Mae 'r ieithoedd Goedelaidd, a elwir weithiau yr ieithoedd Gaelaidd, yn grŵp o ieithoedd sy'n cynnwys Gwyddeleg (Gaeilge), Gaeleg yr Alban neu Gaeleg (Gàidhlig) a Manaweg (Gaelg).
Rhennir yr ieithoedd Celtaidd sy'n cael eu siarad heddiw yn ieithoedd Goedelaidd ac ieithoedd Brythonaidd, sy'n cynnwys Cymraeg, Cernyweg a Llydaweg.
Cyfeirir at yr iaith gysefin y datblygodd yr ieithoedd Goedelaidd ohoni fel Celteg Q neu Goedeleg ac felly gelwir yr ieithoedd Goedelaidd yn 'ieithoedd Celteg Q' weithiau hefyd, tra gelwir yr iaith gysefin y tyfodd yr ieithoedd Brythonig ohoni yn Gelteg P (Brythoneg: iaith y Brydain Geltaidd ac eithrio gogledd yr Alban, tarddiad yr ieithoedd Brythonaidd). Cadwodd yr ieithoedd Q y sain Celteg *kʷ, a daeth yn [k]) yn ddiweddarach. Yn yr ieithoedd Brythonaidd trôdd y sain *kʷ yn [p]. Ymhlith hen ieithoedd Celtaidd y cyfandir, ceir y [p] mewn Galeg tra'r oedd Celtibereg yn cadw'r *kʷ.
Celteg | Galeg | Cymraeg | Llydaweg | Gwyddeleg | Gaeleg yr Alban | Manaweg |
*kʷennos | pennos | pen | penn | ceann | ceann | kione |
*kʷetwar- | petuarios | pedwar | pevar | ceathair | ceithir | kiare |
*kʷenkʷe | pinpetos | pump | pemp | cúig | còig | queig |
*kʷeis | pis | pwy | piv | cé (older cia) | cò/cia | quoi |
Credir fod yr ieithoedd Goedelaidd wedi datblygu fel a ganlyn:
Hyd y gwyddys, dim ond yn Iwerddon roedd Goedeleg, tardd-iaith yr ieithoedd Goedelaidd, yn cael ei siarad hyd nes i'r Scotti ymfudo o Iwerddon i orllewin yr Alban rywbryd rhwng y 3g a'r 6g OC.
v · t · e Ieithoedd Celtaidd/Celteg | ||||||||||||||||||||||||||
| ||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Gwelwch hefyd: Ieithyddiaeth · Y Celtiaid · Gwledydd Celtaidd |
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Ieithoedd Goedelaidd, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.