Mae Celyn Jones (ganwyd 4 Mehefin, 1979) yn actor sydd wedi ymddangos ar y llwyfan, teledu ac mewn ffilmiau.
Ei enw iawn yw Barry Jones a magwyd ef yng Nghaergybi lle y mynychodd Ysgol Parch. Thomas Ellis ac Ysgol Uwchradd Caergybi. Bu'n fyfyriwr yn Adran Celfyddydau Perfformio Coleg Menai cyn mynd i astudio yn Ysgol Ddrama Rhydychen.
Celyn Jones | |
---|---|
Ganwyd | 4 Mehefin 1979 Ynys Môn |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | actor, sgriptiwr |
Gwlad chwaraeon | Cymru |
Yn 2003 a 2004, ymddangosodd yng nghyfres deledu'r BBC i blant, Grange Hill, yn chwarae rhan athro Saesneg a Hanes o'r enw Mr Steve Green, ac yn fwy diweddar, chwaraeodd ran Snickers yn y ffilm Lassie.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Celyn Jones, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.