Aderyn sy'n bwydo ar gnawd anifeiliaid eraill yw aderyn ysglyfaethus (hefyd aderyn rheibus neu aderyn rheibiol).
Mae gan adar ysglyfaethus big fachog, crafangau cryf a golwg ardderchog. Mae'r term yn cynnwys gweilch, eryrod, fwlturiaid, hebogiaid a'u perthnasau. Weithiau, ystyrir tylluanod yn adar ysglyfaethus hefyd er nad ydynt yn perthyn i'r lleill.
Math | avian predator, hypercarnivore |
---|---|
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Dosberthir y pum teulu o adar ysglyfaethus sy'n hela yn ystod y dydd mewn un urdd, Falconiformes, yn draddodiadol. Mae rhai tacsonomegwyr yn cydnabod un neu ddwy urdd ychwanegol, Cathartiformes ac Accipitriformes.
Mae'r dau deulu o dylluanod yn perthyn i'r urdd Strigiformes.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Aderyn ysglyfaethus, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.