Iaith Germanaidd a siaredir yn ne'r Alban yw'r Sgoteg neu Lallans.
Mae Sgoteg yn perthyn i'r Saesneg, ac fe'i hystyrir yn dafodiaith Saesneg gan rai, er bod Llywodraeth yr Alban a Siarter Ieithoedd Lleiafrifol Ewrop yn ei chyfrif yn iaith leiafrifol draddodiadol. Mae'n dal i gael ei siarad yn nwyrain a de'r Alban.
Enghraifft o'r canlynol | iaith, iaith naturiol, iaith fyw |
---|---|
Math | Anglic |
Yn cynnwys | Central Scots, Southern Scots, Sgoteg Wlster, Northern Scots, Insular Scots, Cromarty dialect, Doric, Glasgow patter |
Enw brodorol | Scots leid |
Nifer y siaradwyr | |
cod ISO 639-2 | sco |
cod ISO 639-3 | sco |
Rhanbarth | Yr Alban, Gogledd Iwerddon, Gweriniaeth Iwerddon |
System ysgrifennu | yr wyddor Ladin |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Ceir enghraifft gyfoes o'r iaith Sgoteg yn y gân brotest o'r 1960au gan Hamish Henderson, Freedom Come-All-Ye. Wrth ddarllen geiriau'r gân gellir gweld y tebygrwydd a'r gwahaniaeth rhwng Saesneg. Ymysg lladmeiryddion cyfoes yr iaith mae'r bardd ifanc, Len Pennie.
Un gwahaniaeth rhwng Saesneg a Sgoteg yw i'r iaith Sgoteg beidio cael ei heffeithio gan y 'Great Vowel Shift' a ddigwyddodd i'r Saesneg rhwng tua 1350 a 1600 yn yr un ffordd. Un enghraifft o'r newid llefariaid yma oedd bod llefariaid oedd yn cael eu sillafur ou (w yn Gymraeg) newid i au (aw yn Gymraeg); gwelir y gwahaniaeth gydag ynganiad gyfoes "brown cow" yn Saesneg tra i'r Sgoteg gadw ac arddel hyd heddiw "broon coo".
Noder nad gair arall am yr iaith Geltaidd o'r Alban, Gaeleg yw Sgoteg. Maent yn ddwy iaith ar wahân.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Sgoteg, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.