poblogaeth Llydaw tua 4.3 miliwn. O'r rhain, roedd 72% yn byw yn region Bretagne, a 28% yn Pays-de-la-Loire.

Hanes

Llydaw: Hanes, Ieithoedd, Rhaniadau gweinyddol 
Map Llydaw

Fe ymfudodd llawer o hynafiaid y Llydawyr o Ynys Prydain ar ôl ymadawiad y Rhufeiniaid yn 410 OC. Yn y 9g, llwyddodd Nevenoe (Nominoë yn Ffrangeg) i gyfuno Llydaw oll yn un deyrnas.

Yn Rhyfel Olyniaeth Llydaw, rhwng 1341 a 1364, fe wrthdarodd cynghreiriaid Lloegr yn erbyn cynghreiriaid Ffrainc. Daeth annibyniaeth Llydaw i ben drwy Ddeddf Uno yn 1532, ond roedd ganddi rywfaint o ymreolaeth o fewn Ffrainc tan 1789 o fewn Senedd Llydaw oedd wedi cwrdd ers yr Oesodd Canol a Dugaeth Llydaw ac yna wedi ymgorfforiad brenhinol Llydaw fewn i Ffrainc yn dilyn priodas a marwolaeth Anna o Lydaw. Gwrthryfel yn erbyn y Chwyldro Ffrengig oedd y Chouanted, a gefnogwyd gan y Saeson.

Datblygodd y mudiad cenedlaethol Llydewig modern tua diwedd y 19g a dechrau'r 20g. Pan orchfygwyd Ffrainc gan Yr Almaen yn yr Ail Ryfel Byd, bu hollt yn y mudiad cenedlaethol. Roedd rhai cenedlaetholwyr Llydewig yn amlwg yn y gwrthwynebiad arfog i'r Almaenwyr, tra dewisodd eraill megis Roparz Hemon gydweithio gyda'r Almaenwyr yn y gobaith o ennill annibyniaeth i Lydaw. Yn Rhagfyr 1943 llofruddiwyd yr Abbé Perrot, cenedlaetholwr Llydewig amlwg, gan aelod o'r Blaid Gomiwnyddol, gan haeru ei fod yn cydweithio a'r Almaenwyr. Bu raid i eraill, megis Roparz Hemon, ffoi i Gymru ac Iwerddon ar ddiwedd y rhyfel, a bu adwaith cryf ar ran llywodraeth Ffrainc yn erbyn yr iaith a'r diwylliant Llydewig.

Pan rannwyd Ffrainc yn ranbarthau gweinyddol, nid oedd rhanbarth Bretagne ond yn cynnwys pedwar allan o'r pum departement oedd yn draddodiadol yn rhan o Lydaw. Ni chynhwyswyd y rhan a neilltuwyd i Loire-Atlantique sy'n cynnwys Nantes, un o ddwy brifddinas draddodiadol Llydaw ac mae hyn yn destyn llosg gan Lydawyr. Bu dirywiad mawr yn sefyllfa'r iaith Lydaweg ers 1945; mewn llawer o ardaloedd lle siaredid yr iaith, magwyd plant a aned ers y cyfnod yma yn uniaith Ffrangeg. Ers y 1970au bu cynnydd mewn diddordeb yn iaith a diwylliant Llydaw, yn arbennig mewn cerddoriaeth, lle daeth Alan Stivell yn adnabyddus. Mae mudiad Diwan wedi sefydlu ysgolion Llydaweg i geisio achub yr iaith.

Yn 1982, fel rhan o ad-drefnu gweinyddiaeth fewnol Ffrainc, sefydlwyd cynghorau rhanbarthol ar draws y wladwriaeth. Roedd hyn yn cynnwys sefydlu Cyngor Rhanbarthol Llydaw. Nid yw'r Cyngor yn cynnwys Bro-Naoned ac mae iddi gyllideb tua 10% hynny sydd gan Senedd Cymru.

Ar 16 Mawrth 1978, drylliwyd y llong Amoco Cadiz gerllaw porthladd bychan Portsall yn Ploudalmézeau. Collwyd rhan helaeth o'i llwyth o olew i'r môr, gan greu difrod mawr ar draethau gogleddol Llydaw.

Ieithoedd

Ers yr Oesoedd Canol, mae gwahanaeth eglur rhwng Llydaw Isel (yn yr Orllewin: Breizh-Izel neu Goueled-Breizh; Basse-Bretagne) a Llydaw Uchel (yn y Dwyrain: Breizh-Uhel neu Gorre-Breizh; Haute-Bretagne neu Pays Gallo). Mae'r mwyafrif o siaradwyr Llydaweg yn Llydaw Isel, lle mae trefi Kemper (Quimper), Brest, an Oriant (Lorient), a Gwened (Vannes). Yn Llydaw Uchel, fodd bynnag, roedd y werin yn siarad Gallo, ac yma y mae'r ddwy ddinas fawr (Naoned a Roazhon) a llawer o drefi eraill, er enghraifft Sant Maloù (Saint-Malo), Sant Nazer (Saint-Nazaire) a Sant Brïeg (Saint-Brieuc). Mae'r "ffin" ddiwyllianol hon yn ymestyn o Sant Brïeg i dre Gwened.

Rhaniadau gweinyddol

Esgobaethau

Ceir naw "esgobaeth" neu ranbarth hanesyddol yn Llydaw. Dyma'r naw esgobaeth a gynrychiolir gan y llinellau du a gwyn ar faner Llydaw:

Llydaw: Hanes, Ieithoedd, Rhaniadau gweinyddol 
Naw hen esgobaeth Llydaw
  1. Bro Gerne
  2. Bro Ddol
  3. Bro Leon
  4. Bro Naoned
  5. Bro Roazhon
  6. Bro Sant Brïeg
  7. Bro Sant Maloù
  8. Bro Dreger
  9. Bro Wened

Bröydd Traddodiadol

Rhennir Llydaw yn naw "Bro" traddodiadol sy'n dilyn ffiniau'r esgobaethau:

  1. Bro-Gerne
  2. Bro-Zol
  3. Bro-Leon
  4. Bro-Naoned
  5. Bro-Roazhon
  6. Bro-Sant-Brieg
  7. Bro Sant-Maloù
  8. Bro-Dreger
  9. Bro-Wened

Cymunedau

O fewn pob department ceir cymuned: kumunioù (Llydaweg) a communes (Ffrangeg) i "gymuned".

"Gwell marw na ’maeddu"

    Au cours d’une chevauchée, le Roi Breton Conan Meriadec apercu dans les roseaux d’une ruisseau aux abords fangeux une forme blanche qui allait et venait.

Wrth i'r Brenin Conan farchogaeth heibio afon fechan un diwrnod cafodd sylw Conan Meriadec, Brenin Llydaw, ei dynnu at anifail bach lliw eira yn yr hesg yn mynd yn ôl a blaen wrth geisio croesi’r afon. Daliodd Conan ei geffyl yn ôl i edrych, ac fe welodd y creadur yn ceisio croesi ar frigyn rhy wan i’w gynnal - ac ymddangosai’n llawn ofn y byddai’n disgyn i’r llaid. Cododd y creadur ei lygaid fel petai’n dyheu am gymorth. “Paham y mae cymaint o ofn ar y creadur” meddai Conan wrth ei gydymaith. “Fy mrenin” meddai, “ermin yw hwn. Ni chafodd ei frifo - mae arno ofn baeddu ei ffwr gwyn difrycheulyd yn y baw wrth groesi’r afonig”. “O Ryfeddod o Burdeb” meddai Meriadec, “mae anrhydedd yn galw arnaf i’w achub a’i amddiffyn”.

Fel petai’r carlwm wedi deall y sgwrs rhwng y ddau ddyn ac wedi gwerthfawrogi daioni Conan, rhedodd ar hyd y gangen yr estynnodd y brenin ato, a fe guddiodd ym mhlygiadau ei fantell. Dan deimlad a chan fwytho’r creadur bach dywedodd Conan “Fel hyn mae hi am fod, well gen ti farw na chael dy ddifwyno” "Kentoc’h mervel eget bezan saotret. O hyn ymlaen dyma fydd arwyddair y Llydäwyr, a thithau ermin fach fydd yr ymgnawdoliad byw ohono".

Gweler hefyd

Dolen allanol

Chwiliwch am Llydaw
yn Wiciadur.

Tags:

Llydaw HanesLlydaw IeithoeddLlydaw Rhaniadau gweinyddolLlydaw Gwell marw na ’maedduLlydaw Gweler hefydLlydaw Dolen allanolLlydawAil Ryfel BydBretagneCeltiaidCymraeg CanolDépartementFfraincFfrangegLigerLlydawegLoire-AtlantiqueVichy

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

Y Deyrnas UnedigAshland, OregonAntonín DvořákAligatorBatmanAmgylcheddaethSgerbwd dynol9881922RwsiaSant NicolasCyrch BarbarossaRhyw geneuolGwinDerbynnydd ar y topAngela 2Gwam29 MawrthPaffioGNAT1CedorHentai KamenRwmanegISO 3166-1Yr Almaen35 DiwrnodPlus Beau Que Moi, Tu MeursFfraincBorder CountryMET-ArtHugo ChávezY rhyngrwydJess DaviesLaserWar of the Worlds (ffilm 2005)Wolves of The NightDove Vai Tutta Nuda?Tîm Pêl-droed Cenedlaethol yr AlmaenPencampwriaeth Pêl-droed EwropRhestr dyddiau'r flwyddynY we fyd-eangCristiano RonaldoCyfathrach Rywiol FronnolParasomniaAneurin BevanChristopher ColumbusHanna Katan28 MehefinRhestr mudiadau CymruSian PhillipsDeallusrwydd artiffisialMelatoninEidalegContactFfilmRob BeckettTudur Dylan JonesSafleoedd rhywTarzan and The AmazonsLlyfr Glas NeboWcráinPidynMelangell🡆 More