Egni (ar ffurf trydan) wedi'i gynhyrchu o ddŵr ydy egni hydro neu egni dŵr neu hydroelectrig ac mae sawl math ar gael heddiw.
Daw o ganlyniad i ddŵr yn symud mewn gwahanol ffyrdd, er enghraifft, dŵr yn troi olwyn y felin. Ymhlith y dulliau mwyaf poblogaidd o greu trydan, y mae hydroelectrig megis 'mynydd electrig', Llanberis lle mae dŵr y llyn yn llifo i lawr pibellau drwy rym disgyrchiant ac yn troi tyrbeinau. Cynhyrchir 1728 MegaWatt (MW) o drydan yma drwy droi chwe generadur anferthol.
Ceir dulliau eraill o symud egni o un lle i'r llall drwy egni hydro ee
Ceir hefyd ffermydd gwynt yn y môr, ffermydd megis fferm wynt North Hoyle gerllaw Prestatyn, ond nid oes a wnelo'r rhain ddim oll ag egni hydro. Ynni gwynt a gynhyrchir o felinau gwynt ar y môr yw'r rhain.
Yr egni hydro cyntaf i'w gael ei gynhyrchu yng ngwledydd Prydain oedd yng Nghwm Dyli ger Beddgelert, ar 13 Awst 1906 gyda'r dŵr yn llifo i lawr y mynydd o Lyn Llydaw.
Ym Mehefin 2015 rhoddwyd caniatâd i brosiect enfawr i harneisio ynni carbon isel ym Mae Abertawe ac a fydd y mwyaf o'i fath drwy'r byd ar ôl ei gwbwlhau. Saif Bae Abertawe o fewn aber afon Hafren ac amrediad llanw'r aber yw'r ail fwyaf yn y byd - gyda'r gwahaniaeth rhwng trai a llanw cymaint â 10.5 metr ar ei uchaf. Lleolir y lagŵn, a'i forglawdd, i'r de o Ddoc y Frenhines - rhwng Afon Tawe a ac Afon Nedd. Disgwylir y bydd y prosiect yn cynhyrchu 250MW o drydan - digon i gyflenwi 155,000 o gartrefi, dros gyfnod o 120 o flynyddoedd.
Saif Argae'r Tri Cheunant (sy'n creu 22,500 MW o drydan) yn Tsieina yn 1994.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Egni hydro, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.