Mae'r Cudyll bach neu'r Llam-sydyn (Falco columbarius) yn aderyn ysglyfaethus bychan sy'n nythu trwy rannau helaeth o Ewrop, Asia a Gogledd America.
Cudyll bach | |
---|---|
Ceiliog | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Urdd: | Falconiformes |
Teulu: | Falconidae |
Genws: | Falco |
Rhywogaeth: | F. columbarius |
Enw deuenwol | |
Falco columbarius Linnaeus, 1758 |
Adeiledir y nyth un ai ar lawr ar dir agored neu mewn coeden sy'n agos i dir agored. Yn y rhannau hynny lle mae'r gaeafau'n oer mae'n aderyn mudol, yn symud i'r de neu tua'r gorllewin i dreulio'r gaeaf. Lle nad yw'r gaeafau mor oer mae'n aros trwy'r flwyddyn ond yn aml yn symud o'r ucheldiroedd i dreulio'r gaeaf o gwmpas gan y môr.
Mae'r ceiliog y llwydlas ar y cefn a gwawr oren ar y bol. Mae'r iâr, sydd gryn dipyn yn fwy na'r ceiliog, yn frown tywyll ar y cefn ac yn wyn gyda smotiau brown ar y bol.
Prif fwyd y Gwalch bach yw adar bychain, megis ehedyddion a chorhedyddion, sy'n cael eu dal trwy hedfan yn isel ac yn gyflym dros dir agored. Ambell dro mae'n dal pryfed.
Nid yw'n aderyn cyffredin iawn yng Nghymru, ond mae cryn nifer yn nythu ar yr ucheldiroedd, er enghraifft ar Y Berwyn, ac maent i'w gweld yn rheolaidd ger glannau'r môr yn y gaeaf. Credir bod ei niferoedd yn sefydlog.
Yn nhraethawd doethuriaeth Howard WillamsAdar yng Ngwaith y Cywyddwyr (2014) dau gyfeiriad yn unig i’r Cudyll coch sydd, o’i gymharu a 9 cyfeiriad at y Cudyll bach. Arwydd yw hwn, o bosib, nas defnyddid y cudyll coch i ddibenion heboca yn yr Oesoedd Canol cymaint ac y defnyddid ei gefnder llai. Roedd un o'r ddau gyfeiriadau hefyd yn ddigon amwys: meddai Howard, “Nid yw’n anodd credu mai aderyn cyfansawdd a ddisgrifir ambell waith... Ni fyddai beirdd yr Oesoedd Canol yn unigryw yn hyn o beth. Dengys yr aderyn ysglyfaethus yn y gerdd enwog gan I. D. Hooson, ‘Y Cudyll Coch’, nodweddion a berthyn i dair rhywogaeth, sef y Boda a’r Gwalch glas yn ogystal â'r cudyll coch ei hun”.
Mae'r cudyll coch Mauritius yn perthyn i deulu'r Hebogiaid (Lladin: Falconidae). Dyma rai o aelodau eraill y teulu:
Rhestr Wicidata:
rhywogaeth | enw tacson | delwedd |
---|---|---|
Caracara gyddf-felyn | Daptrius ater | |
Caracara gyddfgoch | Ibycter americanus | |
Corhebog adain fannog | Spiziapteryx circumcincta | |
Cudyll Coch | Falco tinnunculus | |
Hebog chwerthinog | Herpetotheres cachinnans | |
Hebog tramor | Falco peregrinus | |
Hebog yr Ehedydd | Falco subbuteo | |
Neohierax insignis | Neohierax insignis |
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Cudyll bach, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.