Tref a chymuned ar arfordir gogleddol Sir Ddinbych, Cymru, yw Prestatyn.
Cyn ail-drefnu llywodraeth leol ym 1974, roedd hi'n rhan o Sir y Fflint. Mae gan y dref orsaf ar Reilffordd Arfordir Gogledd Cymru. Mae Llwybr y Gogledd yn cychwyn/gorffen yn y dref.
Math | tref, cyrchfan lan môr, cymuned |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Ddinbych |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.331°N 3.405°W |
Cod SYG | W04000171 |
Cod OS | SJ065825 |
Cod post | LL19 |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Gareth Davies (Ceidwadwyr) |
AS/au | James Davies (Ceidwadwyr) |
Lleolir Prestatyn tua 4 milltir i'r dwyrain o'r Rhyl wrth droed y cyntaf o Fryniau Clwyd. Mae'r pentrefi cyfagos yn cynnwys Talacre a'r Gronant i'r dwyrain ac Allt Melyd a Diserth i'r de. Mae Caerdydd 206.3 km i ffwrdd o Prestatyn ac mae Llundain yn 301.7 km. Y ddinas agosaf ydy Lerpwl sy'n 32.2 km i ffwrdd.
Mae Prestatyn yn dref glan môr poblogaidd gyda thraeth braf sy'n estyniad o draeth enwog Y Rhyl. Gorwedd canol y dref fechan tua hanner milltir i mewn o'r traeth. Erbyn heddiw mae nifer o stadau tai newydd yno ac mae canran uchel o'r boblogaeth yn bobl wedi ymddeol.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Gareth Davies (Ceidwadwyr) ac yn Senedd y DU gan James Davies (Ceidwadwyr).
Tarddiad Hen Saesneg sydd i'r enw Prestatyn a'i ystyr yw 'fferm yr offeiriaid'.
Ceir olion "ffatri" bwyeill carreg o Oes Newydd y Cerrig ar lethrau gorllewinol Cwm Graiglwyd, i'r dwyrain o gopa'r Penmaen-mawr. Ceir tystiolaeth fod bwyeill gwenithfaen o'r Graiglwyd yn cael eu allforio ar raddfa eang 5,000 o flynyddoedd yn ôl; mae enghreifftiau wedi'u darganfod mor bell i ffwrdd ag arfordir de Lloegr. Credir eu bod yn cael eu cludo i safle ger Prestatyn i gael eu gweithio cyn eu hallforio.
Bu'r Rhufeiniaid yn weithgar yn ardal Prestatyn. Roedd ganddynt wersyll yno ar gyfer mwyncloddio am blwm. Gellir gweld rhai gwrthrychau o'r cyfnod Rhufeinig yn y llyfrgell leol. Roedd Clawdd Offa yn cychwyn ger safle Prestatyn, ond er bod Llwybr Clawdd Offa yn cychywn/gorffen yno nid oes llawer o'r clawdd ei hun i'w weld.
Bu'r llecyn ym meddiant Mersia am gyfnod yn yr Oesoedd Canol Cynnar, ac mae'r enw Prestatyn ("Tref yr Offeiriad") yn dyddio o'r dyddiau hynny. Yn yr Oesoedd Canol rhoddodd ei enw i gwmwd Prestatyn, rhan o gantref Tegeingl. Codwyd Castell Prestatyn gan un o arglwyddi Normanaidd y Mers yn y 12g ond cafodd ei gipio a'i ddinistrio gan Owain Gwynedd.
Ond arosodd Prestatyn yn bentref bychan dinod tan ganol y 19g a datblygiad twristiaeth yn y rhan yma o ogledd Cymru gyda dyfodiad y rheilffordd.
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:
Dinas
Llanelwy
Trefi
Corwen · Dinbych · Llangollen · Prestatyn · Rhuddlan · Rhuthun · Y Rhyl
Pentrefi
Aberchwiler · Betws Gwerful Goch · Bodelwyddan · Bodfari · Bontuchel · Bryneglwys · Bryn Saith Marchog · Carrog · Cefn Meiriadog · Clocaenog · Cwm · Cyffylliog · Cynwyd · Derwen · Diserth · Y Ddwyryd · Efenechtyd · Eryrys · Four Crosses · Gallt Melyd · Gellifor · Glyndyfrdwy · Graeanrhyd · Graigfechan · Gwyddelwern · Henllan · Loggerheads · Llanarmon-yn-Iâl · Llanbedr Dyffryn Clwyd · Llandegla · Llandrillo · Llandyrnog · Llandysilio-yn-Iâl · Llanelidan · Llanfair Dyffryn Clwyd · Llanferres · Llanfwrog · Llangwyfan · Llangynhafal · Llanrhaeadr-yng-Nghinmeirch · Llanynys · Maeshafn · Melin y Wig · Nantglyn · Pandy'r Capel · Pentrecelyn · Pentre Dŵr · Prion · Rhewl (1) · Rhewl (2) · Rhuallt · Saron · Sodom · Tafarn-y-Gelyn · Trefnant · Tremeirchion
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Prestatyn, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.