Hen iaith Gelteg P a siaradwyd ym Mhrydain oedd Brythoneg (a elwir hefyd yn Frythoneg gynnar neu Frythoneg gyffredin).
Roedd hi'n iaith a siaradwyd gan y bobl o'r enw'r Brythoniaid.
Brythoneg | ||
---|---|---|
Siaredir yn | Prydain yn ystod yr Oes Haearn, de o Foryd Forth | |
Difodiant iaith | Datblygodd i Hen Gymraeg, Cymbrieg, Cernyweg a Llydaweg erbyn 600 Cyfnod Cyffredin | |
Teulu ieithyddol | Indo-Ewropeaidd
| |
Codau ieithoedd | ||
ISO 639-1 | Dim | |
ISO 639-2 | cel | |
ISO 639-3 | Dim | |
Wylfa Ieithoedd | – |
Math o Gelteg Ynysig ydyw Brythoneg, a darddodd gyda Chelteg cynnar, proto-iaith (h.y. tarddiad) damcaniaethol a ddechreuodd ddargyfeirio i mewn i dafodieithoedd neu ieithoedd gwahanol yn ystod hanner cyntaf y mileniwm cyntaf. Erbyn y 6g o'r Cyfnod Cyffredin, rhannodd Brythoneg i mewn i bedair iaith wahanol: Cymraeg, Llydaweg, Cernyweg, a Chymbrieg. Gelwir yr ieithoedd hyn yn ieithoedd Brythonaidd gyda'i gilydd. Mae tipyn o dystiolaeth i ddweud efallai roedd gan Bicteg gysylltiadau gyda Brythoneg a gallai efallai hefyd fod yn bumed gangen.
Mae tystiolaeth o'r Gymraeg yn dangos dylanwad o'r Lladin ar Frythoneg yn ystod cyfnod y Rhufeiniaid, yn enwedig mewn termau sy'n gysylltiedig â'r eglwys Gristnogol a Christnogaeth, sydd bron i gyd yn ddeilliadau Lladin. Disodlwyd y Frythoneg yn yr Alban a'r de o Foryd Forth gan Aeleg yr Alban a'r Saesneg (a ddatblygodd fan hyn i mewn i Sgoteg), ond goroesodd hi hyd at y Canol Oesoedd yn Ne'r Alban a Cumbria — gweler Cymbrieg. Disodlodd y Frythoneg ar raddfa weddol gyson gan y Saesneg ledled Lloegr; yn y gogledd, diflannodd y Gymbrieg erbyn y 13eg canrif ac, yn y de, yr oedd Cernyweg yn iaith farw erbyn y 19eg canrif, ond bu ceisiadau i'w hadfywio. Model hanesyddol O'Rahilly yn awgrymu efallai'r oedd iaith Frythonaidd yn Iwerddon cyn i'r ieithoedd Goidelig ymddangos, ond nid ydyw'r farn hon yn boblogaidd ymhlith ymchwilwyr eraill.
v · t · e Ieithoedd Celtaidd/Celteg | ||||||||||||||||||||||||||
| ||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Gwelwch hefyd: Ieithyddiaeth · Y Celtiaid · Gwledydd Celtaidd |
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Brythoneg, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.